Mae ardaloedd cadwraeth yn rhan hynod o amgylchedd hanesyddol Cyngor Bwrdeistref Wrecsam. Rydym ni (yr awdurdod cynllunio lleol) yn dynodi’r ardaloedd hyn oherwydd eu pensaernïaeth neu ddiddordeb hanesyddol arbennig.

Mae diddordeb arbennig ardal gadwraeth yn cael ei fynegi gan gyfuniad o nodweddion. Mae enghreifftiau o’r nodweddion hyn yn cynnwys:

  • patrwm anheddiad
  • y ffordd mae’r lle a’r plotiau adeiladu wedi’u trefnu
  • rhwydwaith o lwybrau/ffyrdd
  • math o adeiladau a’u harddull, gan gynnwys eu defnyddiau /manylion

Mae seilwaith gwyrdd yn bwysig hefyd a gall parciau, gerddi, gwrychoedd, coed a nodweddion dŵr oll gyfrannu at gymeriad ardal gadwraeth.

Ardaloedd cadwraeth dynodedig ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Ar hyn o bryd mae 23 o ardaloedd cadwraeth dynodedig yn y Fwrdeistref Sirol. Mae map o bob ardal ar gael, ynghyd ag Asesiad o Gymeriad a Chynlluniau Rheoli.