Mae Dechrau'n Deg Wrecsam yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant o 0 oed hyd at eu pen-blwydd yn 4 oed a'u rhieni/gofalwyr, sydd yn byw mewn rhannau penodol o Wrecsam. 

Nod y rhaglen yw helpu plant a phobl ifanc i gael y dechreuad gorau posibl mewn bywyd ar gyfer eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol. Caiff rhieni/gofalwyr gefnogaeth i’w helpu ddarparu’r amgylchedd mwyaf cadarnhaol ar gyfer lles eu plant yn ystod eu blynyddoedd cynnar.

Mae holl wasanaethau Dechrau'n Deg am ddim i deuluoedd.

Mae Dechrau’n Deg yn cynnig y canlynol i deuluoedd: 

  • ymweliad â’r cartref gan y Tîm Iechyd a Rhianta yn cynnwys gwasanaeth ymwelydd iechyd gwell
  • mynediad at gefnogaeth i rieni a grwpiau rhianta
  • gofal plant rhan-amser o ansawdd wedi’i ariannu ar gyfer plant 2-3 oed
  • cefnogaeth ar gyfer datblygiad iaith a chyfathrebu cynnar 

Rhagor am yr hyn y gall Dechrau’n Deg ei ddarparu

Gwasanaeth ymwelydd iechyd gwell

Mae gan bob plentyn yn y DU rhwng 0 a 4 oed ymwelydd iechyd. Fel rhan o Ddechrau'n Deg, rydym ni’n darparu gwasanaeth Ymweliadau Iechyd dwys, gan gysylltu’n rheolaidd â rhieni/gofalwyr a phlant.  Mae hyn yn golygu y gallwn gynnig cefnogaeth a chyngor ychwanegol drwy gydol y cyfnod beichiogrwydd a phedair blynedd gyntaf bywyd eich plentyn. 

Rydym yn darparu rhaglenni a chyngor i rieni ar bob agwedd o ddatblygiad ac iechyd a lles plant, gan gynnwys diogelwch, bwydo ar y fron, bwydo â photel, maetheg, imiwneiddio, salwch plentyndod, cwsg ac ymddygiad. 

Rydym ni’n cynnal adolygiadau iechyd a datblygiad ar bob plentyn, cynhelir y rhain pan fydd y plentyn yn tua 6 wythnos oed, 6 mis, 15 mis, 24-27 mis, a 3½ mlwydd oed gan amlaf. 

Rydym ni hefyd yn cefnogi iechyd a lles rhieni/gofalwyr ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda theuluoedd i nodi eu hanghenion a theilwra cynlluniau cymorth i ddiwallu'r anghenion hynny. 

Rydym yn cysylltu â rhieni sy'n disgwyl plentyn yn ystod y cyfnod cynenedigol ac yn parhau i ymweld yn ôl yr angen, tan mae’r plentyn yn cyrraedd oed mynd i’r ysgol.

Cefnogaeth Rhianta

Mae cefnogaeth rianta ar gael mewn grŵp neu ar sail un i un i helpu rhieni i ddatblygu eu sgiliau rhianta ymhellach. Mae’r sgiliau yma’n cynnwys rheoli a deall ymddygiad eu plant, gosod ffiniau, sefydlu patrymau yn y cartref, chwarae a rhyngweithio â’u plant a darparu maetheg iach.  Trwy ddatblygu’r sgiliau yma, maent yn helpu i feithrin hyder a hunan-barch y rhieni. 

Gallwn hefyd gynnig cymorth dwys o fewn y cartref i gefnogi anawsterau y gall rhiant/gofalwr eu hwynebu, megis defnyddio’r toiled, ymddygiad, diogelwch, amser prydau bwyd a chwsg. 

Gallwn hefyd gynnig amryw o raglenni grŵp yn cynnwys: 

  • Deall Ymddygiad Eich Plentyn Solihull 
  • Rhaglen Cynenedigol Solihull 
  • Rhaglen Cynenedigol Cysylltiadau Teuluol 
  • Rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teuluol
  • Gweithdai Cysylltiadau Teuluol 
  • Tylino Babanod 
  • Ioga i Fabanod 
  • Rhaglen Cefnogi Myfyrwyr 
  • Dewch i Goginio

Gweithiwr cymdeithasol

Mae’r gweithiwr cymdeithasol Dechrau’n Deg yn gweithio o fewn y Tîm Iechyd a Rhianta yn cynnig cymorth i deuluoedd sydd o bosibl yn wynebu heriau, megis problemau perthynas, problemau rhianta, problemau ariannol a thai. Bydd y cymorth hwn yn aml iawn ar ffurf cyngor neu wybodaeth.    Gall y gweithiwr cymdeithasol helpu teuluoedd i ddatblygu eu hatebion eu hunain, er mwyn atal problemau rhag gwaethygu. 

Mae’r gweithiwr cymdeithasol Dechrau’n Deg hefyd yn darparu Rhaglen Ryddid un i un a Phecyn Gwaith Adferiad Cam-drin Domestig - i’r rheiny sydd wedi profi, neu sydd yn profi Cam-Drin Domestig. 

Ymarferwyr iechyd meddwl sylfaenol

Mae cefnogaeth ar gyfer Iechyd Meddwl a lles emosiynol cadarnhaol ar gael gan y gwasanaeth. Bydd ymarferwyr iechyd meddwl sylfaenol yn darparu asesiad clinigol llawn o iechyd meddwl a lles y rhiant. Gall yr ymarferwyr gynnig cyngor a chymorth i helpu'r rhiant ddatblygu a chynnal strategaethau ymdopi er mwyn rheoli eu hanghenion. Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth trwy raglen grŵp ‘Byw Bywyd i’r Eithaf’. 

Gofal Plant

Mae gofal plant ar gael i blant o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed tan y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair. Mae gan blant hawl i 5 sesiwn fore neu brynhawn yr wythnos, dros 39 wythnos y flwyddyn. Mae sesiynau mewn lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg yn para 2 awr a hanner yr un ac maent am ddim i deuluoedd. Mae o leiaf un lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg ym mhob ardal Dechrau'n Deg. 

Mae gofal plant ar gael mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg. Gall mynd i leoliad gofal plant Dechrau'n Deg gefnogi beth mae rhieni/gofalwyr eisoes yn ei wneud yn y cartref i helpu eu plant i ddysgu a datblygu.

Cefnogaeth iaith a chyfathrebu cynnar

Mae cefnogaeth ar gyfer datblygu iaith a chyfathrebu cynnar ar gael i blant rhwng 0 a 4 oed. Caiff y gefnogaeth ei ddarparu trwy'r therapydd lleferydd ac iaith, y gwasanaeth ymwelydd iechyd gwell, y Tîm Iaith a Chwarae a gofal plant. 

Mae’r rhaglen ‘Iaith a Chwarae’ ar gael i bob rhiant a phlant Dechrau’n Deg.

Mae’r rhaglen yn helpu i ddatblygu sgiliau siarad a gwrando plant trwy ganeuon, rhigymau, storïau a chwarae. Gall rhieni/gofalwyr fynychu sesiynau iaith a chwarae trwy ofal plant, grwpiau Sgwrsio, grwpiau Sgwrsio Gyda’ch Babi yn y gymuned neu gartref. Mae rhieni/gofalwyr sydd wedi cymryd rhan mewn sesiynau Iaith a Chwarae wedi adrodd eu bod yn eu helpu i chwarae gyda’u plant mewn ffyrdd sy’n helpu eu plant i ddysgu. Dywedodd y rhieni/gofalwyr eu bod bellach yn mwynhau chwarae gyda’u plant yn fwy, rhannu storïau, canu caneuon a rhigymau, siarad â’r plentyn a chyfrif pethau gyda’i gilydd. 

Bydd pob plentyn yn derbyn amrywiaeth o fagiau 'Dechrau Da’ yn 6 mis a 27 mis oed. Mae pob bag yn cynnwys llyfrau a gwybodaeth sy’n benodol i’r oedran hynny. Bydd pob plentyn hefyd yn derbyn Bag Llyfrau Dechrau’n Deg yn 15 mis, sydd yn cynnwys amrywiaeth o lyfrau a gweithgareddau. Bydd plant sy’n cael gofal plant hefyd yn cael ‘bag stori’ ac yn cael mynd â llyfr gwahanol adref bob wythnos i'w fwynhau.

Cysylltu â ni

Ebost: flying.start@wrexham.gov.uk

Cydlynydd Gwasanaeth, Rheolwr Iechyd ac Arweinydd Rhianta
01978 298300

Arweinydd gofal plant (yn ystod y tymor yn unig)
01978 297270