Mae'n rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru gwblhau astudiaethau argaeledd Tir ar gyfer Tai bob blwyddyn er mwyn monitro'r cyflenwad o dir ar gyfer tai yn eu hardaloedd hwy. Caiff yr astudiaethau eu paratoi gyda’r un dyddiad sylfaenol sef 1 Ebrill bob blwyddyn er mwyn rhoi’r darlun ar gyfer Cymru gyfan.

Amlinellir canllawiau ar sut i fynd ati i baratoi’r astudiaethau yn Nodyn Cyngor Technegol 1, Cydastudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai (TAN 1). Mae hefyd yn darparu canllawiau ar y dull a ddefnyddir i amcangyfrif y cyflenwad o dir sydd ar gael a’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn cael eu cynnwys yn yr astudiaethau. 

Dogfennau