Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn ogystal ag ymateb i geisiadau am wybodaeth, mae gofyn i ni hefyd gyhoeddi gwybodaeth mewn modd rhagweithiol.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus gael cynllun cyhoeddi, sydd wedi’i gymeradwyo gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ac i gyhoeddi gwybodaeth y sonnir amdani yn y cynllun.

Mae’r cynllun yn golygu bod yn rhaid i ni sicrhau bod rhai mathau o wybodaeth ar gael fel mater o drefn, er enghraifft polisïau a gweithdrefnau, cofnodion cyfarfodydd, adroddiadau blynyddol a gwybodaeth ariannol.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Sut rydym yn cael ein trefnu a’n rheoleiddio. Ym mhle rydym wedi ein lleoli, a sut i gysylltu â ni.

Beth rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario

Gwybodaeth am incwm a gwariant, yn cynnwys tendro, caffael a chontractau.

Ein blaenoriaethau a sut rydym yn perfformio

Ein strategaethau a’n cynlluniau, a gwybodaeth am sut yr adolygir ein perfformiad.

Sut rydym yn llunio penderfyniadau

Ein prosesau llunio penderfyniadau, yn cynnwys cyfarfodydd y cyngor ac ymgynghoriadau cyhoeddus.

Ein polisïau a’n gweithdrefnau 

Ein polisïau a’n gweithdrefnau ar gyfer darparu ein gwasanaethau, cyflogi staff, gwasanaeth i gwsmeriaid a thrin gwybodaeth.

Rhestrau a chofrestri

Gwybodaeth a gedwir ar gofrestri, sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig

Gwybodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig i breswylwyr, busnesau lleol a rhai sy’n ymweld â Wrecsam.