Mae Parc Gwledig Dyffryn Moss wedi’i leoli rhwng Gwersyllt a Brynteg, dair milltir i’r gogledd o Wrecsam. Mae gan y dyffryn siâp ‘V’ goetir o goed derw a ffawydd, yn ogystal â dau lyn bach ac ardaloedd o laswelltir agored. Mae’r dyffryn yn gynefin llawn bywyd gwyllt ac mae’n arbennig o nodedig am ei adar.

Mae gan Ddyffryn Moss orffennol diwydiannol ac roedd yn arfer bod yn ardal lofaol fawr. Yn 1973 cafodd y tomenni gwastraff eu hadfer, ond ymysg y coetir a'r dolydd llonydd, mae tystiolaeth hyd heddiw o’r hen reilffyrdd a oedd yn arfer bod yno.

Mae llwybrau cerdded y parc yn aml yn dilyn hen dramffyrdd a rheilffyrdd a oedd yn arfer cael eu defnyddio i echdynnu glo a thywodfaen o’r dyffryn. Er bod y pyllau glo wedi hen fynd, mae’r chwareli tywodfaen bach yn dal yno ac yn cynnig cynefinoedd rhagorol i fywyd gwyllt yn guddiedig ymysg y coed.

Mae Clwb Pysgota Dyffryn Moss yn defnyddio’r llyn ger y prif faes parcio. Mae manylion aelodaeth a thocynnau dydd ar gael i'w prynu yn siop Deggy's Fishing Tackle, 2 Ffordd Rhiwabon, Wrecsam. 

Gall marchogwyr / beicwyr ddefnyddio’r llwybr ar hyd yr hen reilffordd. 

Ni chaniateir hedfan dronau ym mharciau Wrecsam.

Parcio ceir

Mae dau faes parcio ger y llynnoedd, ond nid oes toiledau.

Cŵn

Mae croeso i gŵn ym Mharc Dyffryn Moss ond dylid eu cadw dan reolaeth bob amser. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.

Teithiau Cerdded

Mae dwy daith gerdded sy’n mynd ar hyd llwybrau cylch ac mae grisiau a rhywfaint o dir anwastad, llethrau neu rannau cul ar hyd y llwybrau.

Taith gerdded trwy’r coetir ar ben y dyffryn

1. Os dechreuwch yn y maes parcio, ar draws y ffordd i’r ardal chwarae fe welwch risiau yn mynd trwy’r coetir. Dringwch y grisiau a throwch i’r chwith ar y top.

2. Wrth ddilyn y llwybr hwn fe welwch dystiolaeth o waith chwarel hanesyddol bob hyn a hyn ar y dde, ac os edrychwch i'r chwith cewch gipolwg o'r llyn oddi tanoch trwy'r coed. Ewch i fyny’r  grisiau a daliwch i fynd i’r chwith ar hyd y trac trwy’r coetir.

3. Nesaf fe ddowch at risiau sy’n mynd â chi i lawr i waelod y dyffryn. Ewch i lawr a throwch i’r dde ar hyd y llwybr, croeswch y bont ac yna ewch ar hyd y llwybr sy’n ystumio i’r dde gan fynd heibio’r fainc ac i fyny’r arglawdd.

4. Ar ben yr arglawdd trowch i’r chwith ar hyd llwybr llydan sy’n crafu pen y dyffryn. Dilynwch y llwybr hwn nes i chi gyrraedd lôn gul. Byddwch yn ofalus o gerbydau sy’n pasio wrth i chi droi i’r chwith a dilynwch y lôn hon i lawr y bryn nes i chi weld y maes parcio lle dechreuoch y daith gerdded.

Taith yr Hen Reilffordd 

1. Gan ddechrau yn y prif faes parcio, gyda’r llyn pysgota o’ch blaenau, cerddwch i’r chwith trwy'r atalfa fetel. Arhoswch ar y llwybr agosaf at y llyn, croeswch y cored dros y bont fach.

2. Daliwch i fynd i lawr ochr y llyn at y gornel ac wrth edrych i'r chwith fe welwch risiau serth. Dringwch y grisiau a throwch i’r chwith ar y top, fe ddowch ar draws un o’r pontydd rheilffordd.

3. Cerddwch o dan y bont reilffordd, trowch i’r chwith i fyny’r grisiau a dilynwch y llwybr yn ôl i ben y bont.

4. Cerddwch i’r chwith ar hyd y llwybr a chroeswch y bont fach. Dilynwch y llwybr hwn nes i chi gyrraedd y diwedd.

5. Ble daw’r llwybr i ben wrth y ffens fetel, trowch i’r dde i lawr i’r coetir, yna trowch yn syth i’r chwith ar y ffordd ger pont fach.

6. Byddwch yn ymwybodol o gerbydau sy’n pasio wrth i chi gerdded i lawr y ffordd yn ôl i’ch man cychwyn yn y prif faes parcio.

Cyfeillion Dyffryn Moss

Mae gan ‘Ddyffryn Moss grŵp cyfeillion’ gweithredol sy’n cyfarfod yn rheolaidd ac yn gweithio ochr yn ochr â’r staff i wella a chynnal a chadw’r parc ar gyfer ei holl ddefnyddwyr. Bob mis mae’r grŵp yn cyfarfod yn y parc i wneud tasgau cadwraeth ymarferol.  

Am fwy o wybodaeth gallwch e-bostio countryparks@wrexham.gov.uk neu ewch i’w tudalen Facebook: Cyfeillion Dyffryn Moss (dolen gyswllt allanol).

Cyfeiriad / cyfarwyddiadau

Parc Gwledig Dyffryn Moss 
Ffordd yr Aber
Moss
Wrecsam
LL11 6HT

Gadewch yr A483 wrth droad yr Wyddgrug. Wrth y gylchfan trowch i Ffordd Brynhyfryd, a dilynwch yr arwyddion melyn i Gwrs Golff Dyffryn Moss. Yna cymerwch y trydydd troad i’r chwith ar hyd Ffordd yr Aber. Parciwch rhwng y llynnoedd.

Cysylltwch â ni

Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)

Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)