Crynodeb o’r drwydded        

Mae Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 wedi cyflwyno trefn reoleiddio newydd ar gyfer y diwydiannau ailgylchu metel a datgymalu cerbydau. Bellach, mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gweithredu fel deliwr metel sgrap gael trwydded er mwyn parhau â’i fusnes.

Meini prawf cymhwysedd

Ystyrir bod rhywun yn ddeliwr metel sgrap os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • Mae’n gweithredu busnes sy’n golygu prynu neu werthu metel sgrap yn rhannol neu’n gyfan gwbl, a bod y metel hwnnw’n cael ei werthu yn y ffurf y cafodd ei brynu, neu
  • Mae’n gweithredu busnes fel gweithredwr adfer cerbydau modur
    • mae’n adfer rhannu o gerbydau modur y gellir eu hadfer er mwyn eu hailddefnyddio neu eu gwerthu ac mae’n gwerthu gweddill y cerbyd fel sgrap
    • mae’n prynu cerbydau sydd wedi malu’n rhacs, gan eu hatgyweirio a’u hailwerthu
    • mae’n prynu neu’n gwerthu cerbydau modur sy’n destun unrhyw un o’r gweithgareddau y cyfeiriwyd atynt yn (i) neu i)
    • gweithgareddau sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn ymwneud â pharagraffau (b) ac (c)

Mae dau fath o drwydded:

  • Trwydded safle
  • Trwydded casglwr

Gall deliwr gael un math o drwydded yn unig mewn un ardal awdurdod lleol.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r canlynol:

  • Enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad preswyl arferol ymgeisydd unigol (gan gynnwys casglwyr symudol),  unrhyw un sy’n cael ei gynnig fel rheolwr safle ar gyfer safle, a phob partner os oes partneriaeth yn gwneud cais am drwydded
  • Enw’r cwmni, rhif cofrestredig a chyfeiriad swyddfa gofrestredig yr ymgeisydd 
  • Unrhyw enw masnachu arfaethedig ar gyfer y busnes
  • Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost (ar gyfer pob ymgeisydd)
  • Os yw’r drwydded ar gyfer safle, cyfeiriad pob safle arfaethedig i’w gynnwys ar y drwydded
  • Cyfeiriad unrhyw safle mewn ardal awdurdod lleol arall lle mae’r ymgeisydd yn rhedeg busnes eisoes, neu lle mae’n bwriadu rhedeg busnes
  • Manylion unrhyw drwydded neu gofrestriad amgylcheddol perthnasol sydd gan yr ymgeisydd
  • Manylion unrhyw drwyddedau metel sgrap eraill a roddwyd i’r ymgeisydd yn ystod y tair blynedd cyn cyflwyno’r cais hwn
  • Manylion y cyfrif(on) banc i’w ddefnyddio ar gyfer trafodion di-arian – lle mae’r deiliaid trwydded yn gweithredu sawl safle mae’n bosibl y defnyddir cyfrifon banc gwahanol 
  • Manylion unrhyw euogfarn neu gamau gorfodaeth perthnasol sy’n gysylltiedig â’r ymgeisydd
  • Llungopïau o’r canlynol :
    • Cerdyn llun a gwrthran trwydded yrru neu basbort a phrawf o gyfeiriad, fel bil cyfleustodau
    • Yn achos trwyddedau casglwyr, llungopi o ddogfennau cofrestru cerbydau (V5 llyfr log ac MOT), tystysgrif yswiriant a thrwydded cludwr gwastraff

Mae’n rhaid i’r deliwr trwyddedig wneud cais i amrywio’r drwydded lle mae unrhyw newidiadau yn ymwneud ag enw deilydd y drwydded; unrhyw newidiadau yn ymwneud â’r safleoedd y mae gan deilydd y drwydded awdurdod i redeg ei fusnes oddi arnynt; ac unrhyw newidiadau ym manylion rheolwr safle.

O 4 Ebrill 2022, pan fydd trwydded metel sgrap yn cael ei hadnewyddu yng Nghymru bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau ‘gwiriad treth’ yn gyntaf. Mae hyn yn gymwys i weithredwyr ar safleoedd yn ogystal â chasglwyr symudol. Bydd y gwasanaeth digidol i gwblhau gwiriad treth yn mynd yn fyw ar ddechrau mis Mawrth 2022. Dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod wedi’u cofrestru yn gyntaf i dalu’r treth/trethi priodol ar eu hincwm trwyddedig a bydd yn rhaid iddynt gadarnhau eu bod wedi’u cofrestru yn ystod y gwiriad treth.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Na fydd. Dylech gysylltu â ni os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Ffioedd

  • Trwydded safle (newydd/adnewyddu): £495 
  • Trwydded casglwr (newydd/adnewyddu): £231 
  • Amrywio trwydded: £88

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.

E-bost: licensingservice@wrexham gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.