Digwyddiadau
Dangos 150 o 353 digwyddiad.
Clwb Scrabble – Llyfrgell Coedpoeth
Dewch i gwrdd â phobl newydd a chael hwyl wrth wella eich geirfa a’ch sgiliau gyda’r gêm boblogaidd hon!
Bob dydd Gwener, 2pm - 4pm.
Grŵp Crefftau Oedolion – Llyfrgell Llai
Dewch â'ch crefftau eich hun i weithio arnynt, gallwch sgwrsio a rhannu awgrymiadau/dysgu gydag eraill sy'n mwynhau crefftio!
Wythnosol ar ddydd Gwener, 3pm - 4.30pm.
Clwb Lego – Llyfrgell Gwersyllt
Clwb Lego – Llyfrgell Brynteg
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Grŵp darllen i oedolion - Llyfrgell y Waun
Ydych chi wrth eich bodd yn darllen a siarad am lyfrau? Beth am ymuno â’r grŵp yma sy’n union yr un fath?
Ymunwch â ni ddydd Llun cyntaf bob mis am 1pm.
Grwpiau Gwau, Crosio a Chrefft - Llyfrgell Cefn Mawr
Mae'r grŵp hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n mwynhau unrhyw beth crefftus - gweu, gwnïo, brodwaith, gwneud cardiau, crosio, macramé ac ati.
Dewch â'r hyn rydych chi'n gweithio arno neu dewch i eistedd a chael sgwrs gyda chrefftwyr eraill!
Sgwrs Chwaraeon - Llyfrgell Gwersyllt
Grwp Sgwrsio - Llyfrgell Rhos
Oes gennych awydd dysgu siarad Cymraeg a mwynhau paned yr un pryd mewn awyrgylch anffurfiol?
Ymunwch â ni yn Llyfrgell Rhos pob pnawn Dydd Llun am 2 o'r gloch
Addas i rai di Gymraeg a phawb sydd â diddordeb.
Croeso cynnes i bawb!
Clwb Cyfeillgarwch - Llyfrgell Llai
Ffordd hamddenol o gwrdd â phobl eraill a chymdeithasu. Sgwrs am y pethau sy'n bwysig i chi dros baned da hen ffasiwn!
Gallwch ddod ag unrhyw brosiect crefft gyda chi, llyfr, cwis - neu'ch hun yn unig!
Darperir lluniaeth.
Bob Dydd Llun 2pm – 4pm
Amser Lliwio i blant - Llyfrgell Gwersyllt
Sesiynau hwyliog i helpu’ch plentyn i fod yn greadigol a chwrdd â phlant eraill sy’n mwynhau lliwio.
Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur).
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!