Dangos 60 o 466 digwyddiad.

Grŵp Lliwio Meddylgar i Oedolion - Llyfrgell Gwersyllt

Ymunwch â ni am sesiwn tawel o liwio – oedolion yn unig!

Ffordd dda o dawelu’r meddwl a chymdeithasu wrth liwio patrymau a dyluniadau cain.

Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur).

Date: 27 Tachwedd 2024 10:00 - 11:00
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

‘Cylch Ti a Fi’ Grŵp rhieni a babanod/plant bach – Llyfrgell Cefn Mawr

Dewch i gwrdd â rhieni/gwarcheidwaid eraill, cymdeithasu a rhannu profiadau mewn awyrgylch anffurfiol Gymreig wrth i’ch plant fwynhau chwarae â’i gilydd.

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn siarad Cymraeg – mae croeso i bawb yn y Cylch Ti a Fi.

Date: 27 Tachwedd 2024 13:00 - 14:15
Lleoliad
Lôn Plas Kynaston

Clwb Lego – Llyfrgell Cefn Mawr

Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!

Addas i blant 4 oed a hŷn

Date: 27 Tachwedd 2024 15:15 - 15:45
Lleoliad
Plas Lôn Plas Kynaston

Meithrin Hyder - Hwb Lles

Sesiynau cyfeillgar ac anffurfiol yn edrych ar ffyrdd o wella a meithrin eich hyder, gan gynnwys cynllunio ar gyfer gweithredu a'r cymorth sydd ar gael i'ch helpu i gyflawni eich nodau.

Ariannwyd yn llawn (am ddim) ar gyfer pobl 19+ oed sy'n byw yn Wrecsam a Sir y Fflint.

Date: 28 Tachwedd 2024 10:00 - 14:00
Lleoliad
Hwb Lles

Nadolig Fictoraidd ym Marchnadoedd Adnewyddedig Wrecsam

Lansiad Pedwar Diwrnod Marchnadoedd Wedi'u Hadnewyddu / Marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam 2024. Y digwyddiad yn cynnwys: masnachwyr lleol, bwyd a diod poeth, cerddoriaeth fyw, gweithdai thema ac adloniant, gweithgareddau i deuluoedd, hanes lleol
Date: 28 Tachwedd 2024 12:00 - 20:00

Grŵp darllen i oedolion – Llyfrgell Cefn Mawr

Ydych chi wrth eich bodd yn darllen a siarad am lyfrau? Beth am ymuno â’r grŵp yma sy’n union yr un fath?

Rydyn ni’n cwrdd ddydd Iau olaf pob mis rhwng 2pm a 3pm.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Date: 28 Tachwedd 2024 14:00 - 15:00
Lleoliad
Lôn Plas Kynaston

Clwb Cyfeillgarwch - Llyfrgell Brynteg

Un o'r ffyrdd mwyaf hwylus o gymdeithasu ffrindiau yw ymuno â grŵp neu glwb.  Pam na ddewch draw i gwrdd â phobl fel chi i gael sgwrs am y pethau sy'n bwysig i chi dros baned da hen ffasiwn!  Gallwch ddod ag unrhyw brosiect crefft gyda chi, llyfr, cwis - neu'ch hun yn unig! 

Date: 28 Tachwedd 2024 14:00 - 16:00
Lleoliad
Llyfrgell Brynteg

Amser Stori a Rhigymau (Saesneg) – Llyfrgell y Waun

Rhieni/gofalwyr â babanod a phlant bach – dewch draw am sesiwn hwyliog o straeon a rhigymau!

Dan 5 Oed.

Am ddim.  Dim angen archebu, dim ond galw heibio!

Bob dydd Iau 2.15pm - 2.45pm

Date: 28 Tachwedd 2024 14:15 - 14:45
Lleoliad
Lôn y Capel

Sesiwn cyfnewid sticeri a cherdyn masnachu – Llyfrgell Gwersyllt

Ydych chi dan 16 oed ac yn casglu neu'n masnachu sticeri? Os felly beth am ymuno â ni yn llyfrgell Gwersyllt bob dydd Iau 4.15-4.45pm.

Dewch ag un, ewch ag un a chwblhewch eich casgliad.

Agored i blant o bob oed. Mae'n ddrwg gennym - ni chaniateir unrhyw fasnachwyr sy'n oedolion!

Date: 28 Tachwedd 2024 16:15 - 16:45
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Galwch Heibio i Rieni – Llyfrgell Cefn Mawr

Gollwng eich plant a galwch yn y llyfrgell am baned a sgwrs.

Bob dydd Gwener (yn ystod y tymor ysgol) o 8:45am - 9:45am

Date: 29 Tachwedd 2024 08:45 - 09:45
Lleoliad
Lôn Plas Kynaston