Annwyl Athrawon, Addysgwyr Cartref a Theuluoedd

Yn sgil ein prosiect ailddatblygu cyffrous fe fydd ein rhaglen ddysgu yn cael ei oedi o fis Medi 2023.

Er na fydd modd i ni eich croesawu chi i’n hamgueddfa, fe fyddwn ni’n gweithio yn y cefndir ar raglen ddysgu newydd. Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni, felly os hoffech chi helpu i lywio ein rhaglenni yn y dyfodol, cysylltwch â museumeducation@wrexham.gov.uk ac fe allwn ni eich ychwanegu chi at ein paneli ymgynghori.

Fe fyddwn ni’n ychwanegu’r newyddion diweddaraf yma ar ein tudalen we.


Gwirfoddoli

Mae ein rhaglen Gwirfoddoli ar stop am y tro yn sgil ein rhaglen ailddatblygu gyffrous. Fe fyddwn ni’n edrych ar rolau gwirfoddoli gwahanol ar gyfer ein hamgueddfa yn y dyfodol a bydd unrhyw gyfleoedd yn cael eu hysbysebu yma ar ein tudalen we.

Cedwir pob hawl