Digwyddiadau
Dangos 10 o 355 digwyddiad.
Amser Stori Plant Bach – Llyfrgell Llai
Ar gyfer rhieni/gofalwyr a'u plant bach (o dan 5 oed).
Mae amserau stori yn ffordd wych o hybu datblygiad plentyn trwy adeiladu geirfa, tanio dychymyg, datblygu deallusrwydd emosiynol a chariad at ddarllen i gyd wrth gael llawer o hwyl.
Clwb Lego – Llyfrgell Llai
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Addas i blant 4 oed a hŷn
Clwb Cyfeillgarwch - Llyfrgell Brynteg
Un o'r ffyrdd mwyaf hwylus o gymdeithasu ffrindiau yw ymuno â grŵp neu glwb. Pam na ddewch draw i gwrdd â phobl fel chi i gael sgwrs am y pethau sy'n bwysig i chi dros baned da hen ffasiwn! Gallwch ddod ag unrhyw brosiect crefft gyda chi, llyfr, cwis - neu'ch hun yn unig!
Grŵp crefftau iau - Llyfrgell Llai
Dewch draw ac ewch ati i greu! Darperir deunyddiau.
Yn addas i blant 4 – 11 oed.
Dydd Iau (yn ystod y tymor yn unig) 3.30m - 4.30pm
Gwnïo a Sgwrsio - Llyfrgell Coedpoeth
Grŵp wythnosol lle gallwch gael sgwrs wrth fwrw ymlaen â’ch gwaith gwnïo.
Addas i bawb sy’n awyddus i wella neu rannu eu sgiliau, neu roi cychwyn arni am y tro cyntaf.
Clwb Scrabble – Llyfrgell Coedpoeth
Dewch i gwrdd â phobl newydd a chael hwyl wrth wella eich geirfa a’ch sgiliau gyda’r gêm boblogaidd hon!
Bob dydd Gwener, 2pm - 4pm.
Grŵp Crefftau Oedolion – Llyfrgell Llai
Dewch â'ch crefftau eich hun i weithio arnynt, gallwch sgwrsio a rhannu awgrymiadau/dysgu gydag eraill sy'n mwynhau crefftio!
Wythnosol ar ddydd Gwener, 3pm - 4.30pm.
Clwb Lego – Llyfrgell Gwersyllt
Diwrnod Plannu Coed - Pen-y-cae
Ydych chi eisiau helpu’r amgylchedd, bod yn actif yn yr awyr agored a chwrdd ag eraill yn y gymuned wrth wneud hyn?
Byddwch yn wirfoddolwr am y diwrnod - helpu i blannu coed ar hyd llwybr troed Ffordd Llannerch!
Clwb Lego – Llyfrgell Brynteg
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!