Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r toiledau ar gau, ond gallwch fynd i archwilio’r goedwig a’r cefn gwlad yn nyffryn cyfagos Clywedog. Mae’r ardal o gwmpas yr hen felin ŷd yn lleoliad gwych ar gyfer cerddwyr neu deuluoedd.
Mae ardal bicnic ac ardal chwarae ger y coetir hynafol sy’n rhedeg wrth ochr Afon Clywedog. Mae Melin y Nant ar Lwybr Dyffryn Clywedog sy’n llwybr 6.5 milltir trwy gefn gwlad gogoneddus. Mae’r llwybr yn cychwyn o Byllau Plwm y Mwynglawdd ac yn rhedeg trwy Goed y Nant a Choed Plas Power, heibio i Weithfeydd Haearn y Bers, Ystad Erddig ac ymlaen i Felin y Brenin yn Wrecsam.
Parcio ceir
Codir tâl ar ymwelwyr y parc am barcio bob dydd.
Y tâl dyddiol yw £1, fodd bynnag gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim mewn unrhyw le parcio heb gyfyngiad amser.
Mae’r peiriannau talu ac arddangos wedi’u lleoli mewn mannau cyfleus yn y maes parcio. Dim ond arian parod a dderbynnir fel tâl gan y peiriannau.
Gall ymwelwyr hefyd ddewis talu trwy ddefnyddio system dalu ddi-arian JustPark.
Tocyn tymor
Gellir prynu tocyn tymor ar gyfer parcio ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Melin y Nant a Pharc Gwledig Tŷ Mawr am gost o £50 y flwyddyn.
Mae tocynnau tymor ar gael i’w prynu yng nghanolfan ymwelwyr Tŷ Mawr, canolfan ymwelwyr Dyfroedd Alun neu ar-lein trwy ein e-siop.
Cŵn
Mae croeso i gŵn ym Melin y Nant ond mae’n rhaid eu cadw dan reolaeth bob amser ac ar dennyn o fewn yr ardaloedd dynodedig sydd wedi'u harwyddo. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.
Cysylltwch â ni
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)
Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)