Cyfrifoldeb y landlord yw gosod a chynnal a chadw’r system ddraenio yn eich eiddo.

Fodd bynnag, mae dyletswydd arnoch chi, y tenant, i beidio â rhwystro na difrodi’r system (er enghraifft drwy ollwng pethau amhriodol i lawr y draen, fel hancesi gwlyb, clytiau, olew neu saim).

Gallai eich landlord ofyn i chi dalu am y gwaith atgyweirio os na wnaethoch gymryd gofal rhesymol i beidio â rhwystro’r draeniau. 

Beth ddylwn ei wneud os oes rhwystr yn y draeniau?

Dylech roi gwybod i’ch landlord yn gyntaf. Os nad yw eich landlord yn trefnu i drwsio’r broblem yn gyflym, neu os nad yw’n gweithredu o gwbl, cysylltwch â ni (yr awdurdod lleol) am gyngor. Gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost at healthandhousing@wrexham.gov.uk (neu ffonio 01978 292040 os yw’r sefyllfa yn un brys).

Os yw’r rhwystr neu’r gollyngiad dŵr yn achosi problem i eraill mae’n bosib y byddwn yn derbyn cwynion o fannau eraill, os felly byddwn yn ymchwilio i’r mater ac yn gallu cymryd camau adferol os oes angen.