Croeso i Ganolfan Goffa, Brynteg, sy’n cynnwys y Neuadd Goffa, Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Gydol Oes.  Ers ei lansio ym mis Medi 2002, mae’r Ganolfan wedi gweddnewid y cyfleusterau presennol ac mae wedi dal dychymyg y gymuned leol.

Elfen allweddol o’r fenter newydd hon yw PARTNERIAETH rhwng:

  • Y gymuned leol
  • Grwpiau a sefydliadau lleol, yn enwedig Grŵp Hyfforddiant Cymunedol Brymbo Broughton
  • Yr Awdurdod Lleol, yn enwedig Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth ac Adran Datblygu Economaidd
  • Colegau lleol a darparwyr hyfforddiant 

Mae’r Ganolfan yn benllanw ar nifer o flynyddoedd o waith caled rhwng aelodau’r gymuned leol a’r awdurdod lleol, ac mae’n cynrychioli cychwyn newydd yn narpariaeth cyfleusterau cymunedol yn Wrecsam.

Mae’n cynnwys pedwar prif elfen ar yr un safle:

  • Neuadd Goffa
  • Llyfrgell
  • Canolfan Dysgu Gydol Oes
  • Créche