Pa mor hen mae angen i rywun fod i allu cael tatŵ?

Rhaid i chi fod o leiaf 18 oed cyn y gallwch chi gael tatŵ. Mae’n anghyfreithlon rhoi tatŵ i unrhyw un dan 18 oed – hyd yn oed gyda chaniatâd rhieni.

Beth sy’n cyfrif fel tatŵio’n anghyfreithlon? 

Mae tatŵio’n anghyfreithlon os yw...

  • Y person sy’n cael y tatŵ dan 18 oed
  • Y tatŵ’n cael ei roi gan datŵydd sydd heb gofrestru

Bydd tatŵydd yn cael ei erlyn a’i ddirwyo os ceir eu bod wedi rhoi tatŵ i rywun dan 18 oed.

Cofrestru fel tatŵydd

Mae’n rhaid i datŵyddion yn Wrecsam fod wedi’u cofrestru gyda ni (yr awdurdod lleol).

Rydym ni’n cadw cofnod o bob tatŵydd cofrestredig ac yn rhoi tystysgrifau cofrestru. Rhaid i’r dystysgrif gofrestru fod i’w gweld yn amlwg ar y safle lle mae’r gwaith tatŵio’n cael ei wneud. Os nad yw’r dystysgrif hon i’w gweld, mae’n debygol nad ydynt wedi’u cofrestru. 

Safonau hylendid sydd eu hangen ar gyfer tatŵyddion cofrestredig

Rydym ni (fel yr awdurdod lleol) yn archwilio tatŵyddion cofrestredig yn rheolaidd i sicrhau bod safonau hylendid yn cael eu bodloni a bod y cyfarpar yn cael eu sterileiddio’n gywir.

Rydym wedi mabwysiadu is-ddeddfau sy’n nodi’r safonau ar gyfer glendid y stiwdio.
 

Pam y dylwn i osgoi tatŵydd sydd heb gofrestru?

Gallent fod yn defnyddio cyfarpar o ansawdd gwael

Mae tatŵyddion heb gofrestru’n aml yn defnyddio cyfarpar rhad, felly mae ansawdd y tatŵ’n annhebygol o fod o safon uchel.

Efallai nad yw’r cyfarpar wedi’i sterileiddio 

Gallech fod yn rhoi’ch iechyd mewn perygl a gallech gael haint trwy drosglwyddo gwaed. Mae tatŵyddion cofrestredig yn cael archwiliadau rheolaidd i sicrhau eu bod yn cynnal safonau hylendid da.

Efallai nad ydynt wedi’u hyfforddi 

Mae’r rhan fwyaf o datŵyddion cofrestredig yn gweithio fel prentis mewn stiwdio datŵio sefydledig i gael profiad cyn mynd ar eu liwt eu hunain. Gallai tatŵydd dibrofiad dyllu’r croen yn rhy ddwfn gyda’r nodwydd ac achosi llawer o boen a gwaedu.

Risgiau posib’ wrth gael tatŵ

Mae tatŵs yn tyllu’r croen eto ac eto gydag un nodwydd neu fwy ac yn rhoi diferion o inc ynddynt, sy’n golygu bod heintiau croen a chymhlethdodau eraill yn bosib’. Mae risgiau penodol yn cynnwys:

Adweithiau alergaidd

Gallai hyn fod o liwiau tatŵio, sy’n gallu achosi adweithiau alergaidd ar y croen, fel brech o amgylch y tatŵ.

Heintiau ar y croen 

Mae haint ar y croen yn bosib’ ar ôl cael tatŵ, a gallai achosi cochni, chwydd, cosi a phoen. Nid yw atal heintiau mor syml â defnyddio nodwydd newydd ar gyfer pob person.  Mae cyfarpar, inciau, glendid a gofal ar ôl tatŵio i gyd yn rhan o’r camau hylendid cyffredinol.

Problemau eraill â’r croen 

Gall tatŵio hefyd arwain at greu coloidau, sef darnau chwyddedig o groen sy’n cael eu hachosi pan mae croen yn creithio’n arw.

Afiechydon trwy waed 

Mae tatŵio’n debyg i fân-lawdriniaethau – os yw’n cael ei wneud yn anghywir neu mewn sefyllfaoedd budr, mae risg o gael firysau trwy’r gwaed, sy’n cynnwys tetanws, hepatitis a HIV. Gall y rhain gael eu trosglwyddo i’ch corff os oes gwaed person arall ar y cyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio. Hyd yn oed os ydych wedi’ch heintio gan un o’r firysau hyn, efallai na fydd y symptomau’n ymddangos yn syth.

Gall heintiau wneud i chi deimlo’n sâl iawn a gallant achosi gwenwyno’r gwaed ac, mewn achosion difrifol, marwolaeth.

Pryderon ar ôl cael tatŵ

Cysylltwch â’ch meddyg teulu yn syth os, ar ôl cael tatŵ:

  • Bod gennych wres
  • Nad ydych yn teimlo’n dda
  • Os ydych yn poeni am y rhan o’r corff lle mae’r tatŵ

Cyngor

Gallwch anfon e-bost atom ar foodandfarming@wrexham.gov.uk yn gyfrinachol ac yn breifat am ragor o wybodaeth neu gyngor.

Rhoi gwybod am datŵydd heb gofrestru, tatŵio anghyfreithlon neu broblem gyda thatŵ

Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i adrodd am broblem gyda thatŵ neu dyllu’r croen. Gall hyn gynnwys tatŵyddion heb eu cofrestru, unigolion yn gweithio o safleoedd sydd heb eu cofrestru (megis eu cartrefi), os ydych wedi cael tatŵ o dan 18 oed, neu os yw eich tatŵ wedi ei heintio.

Dechreuwch rŵan