Digwyddiadau
Dangos 70 o 354 digwyddiad.
Grŵp darllen i oedolion – Llyfrgell Llai
Grŵp cyfeillgar o bobl sy'n caru eu llyfrau!
Bob tro mae'r grŵp yn cwrdd maent yn trafod teitl gwahanol ac yn rhannu meddyliau am yr ysgrifennu.
Mae croeso i aelodau newydd!
Dydd Mawrth cyntaf bob mis, 2pm - 3pm
Gwau a Sgwrsio – Llyfrgell Gwersyllt
Amser Stori a Rhigymau (Saesneg) – Llyfrgell Brynteg
Rhieni/gofalwyr â babanod a phlant bach – dewch draw am sesiwn hwyliog o straeon a rhigymau!
I blant dan 5.
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Bob Dydd Mawrth 2.15pm – 2.45pm
Grŵp Dros 60 - Llyfrgell Gwersyllt
Clwb Lego – Llyfrgell y Waun
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Yn addas i blant 4 – 11 oed.
Clwb Lego – Llyfrgell Coedpoeth
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Addas i blant 4 oed a hŷn
Amser Stori Plant Bach – Llyfrgell Llai
Ar gyfer rhieni/gofalwyr a'u plant bach (o dan 5 oed).
Mae amserau stori yn ffordd wych o hybu datblygiad plentyn trwy adeiladu geirfa, tanio dychymyg, datblygu deallusrwydd emosiynol a chariad at ddarllen i gyd wrth gael llawer o hwyl.
Siop Gyfnewid Jig-so – Llyfrgell Brynteg
Dewch draw i gyfnewid eich jig-so o blith detholiad o'r rhai a roddwyd/cyfnewid gan eraill.
Gofynnwn i chi ddod â phosau cyflawn yn unig!
Ar bob ddydd Mercher cyntaf y mis, 2.30pm - 4.30pm.
Clwb Lego – Llyfrgell Llai
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Addas i blant 4 oed a hŷn
Cefn Yn Cofio – Llyfrgell Cefn Mawr
Ymunwch â’r grŵp i siarad/clywed am hen atgofion, boed y rheiny’n rhai lleol neu’n dod o bell i ffwrdd.
Dewch â hen luniau neu unrhyw beth hoffech rannu gyda’r grŵp.
Rhedeg mewn partneriaeth rhwng Llyfrgell Cefn Mawr ac Amgueddfa Cefn Mawr.
Darperir lluniaeth.