Mae chwiliadau pridiannau tir lleol yn cael eu defnyddio i ddod o hyd i unrhyw gyfyngiadau a rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n effeithio ar ddarn o dir, yn rhan o’r broses drosglwyddo.

Mae dyletswydd statudol arnom ni (Cyngor Wrecsam) dan Ddeddf Pridiannau Tir 1975 i gynnal Cofrestr o Bridiannau Tir Lleol.

Gallwch ofyn am ymateb i ymholiad chwilio drwy’r dulliau canlynol:

1. Cyflwyno chwiliad i awdurdod lleol

Mae modd cyflwyno chwiliadau drwy’r post a chyfnewid dogfennau (DX) neu ar-lein drwy’r Gwasanaeth Cenedlaethol Gwybodaeth am Dir (NLIS).

Wrth gyflwyno chwiliad drwy’r post i awdurdod lleol, gofalwch eich bod yn cynnwys y canlynol:

  • Ffurflen LLC1 a chopi ychwanegol
  • Ffurflen CON29 a chopi ychwanegol
  • Y tâl cywir (gweler yr atodlen dâl isod)
  • Cynllun sy’n cynnwys amlinell glir o’r ardal i chwilio yn ei herbyn mewn coch ac sy’n dangos y ffyrdd/eiddo o’i hamgylch

Talu

Rhaid talu ar yr un diwrnod neu’r diwrnod gwaith canlynol i ddilysu'r cais. Y ffordd hawsaf o dalu yw trwy ein e-siop ar-lein.

Talwch rŵan

Mae derbynneb dalu’n cael ei e-bostio atoch chi ar gyfer eich cofnodion chi, yn ogystal â chael ei hanfon atom ni er mwn i ni allu dechrau prosesu eich cais.

Gallwch hefyd ffonio 01978 298874 i dalu â cherdyn. Am opsiynau talu eraill, cysylltwch â landcharges@wrexham.gov.uk

Amseroedd ymateb

Yr amser ymateb â chanlyniad i chwiliad ar hyn o bryd yw 7-10 diwrnod gwaith.

Nid ydym yn codi ffi ar wahân am chwiliadau brys, ond os ydych yn ystyried cais am chwiliad yn un brys, cysylltwch â’r tîm pridiannau tir ac fe geisiwn roi blaenoriaeth i’r chwiliad.

2. Mynediad at ddata eiddo dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Bydd mynediad at ddata amgylcheddol am ymholiadau chwilio lleol yn cael ei ddarparu fel hyn:

Gwybodaeth wreiddiol

Cysylltwch â’r adran berthnasol i wneud apwyntiad i archwilio’r wybodaeth wreiddiol.

Sylwch mai eich cyfrifoldeb chi yw archwilio a dehongli’r wybodaeth wreiddiol. Ni all yr adran ddarparu cymorth i ddehongli dogfennau.

Graddfa ffioedd

Graddfa ffioedd
Math o gais am chwiliad Tâl am y cais Cyfanswm i’w dalu
LLC1 yn unig – rhan gyfan o’r gofrestr £6 £6
LLC1 a CON29R (preswyl) £6 (LLC1) + £79 + TAW (CON29R) £100.80
LLC1 a CON29R (masnachol/diwydiannol) £6 (LLC1) + £109 + TAW (CON29R) £136.80
Ymholiadau CON29R Rhan 2 £13 + TAW (yr un) £15.60 (yr un)
Ymholiadau Ychwanegol £21 + TAW (yr un) £25.20 (yr un)
Darnau Ychwanegol o Dir £13 + TAW (yr un) £15.60 (yr un)

 

Gwasanaeth Cenedlaethol Gwybodaeth am Dir (NLIS)

Mae’r NLIS yn fenter gan y llywodraeth a’i nod yw darparu gwasanaethau’n electronig, a’i hamcan yn y pen draw yw cyflymu’r broses drosglwyddo gan ddefnyddio trafodion electronig.

Mae’r gwasanaeth yn cysylltu cwmnïau cyfreithiol, trosglwyddwyr a darparwyr data fel y Gofrestrfa Dir a Chofrestrfeydd Pridiannau Tir Lleol awdurdodau lleol.

Rydym ni wedi ein cysylltu â’r NLIS ar lefel 2, sy’n golygu y gallwn ni dderbyn ceisiadau chwilio/ffioedd yn electronig a’u dychwelyd yn electronig.

Rydym yn annog defnyddwyr ein gwasanaeth i ddefnyddio’r NLIS. I gael rhagor o wybodaeth (gan gynnwys am ffioedd) ewch i wefan yr NLIS.

Darparwyr Sianelau NLIS

A yw’r eiddo yn ein hardal ni?

Chwiliadau draenio

Dŵr Cymru sy’n ymdrin ag ymholiadau draenio.

Cysylltu â ni

E-bost: landcharges@wrexham.gov.uk

Oriau agor arferol ein swyddfa yw:

Dydd Llun i ddydd Iau: 8.45pm - 5.15pm
Dydd Gwener: 8.45am - 4.45pm