Mae gofodau parcio beic modur dynodedig ar gael yn y meysydd parcio canol tref canlynol. Mae holl amodau’r meysydd parcio yn gymwys i feiciau modur (fel y nodir ar y byrddau tariff).
San Silyn, Byd Dŵr a Stryd y Farchnad
- Parcio beic modur am ddim o fewn ardal ddynodedig y maes parcio
- Rhaid talu am docyn talu ac arddangos os ydych yn dewis parcio mewn gofod parcio car nodedig
De Cilgant San Siôr
- Parcio beic modur am ddim heb gyfyngiad, o fewn yr ardal barcio ddynodedig
- Os ydych yn dewis parcio mewn gofod parcio car nodedig mae cyfyngiad amser un awr yn gymwys
Os ydych yn dewis parcio mewn maes parcio heb barcio beic modur dynodedig, rhaid i chi barcio yn gywir mewn gofod parcio nodedig, a phrynu tocyn talu ac arddangos.