Anghenion Addysgol Arbennig
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut mae'r Awdurdod Addysg Lleol yn:
- Hyrwyddo safonau addysg uchel i blant ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).
- Annog plant ag AAA i gyfranogi'n llawn yn eu hysgolion a'u cymunedau.
- Annog plant ag AAA i wneud penderfyniadau a dewisiadau ynghylch eu haddysg.
- Helpu ysgolion i rannu arfer da.
- Gweithio â chyrff gwirfoddol i ddarparu cefnogaeth i blant ag AAA.
Hawl Disgybl i Apelio
Mae gan Blant a Phobl Ifanc sy’n byw yng Nghymru'r hawl i:
- Apelio yn erbyn penderfyniadau penodol a wnaed gan eu hawdurdod lleol ynglŷn â’u hanghenion addysgol arbennig.
- Dwyn achos am wahaniaethu ar sail anabledd yn erbyn ysgolion. Mae’r hawliau apelio a hawlio'r un fath â’r rheiny sydd eisoes yn bodoli ar gyfer rhieni / gofalwyr.
Nid yw hyn yn effeithio ar hawl y rhieni i apelio a chyflwyno hawliad. Yn syml, mae hyn yn golygu fod gan blant yr un hawliau â’u rhieni / gofalwyr i wneud apêl neu gyflwyno hawliad eu hunain.
Mae’r gyfraith yn cydnabod na fydd pob plentyn yn teimlo’n ddigon abl i wneud apêl neu gyflwyno hawliad. Yn yr achosion hynny, gall Cyfaill Achos weithredu ar ran plentyn i wneud apêl neu gyflwyno hawliad i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.
Gweler gwybodaeth gan Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, ar gyfer pobl ifanc, rhieni /gofalwyr a chyfeillion achos, yn y taflenni canllaw sydd ar gael i’w llawrlwytho o wefan y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru: