Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw amgylchedd glan, deniadol a chynaliadwy i les cymunedau ac i bawb sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Mae gwasanaethau amgylcheddol effeithiol a chadarn yn hanfodol bwysig o ran sicrhau bod canol ein dinas a’n cymunedau’n cael eu gofalu amdanynt yn dda, gyda phriffyrdd sydd mewn cyflwr da ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda.

I wneud hyn bydd ein mannau agored a’r ardaloedd sy’n weladwy ac yn hygyrch i’n cymunedau’n cael eu rheoli’n briodol at y defnydd y’i bwriadwyd, ac yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn lân.  Byddwn yn ymateb yn gyflym i achosion o faw cŵn, sbwriel a thipio anghyfreithlon yn ein cymunedau ac yn mynd ati’n rhagweithiol i leihau achosion o’r fath drwy adnabod ‘mannau problemus’, ymgysylltu â chymunedau i newid ymddygiad a chymryd camau gorfodi lle bo hynny’n briodol.  Byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu Gwasanaethau Stryd effeithiol, yn unol â’n hymrwymiadau gwasanaeth, gan wella ein defnydd o dystiolaeth berthnasol i sicrhau y gwneir y defnydd mwyaf effeithiol o’n hadnoddau.

Gwyddom fod ein hisadeiledd priffyrdd yn hanfodol bwysig o ran cefnogi amrywiaeth o wasanaethau ac uchelgeisiau eraill y cyngor, yn cynnwys mynediad at wasanaethau, amddiffynfeydd rhag llifogydd, cynnal gwasanaethau/cyfleustodau, cyflogaeth a chysylltiadau economaidd.  Byddwn yn sicrhau bod asedau cysylltiedig â’r priffyrdd yn ddiogel ac yn addas i’r pwrpas drwy archwiliadau a gwaith cynnal a chadw rheolaidd, yn unol â’n polisïau.

Drwy wella ein hamgylchedd byddwn yn sicrhau bod yr Argyfwng Hinsawdd, un o faterion pwysicaf ein cyfnod, yn flaenllaw yn yr holl benderfyniadau yr ydym yn eu gwneud. Fe wnaethom ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Medi 2019 ac mewn ymateb rydym wedi datblygu Cynllun Datgarboneiddio cadarn i sicrhau ein bod yn cydweithio â’n partneriaid a’n cymunedau i ddatblygu a datgarboneiddio ein hamgylchedd a mynd ar ôl ein huchelgeisiau sero-net.

Bydd ein hymdriniaeth yn seiliedig ar newid y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau gan arwain drwy esiampl a chynnwys ein cymunedau i wneud newid go iawn. Byddwn yn datblygu ffyrdd mwy cynaliadwy i bobl symud o gwmpas,  ac o fewn y pymtheng  mlynedd nesaf byddwn yn creu mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio ar siwrneiau lleol fod yn rhywbeth arferol. Byddwn yn canolbwyntio ar yr ynni yr ydym yn ei ddefnyddio yr adeiladau yr ydym yn berchen arnynt a sut y gallwn barhau i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. 

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i reoli gwastraff ac ailgylchu er mwyn cyrraedd ein targedau ailgylchu statudol a hefyd i gefnogi’r broses o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.  Byddwn yn parhau i weithio â phreswylwyr a chymunedau i hyrwyddo a darparu cyfleoedd i ailddefnyddio, ailgylchu a lleihau gwastraff. Byddwn yn casglu’r holl ddeunyddiau ailgylchu a gwastraff cartref gan breswylwyr os caiff ei gyflwyno yn y ffordd briodol a byddwn bob amser yn anelu at ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i unrhyw gasgliadau a fethwyd.  

Drwy ein Cynllun Datgarboneiddio byddwn hefyd y gweithio’n galed i sicrhau bod yr ymdrech i reoli newid hinsawdd wedi’i ymwreiddio yn holl wasanaethau’r cyngor. Er enghraifft, cynyddu ymwybyddiaeth o’r angen i leihau allyriadau a chyflawni sero-net mewn ysgolion newydd; neu drwy ein hymrwymiad i leihau’r ôl-troed carbon drwy darpariaeth ein hamgylcheddau gweithio modern o fewn y cyngor. 

Bydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn lle y mae ein cymunedau’n falch ohono, gydag amrywiaeth fawr o fannau agored sydd yn hygyrch, wedi’u rheoli’n dda ac yn gynaliadwy, ochr yn ochr â chynnig y nifer uchaf posibl effeithiau amgylcheddol cadarnhaol. Drwy adfer a diogelu ein mannau gwyrdd lleol, byddwn yn gwella ac yn ychwanegu at les pobl yn ogystal a gwella ein hamgylchedd

Ein Canlyniadau Blaenoriaeth; yr hyn yr ydym eisiau gweithio tuag ato: 

*yn nodi Amcan Cydraddoldeb Strategol

  1. Yr holl ardaloedd cymunedol a mannau chwarae sy’n eiddo i’r cyngor yn cael eu cadw’n lân, yn daclus ac yn ddiogel i’n plant a’n pobl ifanc gael chwarae yno. 
  2. Y cyngor yn ymateb i adroddiadau o faw cŵn a sbwriel drwy adnabod mannau problemus a defnyddio amrywiaeth o fesurau newid ymddygiad a gorfodaeth i rwystro hyn.
  3. Adroddiadau o dipio anghyfreithlon ar dir y cyngor yn lleihau; pan maent yn digwydd ymateb iddynt drwy sicrhau bod y tir yn cael ei glirio mewn modd amserol, yn ogystal a defnyddio tystiolaeth i ddod o hyd i fannau problemus lle gallai fod yn fuddiol gosod camerâu TCC.
  4. Yr holl ailgylchu a gwastraff cartref yn cael ei gasglu pan gaiff ei gyflwyno yn y  modd priodol, ac os ydym yn methu unrhyw gasgliadau, byddwn yn anelu at ymateb yn gyflym ac yn effeithiol.   
  5. Cadw’r holl asedau cysylltiedig â’r priffyrdd yn ddiogel ac yn addas i’r pwrpas drwy archwiliadau a chynnal a chadw rheolaidd yn unol â’n polisiau.
  6. Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhywle ag amrywiaeth eang o fannau agored sydd yn hygyrch ac wedi’u rheoli’n dda.
  7. Bwrdeistref Sirol sydd yn dod yn fwy cydnerth o ran cynllunio ar gyfer effeithiau newid hinsawdd drwy reolaeth risg effeithiol a rhaglenni cynnal a chadw.
  8. Mae’r Cyngor yn gwneud cynnydd tuag at wireddu Allyriadau Carbon Sero-net erbyn 2030 drwy weithrediad y Cynllun Datgarboneiddio (2021-2030).  Rydym yn ystyried allyriadau carbon a chyfleoedd i secwestru carbon (dal, tynnu a storio carbon o’r atmosffer) yn ein holl benderfyniadau.
  9. Mae’r cyngor yn arweinydd cymunedol cryf, gyda chynlluniau cyfathrebu ac ymgysylltu datblygedig sy’n rhannu arfer da ac yn hyrwyddo newidiadau cymunedol ac unigol.  Rydym yn mynd ati’n weithredol mewn partneriaeth ranbarthol a lleol gydag ysgolion, cymunedau a’n gweithlu ein hunain i ddod o hyd i gyfleoedd i gydweithio, rhannu syniadau a chynyddu dealltwriaeth o’n gwaith datgarboneiddio.  
  10. Cludiant a symudedd: mae gan y cyngor fflyd cludiant modern ac amgylcheddol gyfrifol, wedi’i gefnogi gan isadeiledd o safon gynyddol uchel, sy’n caniatáu i ni fod yn arweinydd mewn cerbydau allyriadau carbon isel.  Byddwn yn ystyried yr angen i deithio ac yn sicrhau bod opsiynau teithio cynaliadwy yn eu lle i helpu i leihau ein hallyriadau carbon cyffredinol.
  11. Mae isadeiledd cludiant Wrecsam yn diwallu anghenion preswylwyr a’r economi gyda gwell gwasanaethau cludiant cyhoeddus ac opsiynau cynaliadwy ar gyfer teithio a pharcio yn ac o amgylch canol y ddinas, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam ac ar draws y cymunedau gwledig, sy’n cefnogi Wrecsam fel cyrchfan ymwelwyr 
  12. Adeiladau: Bydd y cyngor yn lleihau ei alw am ynni wrth i ni wneud mwy o’n hadeiladau yn rhai carbon isel a di-garbon a dal ati i gynyddu effeithlonrwydd ynni. Byddwn yn lleihau allyriadau o’n hysgolion, swyddfeydd, canolfannau cymunedol ac ati flwyddyn ar ôl blwyddyn.
  13. Caffael: Rydym yn weithredol flaenoriaethu lleihau carbon ac allyriadau drwy gaffael mwy cyfrifol a chynaliadwy a lle bynnag bosibl drwy gefnogi cyflenwyr a busnesau lleol a rhanbarthol
  14. Y Defnydd o Dir: Mae’r cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod tir yn y Fwrdeistref Sirol yn cael ei ddefnyddio a’i gynnal mewn modd cynaliadwy er budd y rhaglen bioamrywiaeth a datgarboneiddio, drwy reoli ei asedau ei hun a’i swyddogaethau rheoleiddio.
  15. Mae holl aelwydydd Wrecsam yn cael eu cefnogi i weithio tuag at gynhyrchu dim gwastraff drwy gyfuniad o leihau, ail-ddefnyddio ac ailgylchu.

Mae’r flaenoriaeth hon yn parhau i gyfrannu’n uniongyrchol at gyflawniad Nodau Llesiant Cymru:

  • Cymru Ffyniannus
  • Cymru Gydnerth
  • Cymru Iachach
  • Cymru â Chymunedau Cydlynol
  • Cymru sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang