Mae Ardal Gadwraeth Parc Salisbury i’r de o ganolbwynt hanesyddol canol tref Wrecsam, mewn safle uwchlaw afon Gwenfro a Rhodfa San Silyn. Mae’r ardal yn edrych i lawr dros ganol y dref a cheir golygfeydd gwych yma o dŵr Eglwys Sant Silyn (St Giles), un o Saith Rhyfeddod Cymru.

Mae’r ardal gadwraeth ar ffurf llinell sy’n cysylltu Ffordd Melin y Brenin yn y dwyrain a Pen y Bryn yn y gogledd-orllewin. Ffordd Salisbury, Ffordd y Poplys a Stryt y Capel yw asgwrn cefn yr ardal gadwraeth ac mae ffyrdd a strydoedd llai yn cysylltu â’r strydoedd o dai teras mwy diweddar a llai crand yn Ffordd Talbot, Ffordd  Fairfield a Teras Bryn Draw.

Cafodd Ardal Gadwraeth Parc Salisbury ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 1996 a newidiwyd ac ehangwyd ei ffin i gynnwys rhan o Stryt Earle yn 2013. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Parc Salisbury ym mis Ebrill 2013. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Parc Salisbury i rym ym mis Chwefror 1997.