Mae’r Fforwm yn cynghori’r awdurdod lleol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac eraill ar wella mynediad cyhoeddus i dir ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhad o’r ardal. Mae hyn yn cynnwys gwella hawliau tramwy cyhoeddus a’r hawl newydd i fynediad i gefn gwlad agored a thir comin cofrestredig.

Dewiswyd yr aelodaeth i roi croes-toriad da o’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y ddeddfwriaeth ac mae’n cynnwys tirfeddianwyr, coedwigwyr, cadwraethwyr, cerddwyr, marchogwyr ceffylau, beicwyr, pysgotwyr a chefnogwyr bywyd gwyllt. Mae gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau bod y Fforwm mor gytbwys â phosibl rhwng yr amryw grwpiau sy’n defnyddio cefn gwlad.

Mae’r holl gyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd ac fe’u cynhelir yn Neuadd y Dref fel arfer.  Mae croeso i’r cyhoedd fynychu.

Ebost: laf@wrexham.gov.uk

Cyfarfod Nesaf

Nid oes dyddiad wedi'i gytuno.