Mae gwastraff swmpus yn golygu eitemau sy’n rhy fawr neu’n rhy drwm i gael gwared â hwy drwy’r casgliadau biniau arferol (eitemau megis dodrefn, nwyddau gwynion a chyfarpar yr ardd).

Gellwch drefnu i gael gwared ag eitemau swmpus y cartref ar-lein, a byddwn yn casglu’r eitemau gennych. Gellir casglu hyd at wyth eitem am isafswm o £44.50 (bydd ffioedd ychwanegol ar gyfer mwy nag wyth eitem, gyda phob eitem ychwanegol yn costio £8.90).

Fel canllaw, byddai swît dridarn yn cyfri fel 3 eitem, bwrdd a 4 cadair yn 5 eitem, a gwaelod gwely, pen gwely a matres yn 3 eitem.

Archebu Casgliad Gwaredu Eitemau Swmpus o’r Cartref

Dechreuwch rŵan

Eitemau y gellir eu cynnwys mewn casgliadau eitemau swmpus o’r cartref

Eitemau y gallwn eu cymryd...

  • Dodrefn (yn cynnwys byrddau, cadeiriau, switiau, gwelyau, matresi, cypyrddau, desgiau, silffoedd llyfrau, cypyrddau dillad)
  • Nwyddau gwyn (yn cynnwys oergelloedd, rhewgelloedd, poptai, peiriannau sychu dillad, microdonnau)
  • Cyfarpar garddio (yn cynnwys peiriannau torri gwair bach, offer garddio, byrddau a chadeiriau gardd, barbeciws, beics)
  • Carped (darnau bychain o garped ac isgarped - toriadau neu garpedi maint un ystafell yn unig)
  • Offer trydanol ac electronig (yn cynnwys cyfrifiaduron, setiau teledu)

Os yw eich casgliad yn cynnwys eitemau trydanol rhaid i chi nodi hyn wrth archebu. 

Eitemau na allwn eu cymryd...

  • Gwastraff gardd (gan gynnwys gwair / toriadau gwrychoedd, coed) 
  • Pren (gan gynnwys siediau, ffensys, byrddau sgyrtin, pendrawstiau, ffyn crafanc, dodrefn wedi torri, cytiau cŵn)
  • Metel (gan gynnwys bariau haearn, haearn rhychog, drysau garej, giatiau) 
  • Deunyddiau DIY (gan gynnwys brics, blociau, concrid, pibellau, landeri, plastrfwrdd, paent) 
  • Gosodiadau (gan gynnwys llefydd tân, ceginau, dodrefn ystafell ymolchi, drysau, gwresogyddion, gwresogyddion storio, silindrau / tanciau dŵr, systemau gwresogi, ffyn canllaw grisiau, ffenestri, drysau llithro, tanau gyda gwydr ar eu blaen) 
  • Amrywiol (yn cynnwys asbestos, gwagu cartrefi, gwelyau haul, tanciau olew, silindrau nwy, rhannau o geir, storfeydd glo concrid, pianos) 
  • Bagiau (yn cynnwys gwastraff cartref, gwastraff gardd) 

Dim ond casgliad ymyl palmant y mae’r cyngor yn ei gynnig o ran gwastraff gardd/organig yn y bin gwyrdd, nid ydym yn cynnig unrhyw wasanaethau casglu pellach ar gyfer gwastraff gwyrdd, pridd neu rwbel. Os oes gennych wastraff gardd nad yw’n ffitio yn eich bin gwyrdd gallwch fynd ag ef i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff cartref

Lle ddylwn i adael fy eitemau? 

Gadewch yr eitemau sydd i’w casglu y tu allan i’ch eiddo (mewn man lle byddwn yn gallu eu cyrraedd, fel yr ardd ffrynt neu’r ardd gefn).

Pa mor fuan fydd fy eitemau’n cael eu casglu?

Unwaith yr ydych wedi trefnu i waredu eitem swmpus, bydd yn cael ei gasglu ar y dydd Gwener nesaf sydd ar gael.  Fe’ch hysbysir o’r dyddiad.

Mae’n rhaid i’r eitemau fod wedi eu gosod yn barod i’w casglu erbyn 7:30am.

(Mewn amgylchiadau eithriadol efallai na fydd yn bosibl casglu eich eitem(au) ar y dyddiad y cytunwyd arno. Yn yr achos hwn byddwn yn rhoi gwybod i chi, ac yn dychwelyd o fewn y 5 diwrnod gwaith nesaf i gasglu).

Pan fyddwch yn gadael eitemau allan, sicrhewch eu bod:

  • Yn sych ac wedi eu gorchuddio – yn enwedig dodrefn
  • Mewn man hygyrch pan ydym yn eu casglu
  • Yn gallu cael eu hadnabod yn hawdd
  • Yr eitemau a drefnwyd i’w casglu yn unig – bydd unrhyw eitem arall na ddisgrifiwyd yn cael ei gadael

Os bydd unrhyw eitem yn fudr iawn, ni fydd yn cael ei chasglu.

Os na fodlonir yr amodau hyn, ni fyddwn yn casglu’r eitemau ac mae’n bosibl ni chewch ad-daliad (codir tâl llawn am gasgliad rhannol).

Opsiynau amgen ar gyfer gwaredu eitemau swmpus o’r cartref 

Gallwch fynd ag eitemau sy’n rhy fawr neu sy’n rhy drwm i’ch bin arferol i’ch canolfan ailgylchu gwastraff cartref lleol. 

Mae nifer o lefydd hefyd lle gallwch gyfrannu dodrefn yn Wrecsam.