Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi sy’n cael eu darparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Lôn y Bryn, Stad Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT
Dyddiadau | Amser Agor | Amser Cau |
---|---|---|
Bob Dydd | 8.00am | 8.00pm |
Ni chaniateir cerbydau math Masnachol mawr sy’n fwy na 7.5 tunnell (gan gynnwys Faniau Ceffylau) ar y safle, mae’n ddrwg gennym
Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR
Dyddiadau | Amser Agor | Amser Cau |
---|---|---|
Mawrth | 9.00am | 6.00pm |
Ebrill - Awst | 9.00am | 8.00pm |
Medi | 9.00am | 6.00pm |
Hydref - Chwefror | 9.00am | 4.00pm |
Ni chaniateir cerbydau math Masnachol mawr sy’n fwy na 7.5 tunnell (gan gynnwys Faniau Ceffylau) ar y safle, mae’n ddrwg gennym
Wynnstay Bank, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES
Dyddiadau | Amser Agor | Amser Cau |
---|---|---|
Mawrth | 9.00am | 6.00pm |
Ebrill - Awst | 9.00am | 8.00pm |
Medi | 9.00am | 6.00pm |
Hydref - Chwefror | 9.00am | 4.00pm |
Ni chaniateir cerbydau math Masnachol mawr sy’n fwy na 7.5 tunnell (gan gynnwys Faniau Ceffylau) ar y safle, mae’n ddrwg gennym
Caiff y safleoedd eu darparu er mwyn i drigolion gael gwared ar eitemau cartref sy’n rhy fawr neu drwm i’r bin ar olwynion a gwastraff ychwanegol ar yr adegau hynny pan fydd gan drigolion ormod o wastraff i’w bin rhwng diwrnodau casglu arferol. Mae’r safleoedd hefyd yn cynnig cyfleoedd i adennill gwastraff.
Sylwch na all y safleoedd dderbyn silindrau nwy – ewch â hwy i’r cyflenwr.
Eitemau ychwanegol y mae modd eu hailgylchu yw:
- Papur
- Paent
- Pren
- Pridd
- Poteli plastig
- Cynwysyddion gwydr
- Matresi
- Carped
- Tuniau/Caniau
- Batriau Ceir
- Offer trydanol
- Olew Coginio
- Seiliau caled a rwbel
- Gwastraff gerddi
- Setiau teledu a monitorau
- Tecstilau cymysg, dillad, parau o esgidiau a bagiau
- Taclau trydanol mawr
- Hen olew peiriannau
- Dodrefn
- Plastigay caled
- Cardbord
- Batriau
- Teiars
- Metel sgrap
- Cartonau cwyrog
- Plastrfwrdd (Brymbo + Lôn y Bryn)
- Asbestos (Lôn y Bryn)
Bydd Safle Lôn y Bryn ddim ond yn derbyn gwastraff asbestos os fydd wedi ei fagio ddwywaith neu ei lapio mewn bagiau polythen cryf cyfan, e.e. sachau rwbel i gydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch - Gwastraff masnachol sydd ddim yn cael ei dderbyn yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Wrecsam.
Mae’r holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ar agor bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig. FCC Environment sy’n rheoli’r safleoedd.