Crynodeb o’r drwydded 

Er mwyn darparu lluniaeth ac adloniant wedi’i reoleiddio, a gwerthu alcohol yn hwyr yn y nos, mae’n rhaid i chi gael trwydded gan yr awdurdod lleol os ydych chi’n gweithredu yng Nghymru. 

Meini prawf cymhwysedd    

Gall unrhyw un o’r canlynol wneud cais am drwydded eiddo:

  • unrhyw un sy’n rhedeg busnes yn yr eiddo y mae’r cais yn berthnasol iddo 
  • clwb cydnabyddedig 
  • elusen 
  • corff gwasanaeth iechyd 
  • rhywun sydd wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas ag ysbyty annibynnol 
  • prif swyddog yr heddlu yng Nghymru 
  • rhywun sy’n cyflawni swyddogaeth statudol dan uchelfraint Ei Mawrhydi 
  • rhywun o sefydliad addysgol 
  • unrhyw unigolyn arall a ganiateir 

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed. 

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Rhaid anfon ceisiadau i’r awdurdod trwyddedu sy’n gyfrifol am yr ardal lle mae’r eiddo.

Rhaid i’r ceisiadau fod mewn fformat penodol a rhaid anfon unrhyw ffi ofynnol gyda’r cais. Bydd angen cyflwyno amserlen weithredu, cynllun o’r safle a ffurflen ganiatâd gan oruchwylydd yr eiddo hefyd (ar gyfer ceisiadau lle bydd gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy).

Dylai’r amserlen weithredu gynnwys y manylion canlynol:

  • y gweithgareddau trwyddedadwy 
  • yr amseroedd pan fydd y gweithgareddau yn digwydd 
  • unrhyw amseroedd eraill pan fydd yr eiddo ar agor i’r cyhoedd 
  • yn achos ymgeiswyr sy’n dymuno cael trwydded gyfyngedig, y cyfnod y mae angen y drwydded ar ei gyfer 
  • gwybodaeth am oruchwylydd yr eiddo 
  • p’un a fydd unrhyw alcohol a gaiff ei werthu yn cael ei yfed yn yr eiddo neu oddi arno 
  • y camau y bwriedir eu cymryd i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu 
  • unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ymgeiswyr hysbysebu eu cais a rhoi hysbysiad am y cais i unrhyw unigolyn neu gorff cyfrifol arall, fel yr awdurdod lleol, prif swyddog yr heddlu neu’r gwasanaeth tân ac achub.

Mae’n rhaid i’r awdurdod trwyddedu ystyried y cais, a gellir rhoi amodau arno. Cynhelir gwrandawiad os bydd unrhyw sylwadau yn cael eu cyflwyno mewn perthynas â’r cais. Os cynhelir gwrandawiad gellir rhoi’r drwydded, neu gellir ei rhoi yn amodol i amodau ychwanegol, gellir eithrio rhai gweithgareddau trwyddedadwy a restrir yn y cais neu gellir gwrthod y cais.

Bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd o’i benderfyniad, ynghyd ag unrhyw unigolyn sydd wedi cyflwyno sylwadau perthnasol (nid rhai dibwys neu flinderus) a phrif swyddog yr heddlu. 

Gelir gwneud ceisiadau hefyd i amrywio neu drosglwyddo trwydded. Mae’n bosibl y bydd angen cynnal gwrandawiad os cyflwynir sylwadau neu os na fydd amodau yn ymwneud â throsglwyddiad yn cael eu bodloni.

Ymhlith ceisiadau eraill y gellir eu gwneud mae ceisiadau am rybudd awdurdod dros dro yn dilyn marwolaeth, analluogrwydd neu fethdaliad deiliad trwydded neu adolygiad o geisiadau.

A fydd cydsyniad tawel yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.

Cyfnod targed ar gyfer cwblhau

40 diwrnod calendr

Ffioedd

Band ardrethol A (£0 - £4,300)

  • Trwydded/tystysgrif eiddo: £100    
  • Ffi adnewyddu blynyddol: £70

Band ardrethol B (£4,301 - £33,000)

  • Trwydded/tystysgrif eiddo: £190    
  • Ffi adnewyddu blynyddol: £180

Band ardrethol C (£33,001 - £87,000)

  • Trwydded/tystysgrif eiddo: £315    
  • Ffi adnewyddu blynyddol: £295

Band ardrethol D (£87,001 - £125,000)

  • Trwydded/tystysgrif eiddo: £450        
  • Ffi adnewyddu blynyddol: £320

Lle mae’r eiddo yn y band hwn yn fusnes sy’n gwerthu alcohol yn unig neu’n bennaf

  • Trwydded/tystysgrif eiddo: £900       
  • Ffi adnewyddu blynyddol: £640

Band ardrethol E (£125,001 a throsodd)

  • Trwydded/tystysgrif eiddo: £635    
  • Ffi adnewyddu blynyddol: £350

Lle mae’r eiddo yn y band hwn yn fusnes sy’n gwerthu alcohol yn unig neu’n bennaf

  • Trwydded/tystysgrif eiddo: £1905     
  • Ffi adnewyddu blynyddol: £1050

Ffurflenni cais

Os ydych yn gwneud cais i werthu /cyflenwi alcohol, bydd angen i chi hefyd ddarparu’r ffurflen ‘Caniatâd i gael eich enwebu yn Oruchwylydd Eiddo Dynodedig’ (os oes gennych gopi o’r ffurflen hon, dylech ei hanfon atom fel dogfen atodol pan fyddwch yn cwblhau’r drwydded eiddo newydd).

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Stryt y Lampint, Wrecsam. LL11 1AR.

E-bost: licensingservice@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Rhaid cyflwyno apeliadau i’r Llys Ynadon cyn pen 21 diwrnod ar ôl rhoi hysbysiad o’r penderfyniad.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Os bydd y cais yn cael ei wneud gan y prif swyddog heddlu, fel y nodir isod, ac mae camau dros dro yn cael eu cymryd gan yr awdurdod trwyddedu, gallwch gyflwyno sylwadau, mae’n rhaid cynnal gwrandawiad cyn pen 48 awr ar ôl cyflwyno eich sylwadau.

Gall deiliaid trwydded apelio yn erbyn unrhyw amodau sydd ynghlwm â thrwydded, penderfyniad i wrthod cais i amrywio, penderfyniad i wrthod cais i drosglwyddo neu benderfyniad i eithrio gweithgaredd neu unigolyn fel goruchwylydd eiddo.

Rhaid cyflwyno apeliadau i’r Llys Ynadon cyn pen 21 diwrnod ar ôl rhoi hysbysiad o’r penderfyniad.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu trwydded yr eiddo. Cynhelir gwrandawiad gan yr awdurdod trwyddedu.

Rhaid cyflwyno apeliadau i’r Llys Ynadon cyn pen 21 diwrnod ar ôl rhoi hysbysiad o’r penderfyniad.

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Gall prif swyddog yr heddlu yn yr ardal lle mae’r eiddo ofyn i’r awdurdod trwyddedu adolygu’r drwydded os yw’r eiddo wedi cael trwydded i fanwerthu alcohol ac mae’r prif swyddog wedi rhoi tystysgrif yn cadarnhau ei fod o’r farn bod yr eiddo yn gysylltiedig naill ai â throseddu difrifol neu anrhefn neu’r ddau. Cynhelir gwrandawiad a gall deiliad y drwydded a phartïon eraill â diddordeb gyflwyno sylwadau.

Gall prif swyddog yr heddlu hysbysu’r awdurdod trwyddedu os yw’n credu y gallai trosglwyddo trwydded i un arall, o dan gais i amrywio trwydded, danseilio amcanion atal troseddu. Rhaid cyflwyno hysbysiad o’r fath cyn pen 14 diwrnod ar ôl derbyn hysbysiad am y cais.

Gall parti â diddordeb neu gorff cyfrifol gyflwyno sylwadau mewn perthynas â chais am drwydded neu gall ofyn i’r corff trwyddedu adolygu trwydded. 

Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu trwydded yr eiddo. Cynhelir gwrandawiad gan yr awdurdod trwyddedu.

Gall prif swyddog yr heddlu gyflwyno sylwadau i’r awdurdod trwyddedu i adolygu’r drwydded os oes gan yr eiddo drwydded i fanwerthu alcohol ac mae uwch aelod o’r heddlu wedi rhoi tystysgrif yn cadarnhau ei fod o’r farn bod yr eiddo yn gysylltiedig â throseddu difrifol, anrhefn neu’r ddau.

Gall parti â diddordeb neu awdurdod perthnasol a gyflwynodd sylwadau perthnasol apelio yn erbyn rhoi trwydded neu yn erbyn unrhyw amod, amrywiad, gweithgaredd trwyddedadwy neu  benderfyniadau gan oruchwylydd yr eiddo.

Rhaid apelio i’r llys ynadon cyn pen 21 diwrnod ar ôl dyddiad hysbysiad y penderfyniad.