Digwyddiadau
Dangos 230 o 466 digwyddiad.
Grwpiau Gwau, Crosio a Chrefft - Llyfrgell Cefn Mawr
Mae'r grŵp hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n mwynhau unrhyw beth crefftus - gweu, gwnïo, brodwaith, gwneud cardiau, crosio, macramé ac ati.
Dewch â'r hyn rydych chi'n gweithio arno neu dewch i eistedd a chael sgwrs gyda chrefftwyr eraill!
Sgwrs Chwaraeon - Llyfrgell Gwersyllt
Oes gennych chi ddiddordeb mewn sbort?
Ymunwch â ni yn Llyfrgell Gwersyllt bob dydd Llun i drafod digwyddiadau chwaraeon y penwythnos dros de a bisgedi.
Croeso i bawb!
Amser Lliwio i blant - Llyfrgell Gwersyllt
Sesiynau hwyliog i helpu’ch plentyn i fod yn greadigol a chwrdd â phlant eraill sy’n mwynhau lliwio.
Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur).
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Amser Stori (Amser Straeon a Rhigymau Cymraeg) - Llyfrgell Coedpoeth
Sesiwn Cymraeg hwyliog, cyfeillgar a rhyngweithiol i rieni/gofalwyr a’u babanod/plant bach.
Gwau a Sgwrsio – Llyfrgell Gwersyllt
Grŵp wythnosol lle gallwch gael sgwrs wrth fwrw ymlaen â’ch gwaith gwnïo (neu grosio!).
Cyfle gwych i gwrdd â phobl eraill sy’n mwynhau gwnïo, gwella eich sgiliau neu roi cynnig arni am y tro cyntaf.
Yn addas i oedolion.
Bob dydd Mawrth, 2pm - 4pm.
Clwb llyfrau – Llyfrgell Coedpoeth
Ydych chi wrth eich bodd yn darllen a siarad am lyfrau? Beth am ymuno â’r grŵp yma sy’n union yr un fath?
Ymunwch â ni’r pedwerydd dydd Mawrth o bob mis, 2pm – 3pm.
Grŵp Dros 60 - Llyfrgell Gwersyllt
Ffordd braf o gwrdd â phobl eraill a chymdeithasu.
Darperir lluniaeth.
Mae’r grŵp yn cwrdd bob dydd Mawrth, 2.15pm – 3pm
Amser Stori a Rhigymau (Saesneg) – Llyfrgell Brynteg
Rhieni/gofalwyr â babanod a phlant bach – dewch draw am sesiwn hwyliog o straeon a rhigymau!
I blant dan 5.
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Bob Dydd Mawrth 2.15pm – 2.45pm
Clwb Lego – Llyfrgell y Waun
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Yn addas i blant 4 – 11 oed.
Clwb Lego – Llyfrgell Coedpoeth
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Addas i blant 4 oed a hŷn