Digwyddiadau
Dangos 130 o 353 digwyddiad.
Clwb Lego – Llyfrgell Brynteg
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Grwpiau Gwau, Crosio a Chrefft - Llyfrgell Cefn Mawr
Mae'r grŵp hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n mwynhau unrhyw beth crefftus - gweu, gwnïo, brodwaith, gwneud cardiau, crosio, macramé ac ati.
Dewch â'r hyn rydych chi'n gweithio arno neu dewch i eistedd a chael sgwrs gyda chrefftwyr eraill!
Clwb Cyfeillgarwch - Llyfrgell Llai
Ffordd hamddenol o gwrdd â phobl eraill a chymdeithasu. Sgwrs am y pethau sy'n bwysig i chi dros baned da hen ffasiwn!
Gallwch ddod ag unrhyw brosiect crefft gyda chi, llyfr, cwis - neu'ch hun yn unig!
Darperir lluniaeth.
Bob Dydd Llun 2pm – 4pm
Sgwrs Chwaraeon - Llyfrgell Gwersyllt
Grwp Sgwrsio - Llyfrgell Rhos
Oes gennych awydd dysgu siarad Cymraeg a mwynhau paned yr un pryd mewn awyrgylch anffurfiol?
Ymunwch â ni yn Llyfrgell Rhos pob pnawn Dydd Llun am 2 o'r gloch
Addas i rai di Gymraeg a phawb sydd â diddordeb.
Croeso cynnes i bawb!
Amser Lliwio i blant - Llyfrgell Gwersyllt
Sesiynau hwyliog i helpu’ch plentyn i fod yn greadigol a chwrdd â phlant eraill sy’n mwynhau lliwio.
Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur).
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Amser Stori (Amser Straeon a Rhigymau Cymraeg) - Llyfrgell Coedpoeth
Sesiwn Cymraeg hwyliog, cyfeillgar a rhyngweithiol i rieni/gofalwyr a’u babanod/plant bach.
Hel atgofion / Amser i Gofio – Llyfrgell Llai
Ymunwch â ni yn Llyfrgell Llai er mwyn:
- Rhannu eich atgofion
- Cofio amser gorffennol gyda llyfrau
- Cymeryd rhan mewn gweithgareddau newydd
- Cyfarfod a sgwrsio efo pobl eraill
Croesawn unigolion, teuluouedd a gofalwyr!
Gwau a Sgwrsio – Llyfrgell Gwersyllt
Clwb llyfrau – Llyfrgell Coedpoeth
Ydych chi wrth eich bodd yn darllen a siarad am lyfrau? Beth am ymuno â’r grŵp yma sy’n union yr un fath?
Ymunwch â ni’r pedwerydd dydd Mawrth o bob mis, 2pm – 3pm.