Dangos 220 o 353 digwyddiad.

Grwpiau Gwau, Crosio a Chrefft - Llyfrgell Cefn Mawr

Mae'r grŵp hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n mwynhau unrhyw beth crefftus - gweu, gwnïo, brodwaith, gwneud cardiau, crosio, macramé ac ati.

Dewch â'r hyn rydych chi'n gweithio arno neu dewch i eistedd a chael sgwrs gyda chrefftwyr eraill!

Date: 24 Mawrth 2025 13:00 - 16:00
Lleoliad
Lôn Plas Kynaston

Clwb Cyfeillgarwch - Llyfrgell Llai

Ffordd hamddenol o gwrdd â phobl eraill a chymdeithasu. Sgwrs am y pethau sy'n bwysig i chi dros baned da hen ffasiwn!  

Gallwch ddod ag unrhyw brosiect crefft gyda chi, llyfr, cwis - neu'ch hun yn unig!

Darperir lluniaeth.

Bob Dydd Llun 2pm – 4pm

Date: 24 Mawrth 2025 14:00 - 16:00
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Parc Llai

Sgwrs Chwaraeon - Llyfrgell Gwersyllt

Yn wythnosol - Ymunwch â ni yn Llyfrgell Gwersyllt i drafod digwyddiadau chwaraeon y penwythnos dros de a bisgedi.
Date: 24 Mawrth 2025 14:00 - 15:00
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Grwp Sgwrsio - Llyfrgell Rhos

Oes gennych awydd dysgu siarad Cymraeg a mwynhau paned yr un pryd mewn awyrgylch anffurfiol?

Ymunwch â ni yn Llyfrgell Rhos pob pnawn Dydd Llun am 2 o'r gloch

Addas i rai di Gymraeg a phawb sydd â diddordeb.

Croeso cynnes i bawb!

Date: 24 Mawrth 2025 14:00 - 15:00
Lleoliad
Ffordd y Tywysog

Amser Lliwio i blant - Llyfrgell Gwersyllt

Sesiynau hwyliog i helpu’ch plentyn i fod yn greadigol a chwrdd â phlant eraill sy’n mwynhau lliwio.

Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur). 

Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!

Date: 24 Mawrth 2025 15:00 - 16:45
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Amser Stori (Amser Straeon a Rhigymau Cymraeg) - Llyfrgell Coedpoeth

Sesiwn Cymraeg hwyliog, cyfeillgar a rhyngweithiol i rieni/gofalwyr a’u babanod/plant bach.

Date: 25 Mawrth 2025 10:00 - 11:00
Lleoliad
Canolfan Cymunedol Plas Pentwyn

Hel atgofion / Amser i Gofio – Llyfrgell Llai

Ymunwch â ni yn Llyfrgell Llai er mwyn:

  • Rhannu eich atgofion
  • Cofio amser gorffennol gyda llyfrau
  • Cymeryd rhan mewn gweithgareddau newydd
  • Cyfarfod a sgwrsio efo pobl eraill

Croesawn unigolion, teuluouedd a gofalwyr!

Date: 25 Mawrth 2025 13:00 - 14:00
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Parc Llai

Gwau a Sgwrsio – Llyfrgell Gwersyllt

Grŵp wythnosol lle gallwch gael sgwrs wrth fwrw ymlaen â’ch gwaith gwnïo (neu grosio!)
Date: 25 Mawrth 2025 14:00 - 16:00
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Clwb llyfrau – Llyfrgell Coedpoeth

Ydych chi wrth eich bodd yn darllen a siarad am lyfrau? Beth am ymuno â’r grŵp yma sy’n union yr un fath?

Ymunwch â ni’r pedwerydd dydd Mawrth o bob mis, 2pm – 3pm.

Date: 25 Mawrth 2025 14:00 - 15:00
Lleoliad
Canolfan Cymunedol Plas Pentwyn

Amser Stori a Rhigymau (Saesneg) – Llyfrgell Brynteg

Rhieni/gofalwyr â babanod a phlant bach – dewch draw am sesiwn hwyliog o straeon a rhigymau!

I blant dan 5.

Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!

Bob Dydd Mawrth 2.15pm – 2.45pm

Date: 25 Mawrth 2025 14:15 - 14:45
Lleoliad
Llyfrgell Brynteg