Y Byllau Plwm y Mwynglawdd Arlein

Croeso i Byllau Plwm y Mwynglawdd.

Y Mwynglawdd - y fan lle'r oedd mwyngloddio mor bwysig gel y cafodd y pentref ei enwi ar ei ôl. Daw enw'r Minera o'r gair Lladin canoloesol am fwynglawdd neu fwyn.


Oddi tanoch ceir metel gwerthfawr y mae pobl wedi'i ddefnyddio am dros 8,000 o flynyddoedd - plwm. Yma yn Siafft y Ddôl mae'r plwm yn ddwfn o dan ddaear. Er, ar Fynyddoedd Eisteddfod ac Esclusham, uwchben y Mwynglawdd, lle mae'r plwm ar yr wyneb neu'n agos i'r wyneb, roedd y gweithfeydd cyntaf.

Llun o mwynwyr gan Llanarmon-yn-Il.  Archifdy Sir Ddinbych
Mwynwyr gan Llanarmon-yn-Iâl.
© Archifdy Sir Ddinbych

Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf am fwynwyr y Mwynglawdd yn dyddio o 1296 pan huriodd Edward I nhw yn ei fwyngloddiau newydd yn Nyfnaint. Gorchmynnwyd y mwynwyr i gyflwyno eu hunain i wasanaethu. Ni aeth bob un ohonynt gan fod gwaith yn mynd rhagddo ym mhyllau plwm y Mwynglawdd tan y Pla Du (1349).

Llun o Torri'r plwm yn null y 16eg ganrif.  Georgius Agricola a Carl Parry
Torri'r plwm yn null y 16eg ganrif
© Georgius Agricola & Carl Parry

Yn ystod y 15 fed ganrif ychydig o waith mwyngloddio a wnaed gan fod gwrthryfel Owain Glyndwr a Rhyfeloedd y Rhosynnau wedi achosi dirywiad yn yr economi.

O dan y Tuduriaid (16 eg ganrif) roedd y tirfeddianwyr a'r masnachwyr lleol yn ymdrechu'n rheolaidd i ailgychwyn y gwaith yn y mwyngloddiau. Nid oeddent yn llwyddo'n aml.

Llun o cartwn: 'Mae'r mwyngloddio hwn am blwm yn waith caled ond mae'n arian da o'i gymharu a gweithio ar y tir'.
Llun o cartwn: 'Mae'r mwyngloddio hwn am blwm yn waith caled ond mae'n arian da o'i gymharu a gweithio ar y tir'.
Llun o cartwn: 'Mae'r mwyngloddio hwn am blwm yn waith caled ond mae'n arian da o'i gymharu a gweithio ar y tir'. Llun o cartwn: 'Mae'r mwyngloddio hwn am blwm yn waith caled ond mae'n arian da o'i gymharu a gweithio ar y tir'.

Ym 1527 talodd Sir John Chilston a Launcelot Lowther, dau swyddog lleol, 20 swllt y flwyddyn i gael yr hawliau mwyngloddio plwm lleol. Roedd y rhain yn cynnwys:

" holl fwyngloddiau plwm, wedi'u hagor ac i'w hagor, wedi'u gadael a heb neb yn eu gweithio neu nad oedd cof am eu defnyddio, gyda phwerau, rhyddid ac awdurdod llawn i dyllu, suddo, cloddio, agor, chwilio a chanfod pob math o blwm, mwyn neu sypiau o blwm. "

Roedd ganddynt hawliau hefyd i gloddio glo a cherrig. Er hynny ni allent wneud elw. Dim ond perchnogion yr hawliau mwnol, tirfeddianwyr fel y Grosvenors, lwyddodd i wneud arian.

yn ôl i'r brig