Beth yw cyngor cyn ymgeisio?

Rydym yn annog ymgeiswyr a datblygwyr sy'n bwriadu cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i ymgysylltu â ni cyn gynted â phosibl yn natblygiad cynllun. 

Dyma fuddion cyngor cyn ymgeisio:

  • byddwn yn egluro sut y byddwn yn rhoi ein polisïau a’n safonau ar waith
  • Dweud wrthych pa fewnbwn arbenigol y bydd ei angen arnoch (er enghraifft am adeiladau rhestredig, coed, tirwedd, sŵn, cludiant, tir wedi'i halogi, ecoleg neu archeoleg)
  • Dweud wrthych pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gael cais dilys, er mwyn helpu i osgoi gwrthod y cais yn ystod y cam cofrestru neu wrthod caniatâd yn fuan oherwydd gwybodaeth annigonol
  • Rhoi awgrym cynnar i chi o ble y gallai cynnig fod yn annerbyniol, gan sicrhau y gellir ystyried eich cynnig yn llawn yn erbyn cost cais cynllunio ffurfiol
  • Roi awgrym cynnar o ran a yw unrhyw ymrwymiadau cynllunio yn debygol o gael eu gosod

Sut mae cyflwyno ymholiad am gyngor cyn ymgeisio?

Fel isafswm, rhaid i chi gyflwyno ffurflen ymholi cyngor cyn ymgeisio wedi’i llenwi sy'n cynnwys gwybodaeth am eich cynnig, darparu cynllun lleoliad a thalu'r ffi ofynnol. Wrth lenwi'r ffurflen gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu cymaint o fanylion ag y gallwch ar eich cynnig, er mwyn galluogi i ni roi ymateb manwl a chywir.

Cyflwynwch y ffurflen wedi’i chwblhau drwy ei hanfon dros e-bost atom yn planning@wrexham.gov.uk.

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gyflwyno ymholiad cyn ymgeisio?

Ein nod yw darparu ymateb i chi o fewn 21 diwrnod ar ôl cyflwyno eich ymholiad cyn-ymgeisio. Gall ymatebion gymryd ychydig yn hirach ar hyn o bryd oherwydd pandemig Covid-19. Efallai y bydd y swyddog achos yn cysylltu â chi am estyniad os bydd angen mwy o amser i ymateb.

Byddwch yn cael ymateb ysgrifenedig unigol yn amlinellu'r canlynol:

  • Hanes cynllunio perthnasol y safle.
  • Polisïau perthnasol y cynllun datblygu y bydd y cynnig datblygu yn cael ei asesu yn eu herbyn
  • Nodiadau canllawiau cynllunio lleol perthnasol 
  • Unrhyw ystyriaethau cynllunio sylweddol eraill
  • Asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig, yn seiliedig ar yr wybodaeth uchod.

Ni chaiff unrhyw gyfarfodydd eu trefnu i drafod eich cynnig fel rhan o’r gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio. Bydd unrhyw ymweliadau safle yn cael eu cynnal yn ôl disgresiwn y swyddog achos sy’n delio â'ch ymholiad cyn ymgeisio.  

Os hoffech chi gael unrhyw gyngor pellach o ganlyniad i newidiadau i gynnig, bydd yn rhaid i chi gyflwyno ymholiad cyn ymgeisio newydd.