Trosolwg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-2026
Fel y cyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref ar 30 Hydref 2024, bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei hymestyn i 2025-26 ar lefel is o £900 miliwn.
- Dyraniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw £7,608,591 (£5,499,417 – refeniw, £2,109,174 – cyfalaf)
- Gellir defnyddio dyraniad 2025-26 i gefnogi buddsoddiad mewn gweithgareddau rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026
Yn ogystal â chefnogi tair blaenoriaeth buddsoddi bresennol CFfGDU (‘Cymuned a Lle’, ‘Cefnogi Busnesau Lleol’ a ‘Pobl a Sgiliau’), mae Llywodraeth y DU wedi llunio cynllun uchelgeisiol ar gyfer newid.
Mae'r cynllun hwn yn canolbwyntio ar 5 cenhadaeth genedlaethol:
- Cenhadaeth 1: Sbarduno twf economaidd
- Cenhadaeth 2: Gwneud Prydain yn uwch-bŵer o ran ynni glân
- Cenhadaeth 3: Cymryd rheolaeth yn ôl o'n strydoedd
- Cenhadaeth 4: Chwalu'r rhwystrau i gyfleoedd
- Cenhadaeth 5: Adeiladu GIG sy'n barod at y dyfodol
Mae’r ymyriadau presennol wedi cael eu mapio i themâu a arweinir gan genhadaeth ar draws y tri maes blaenoriaeth.
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru
Dyraniad CFfGDU ar gyfer Gogledd Cymru yn 2025-26 fydd £42,416,709.
Cyflwyno CFfGDU yng Ngogledd Cymru
Er mwyn lleihau costau a chymhlethdod, bydd awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i weinyddu CFfGDU. Fodd bynnag, bydd pob penderfyniad ynghylch ble fydd yr arian yn mynd yn cael ei wneud yn lleol ym mhob ardal.
Yn Wrecsam, byddwn yn gwahodd ceisiadau am gyllid o’r gronfa drwy broses ymgeisio un cam fel y manylir isod.
Bydd y rhan fwyaf o'r arian yn cael ei ddosbarthu drwy grantiau i gefnogi sefydliadau i gyflawni prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn mewn cymunedau lleol.
Mae'r cyfle cyntaf i gyflwyno ceisiadau am gyllid bellach ar agor ac fe fydd yn cau am hanner dydd ar 17 Mawrth 2025. Mae’n bosibl y bydd cyfleoedd eraill i gyflwyno ceisiadau yn y dyfodol os bydd arian dros ben yn y gronfa.
Bydd awdurdodau lleol yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian, gyda chyngor gan bartneriaeth o randdeiliaid lleol.
Yr hyn y bydd CFfGDU yn ei gefnogi
Mae'r amcanion ar gyfer pob un o dair blaenoriaeth buddsoddi CFfGDU - cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau - wedi’u hamlinellu ym Mhrosbectws CFfGDU.
Yng Nghymru, caniateir ymyriadau blaenorol CFfGDU (ac eithrio 'Lluosi') sy'n cwmpasu'r tair blaenoriaeth buddsoddi.
Yn 2025-26, ni fydd y rhaglen Lluosi yn parhau fel rhaglen benodol wedi'i chlustnodi. Mae awdurdodau lleol yn cadw'r hyblygrwydd i ddefnyddio eu dyraniad lleol yn ôl yr angen, gan gynnwys i barhau i ariannu cymorth rhifedd i oedolion ochr yn ochr â'r gyfres ehangach o weithgareddau sy’n gysylltiedig â phobl a sgiliau.
Er mwyn darparu cymaint o hyblygrwydd â phosibl, bydd awdurdodau lleol Gogledd Cymru yn caniatáu i ymgeiswyr ddewis unrhyw un o'r allbynnau a'r canlyniadau a restrir sy'n berthnasol i'r flaenoriaeth / blaenoriaethau buddsoddi y mae eu prosiect yn mynd i'r afael â hwy.
Yn ogystal â dangos aliniad â’r UKSPF ei hun, rhaid i brosiectau sy’n ceisio cymorth yng Ngogledd Cymru:
- dangos sut y maent yn ychwanegu gwerth at, ac wedi eu hintegreiddio â, gweithgaredd cyfredol ac arfaethedig yn y maes perthnasol, gan osgoi dyblygu;
- fod wedi ymgysylltu â, a derbyn cefnogaeth gan, rhanddeiliaid perthnasol yn y maes gweithgaredd a'r ardaloedd y byddant yn gweithredu ynddynt;
- helpu i wireddu - neu fod yn gydnaws â - polisïau a strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol; a,
- deall a mynd i'r afael ag anghenion yr ardaloedd lleol y maent yn bwriadu gweithredu ynddynt a helpu i wireddu'r blaenoriaethau / strategaethau lleol perthnasol.
Gall strategaethau a chynlluniau rhanbarthol perthnasol gynnwys (nid rhestr gyflawn):
Gall cynlluniau a strategaethau lleol perthnasol gynnwys:
Pethau pwysig i'w gwybod
- Mae'r amserlen ar gyfer defnyddio CFfGDU yn fyr. Yn ymarferol, bydd angen cwblhau pob prosiect a chyflwyno hawliadau terfynol erbyn Mawrth 31, 2026.
- Rhaid i bob prosiect a gyflwynir geisio o leiaf £50,000 hyd at uchafswm o £700,000 o gronfeydd CFfGDU.
- I alluogi busnesau, sefydliadau a chymunedau lleol sy'n ceisio symiau llai o gymorth cael mynediad at arian UKSPF; bydd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ceisio sefydlu cronfeydd cyfryngol yn lleol, gan ddarparu trefn ymgeisio, cymeradwyo a monitro symlach. Bydd gwybodaeth am y cronfeydd hyn yn ymddangos ar wefannau awdurdodau lleol unigol pan fydd ar gael.
- Fel y nodwyd yn flaenorol, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dyraniadau CFfGDU ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2026, dim ond yn flynyddol y mae’r cyllid yn cael ei gadarnhau. Bydd y cytundebau ariannu a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ymgeiswyr llwyddiannus yn adlewyrchu hyn. Bydd unrhyw ymgeisydd sy'n ymrwymo i wariant y tu hwnt i'r cyfnod y cadarnheir cyllid ar ei gyfer yn gwneud hynny ar ei risg ei hun.
- Mae unrhyw gais a wneir i gronfa Wrecsam yn amodol ar i'r awdurdod lleol arweiniol dderbyn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i ddiweddaru a llythyr penderfyniad y grant, na ddisgwylir tan ddechrau blwyddyn ariannol 2025/2026.
- Mae'r cyfnod cymwys ar gyfer gwariant o dan CFfGDU yn dechrau ar 1 Ebrill 2025. Gall ymgeiswyr felly gynnwys elfen o wariant ôl-weithredol yn eu ceisiadau. Noder y bydd unrhyw wariant a wneir gan ymgeiswyr cyn arwyddo cytundeb cyllid grant yn gyfan gwbl ar risg eu hunain.
- Mae’r UKSPF yn cynnwys cyllid cyfalaf a refeniw. Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig, prosiectau refeniw yn unig neu brosiectau sy'n ceisio cyfuniad o'r ddau.
- Bydd gweithredu yn unol â threfn rheoli cymhorthdal y DU a ddechreuodd ar 4 Ionawr 2023, yn allweddol ar gyfer unrhyw brosiect. Dylai pob ymgeisydd ymgyfarwyddo â gofynion y drefn:
- O ystyried yr amgylchiadau cyfyngedig ar gyfer cyflawni’r UKSPF, bydd hyder yn y gallu cynigion a gyflwynir i gyflawni yn ystyriaeth allweddol i awdurdodau lleol ochr yn ochr â chapasiti a gallu'r sefydliad sy’n ymgeisio.
Dewis prosiectau
Gan adlewyrchu'r pwyslais gan awdurdodau lleol Gogledd Cymru ar benderfyniadau lleol bydd pob ardal leol yn penderfynu sut y dymunant ddewis prosiectau ar gyfer cefnogaeth UKSPF.
Fodd bynnag, bydd ystyriaethau cyffredin yn cynnwys:
- alinio cynigion â buddsoddiadau ac ymyriadau â blaenoriaeth yr UKSPF;
- allbynnau a chanlyniadau disgwyliedig cynigion;
- ychwaneged ac aliniad prosiectau arfaethedig gyda gweithgaredd presennol a gweithgaredd arfaethedig;
- y gallu i gyflawni a chapasiti / gallu'r ymgeisydd (gan gynnwys ymwybyddiaeth o ofynion cyfreithiol a rheoliadol); a,
- aliniad cynigion gydag anghenion cenedlaethol, rhanbarthol ac, yn fwyaf arbennig, lleol.
Bydd ardaloedd lleol yn ystyried y cymysgedd cyffredinol o weithgareddau a gynigir yn ogystal â chynigion unigol, i sicrhau yr eir i'r afael ag anghenion eu hardaloedd ac amcanion blaenoriaethau buddsoddi'r UKSPF.
Fel y nodwyd, bydd awdurdodau lleol yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian gan ystyried cyngor partneriaeth o randdeiliaid lleol. Bydd barn rhanddeiliaid allweddol o fewn y maes gweithgaredd mae'r prosiect am weithio ynddo hefyd yn cael ei geisio a'i ystyried.
Sut i wneud cais
Bydd ceisiadau am gyllid yn dilyn proses un cam.
Bydd angen i chi gofrestru cyfrif ar gyfer eich sefydliad ar FyNghyfrif er mwyn gallu ymgeisio.
Bydd y ffurflen gais yn cael ei darparu drwy FyNghyfrif, sy'n eich galluogi i gadw cynnydd, lanlwytho tystiolaeth a chyflwyno eich cais llawn.
Drwy gyflwyno cais llawn, byddwch yn ein hawdurdodi ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen i weinyddu rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Efallai y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Allweddol Wrecsam.
Efallai y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd canlynol:
Mwy o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod eich cynnig, cysylltwch â’r awdurdod lleol/awdurdodau perthnasol a’r Gronfa Ffyniant a Rennir: Tîm Gogledd Cymru os ydych am gyflwyno prosiect ar draws mwy nag un ardal awdurdod lleol:
Wrecsam - e-bost: CronfaFfyniantGyffredin@wrexham.gov.uk