Mae Rhaglen Ddatblygu Genedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru a’r 22 cyngor ledled Cymru.

Mae’r cynllun yn Wrecsam yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd chwaraeon a hamdden cymunedol o ansawdd da i bobl anabl drwy:

  • Weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cyfleoedd sydd eisoes yn bodoli a chreu clybiau / cyfleoedd newydd.
  • Cynnig cyngor a chefnogaeth broffesiynol i sefydliadau i’w helpu i fod yn gynhwysol.
  • Gwella ansawdd a nifer hyfforddwyr a gwirfoddolwyr.
  • Gweithio’n agos gyda Chwaraeon Anabledd Cymru i gysylltu gyda mentrau cenedlaethol.
  • Datblygu cyfleoedd newydd a rhai sy'n bodoli eisoes ar gyfer pobl anabl i gystadlu mewn chwaraeon ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Mae rhaglen Chwaraeon Anabledd Cymru yn cael ei hyrwyddo a’i ddatblygu drwy rwydwaith o Swyddogion Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru sydd wedi’u lleoli ymhob cyngor yng Nghymru - gan weithio gyda phlant ac oedolion, ymhob grŵp a chwaraeon anabledd.

Mae Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Wrecsam yn gweithio gyda, ac yn cefnogi clybiau lleol, sesiynau a gwirfoddolwyr, ac yn cynorthwyo gyda sefydlu clybiau a sesiynau newydd, a chefnogi clybiau drwy gyflawniad insport Club, ac yn cynorthwyo gyda chreu partneriaethau gyda sefydliadau anableddau lleol.

Yst8-i-16

Nod y cynllun yw cynyddu cyfranogiad tymor hir mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon drwy godi ymwybyddiaeth o fanteision ymarfer corff a ffordd iach o fyw i bobl ifanc a’u teuluoedd.

Nod y cynllun yw gwneud ymarfer corff yn fwy hygyrch a fforddiadwy i unigolion, ac sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 8-16 oed gydag anawsterau meddygol, emosiynol neu iechyd meddwl ‘risg isel’. 

Mae’r cynllun yn anelu at roi’r cyfle i unrhyw berson ifanc sydd yn y categori i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon os y credir y byddai ymarfer corff yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.

Amcanion

  • Darparu cyfleoedd ymarfer corff cynaliadwy i bobl ifanc sy’n rhan o’r cynllun.
  • Asesu anghenion cleientiaid unigol, gan gynnig cyngor a chymorth parhaus.
  • Annog unigolion i fynd i’r afael â phroblemau gyda ffordd o fyw.
  • Gwerthuso a monitro’r cynllun a’i effaith ar unigolion.
  • Datblygu cysylltiadau rhwng partneriaid atgyfeirio a gwasanaethau hamdden y cyngor.

Argymhellion priodol

Mae’r cynllun ar agor i bobl ifanc rhwng 8-16 mlwydd oed gydag un neu ragor o’r cyflyrau meddygol ‘risg isel’ a’u hanawsterau emosiynol ‘risg isel’ canlynol:

  • Diabetes (wedi’i reoli)
  • Asthma
  • Gordewdra
  • Anhwylderau bwyta
  • Anhwylderau obsesiynol cymhellol
  • Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) 
  • Iselder
  • Diffyg hunan-barch 
  • Gorbryder
  • Cyflyrau penodol sy’n effeithio ar ddatblygiad sgiliau symud

Partneriaid atgyfeirio

Mae partneriaid atgyfeirio’n gweithio gyda’r person ifanc a’u rhiant / gwarcheidwad i gwblhau ‘ffurflen argymhelliad’ sy’n manylu ar eu hanes meddygol, manylion personol a rheswm byr dros yr argymhelliad.

Yna, mae’r manylion hyn yn cael eu hanfon ymlaen at y Cydlynydd Yst8-i-16 a fydd yn trefnu bod y camau gweithredu perthnasol yn cael eu cymryd i sicrhau bod y person ifanc yn cael ei gyflwyno i Weithgareddau Corfforol ar Amserlen Yst8-i-16.

Mae partneriaid atgyfeirio’n cynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), Therapi Galwedigaethol Pediatreg, Nyrs Ysgol, Therapyddion Galwedigaethol, Swyddogion Tîm o Amgylch y Plentyn a ffisiotherapyddion.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

  • Bydd y Cydlynydd Yst8-i-16 yn derbyn argymhelliad gan bartner atgyfeirio.
  • Bydd y cydlynydd yn cysylltu â’r unigolyn sy’n cael ei gyfeirio. Bydd llythyr cychwynnol yn cael ei anfon gyda manylion o sut i archebu cyfarfod.
  • Os nad oes ymateb ar ôl pythefnos, bydd y cydlynydd yn ceisio cysylltu â nhw.
  • Yn y cyfarfod, bydd y person ifanc yn penderfynu pa sesiynau yr hoffant gymryd rhan ynddynt.
  • Gall cyfarfodydd gael eu cynnal cyn dechrau’r sesiynau, neu rywle cyfleus arall.
  • Bydd yr unigolyn yn cymryd rhan yn y sesiynau gyda’r Cydlynydd Yst8-i-16 yn eu cyflwyno i’r hyfforddwyr a phlant eraill yn y sesiwn.
  • Ar ôl chwe wythnos, bydd y cydlynydd yn gofyn am adborth am y sesiynau a’r cynllun.

Amserlen o weithgareddau

New timetable (updated when required) 

Cost a hyd

Yn ystod y cyfnod argymell, bydd y person ifanc yn mynd i sesiwn wedi’i strwythuro i wneud gweithgaredd a fydd yn para am chwe wythnos.

Mae’r mwyafrif o weithgareddau yn cael eu darparu am ddim, am raglen chwe wythnos. Serch hynny, mae pan trydydd parti’n darparu’r gweithgareddau, efallai bydd rhaid talu ffi fechan.

Sicrhau Ansawdd

Mae’r hyfforddwyr sy’n rhan o’r cynllun wedi cymhwyso’n llawn, wedi bod yn destun gwiriad yr heddlu, ac wedi derbyn hyfforddiant llawn mewn perthynas â materion amddiffyn plant.

Bydd y cyfranogwyr a rhieni / gwarcheidwaid yn derbyn gwybodaeth am y rhaglen ar ôl cyfarfod gyda’r Cydlynydd Yst8-i-16.

insport

Mae insport yn brosiect Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae’n cael ei ddarparu gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru ac yn cefnogi’r sectorau gweithgarwch corfforol a hamdden wrth gynnig gweithgareddau sy’n cynnwys pobl anabl.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi datblygu pecynnau gwaith i gefnogi clybiau, Corff Llywodraethu Cenedlaethol a chynghorau i ddarparu safon uchel o gynhwysiant i bobl anabl mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Mae’r rhain yn cael eu gwahanu i raglenni unigol: insport Clwb, insport CLlC, insport Datblygiad ac insport Trydydd Sector. 

Mae pob rhaglen insport yn cynnwys pedwar Safon insport: Rhuban, Efydd, Arian ac Aur insport.