Gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd 6 Tachwedd, 2023.  Gwiriwch yr adran ‘Sut a phryd alla’i wneud cais?’ isod am wybodaeth ynghylch ceisiadau hwyr. 

Mae amrywiaeth o ysgolion yn Wrecsam yn darparu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ac mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig.

 

Dylech lenwi ffurflen gais awdurdod lleol Wrecsam i wneud cais am le mewn ysgol, fodd bynnag mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais yr ysgol hefyd (gweler y wybodaeth ychwanegol isod am ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ysgolion sefydledig ac ysgolion y tu allan i'r sir).

 

Ble bynnag yr ydym yn cyfeirio at ‘ein cais ni’ ar y dudalen hon mae hyn yn golygu ffurflen gais yr awdurdod lleol – oherwydd mai Cyngor Wrecsam yw'r awdurdod derbyn lleol ar gyfer ysgolion cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Pryd a sut alla’i wneud cais?

O Medi 4, 2023 gallwch wneud cais am le mewn ysgol uwchradd i'ch plentyn. Mae llefydd ar agor i blant a fydd wedi cael eu pen-blwydd yn 11 oed cyn neu ar 31 Awst 2024.

Gallwch wneud ymgeisiwch rŵan – dyma’r ffordd gyflymaf a rhwyddaf i wneud cais. Byddwch chi hefyd yn cael e-bost yn rhoi gwybod i chi bod eich cais wedi’i dderbyn.

Fel arall, mae ceisiadau bapur ar gael drwy anfon ebost i admissions@wrexham.gov.uk.

Dylech anfon y ffurflen gais wedi’i chwblhau at Swyddog Derbyniadau’r Awdurdod Lleol, Adeiladau’r, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Tachwedd 6, 2023.

Ceisiadau hwyr

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau.

Er bod modd cyflwyno cais ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (8 Ionawr 2024) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (1 Mawrth 2024).

Pryd a sut alla’i wneud cais?

O Medi 4, 2023 gallwch wneud cais am le mewn ysgol uwchradd i'ch plentyn. Mae llefydd ar agor i blant a fydd wedi cael eu pen-blwydd yn 11 oed cyn neu ar 31 Awst 2024.

Gallwch wneud ymgeisiwch rŵan – dyma’r ffordd gyflymaf a rhwyddaf i wneud cais. Byddwch chi hefyd yn cael e-bost yn rhoi gwybod i chi bod eich cais wedi’i dderbyn.

Fel arall, mae ceisiadau bapur ar gael drwy anfon ebost i admissions@wrexham.gov.uk.

Dylech anfon y ffurflen gais wedi’i chwblhau at Swyddog Derbyniadau’r Awdurdod Lleol, Adeiladau’r, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd 6 Tachwedd, 2023.

Ceisiadau hwyr

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau.

Er bod modd cyflwyno cais ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (8 Ionawr 2024) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (1 Mawrth 2024).

Gwneud cais am le mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig

Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir (Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff) neu  ysgol sefydledig (Ysgol Maelor, Llannerch Banna), efallai y bydd yr ysgol hefyd yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais ychwanegol ac am dystiolaeth atodol. Os felly, bydd yn ofynnol i chi lenwi a dychwelyd eu ffurflen gais ar wahân nhw yn ogystal â chwblhau ein cais ar-lein (neu bapur) ni.

Dylech wirio’r dyddiad cau ar unrhyw ffurflenni ar wahân sydd gan ysgolion unigol gan y gallai fod yn ddyddiad gwahanol.

Gwneud cais am ysgolion y tu allan i’r sir

Bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r awdurdod derbyn priodol ar gyfer yr ysgol y tu allan i’r sir.

Byddem yn eich cynghori o hyd i lenwi ein ffurflen gais ar-lein (neu bapur) ni, hyd yn oed os ydych yn gwneud cais am ysgol y tu allan i Fwrdeistref Sirol Wrecsam - rhag ofn y bydd y cais ar gyfer yr ysgol yr ydych yn ei ffafrio yn aflwyddiannus.

Byddwn ni (fel eich awdurdod  lleol) wedyn yn casglu’r wybodaeth hon ac yn ei throsglwyddo i’r awdurdodau lleol cyfagos: Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Sir Amwythig.

Efallai y bydd gan ysgolion y tu allan i’r sir amserlen dderbyn wahanol i Gyngor Wrecsam felly bydd angen i chi gysylltu â nhw a gwirio hynny gyda’r awdurdod derbyn perthnasol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn methu’r dyddiad cau.

A gaf ddweud pa ysgol fyddai orau gennyf?

Gallwch ddweud pa ysgol/ysgolion fyddai orau gennych yn eich cais.

Argymhellir eich bod yn dewis mwy nag un ysgol gan roi'r ysgol fyddai orau gennych chi ar frig y rhestr a'r ail, trydydd ac ati wedyn, rhag ofn byddwch yn aflwyddiannus yn eich cais/ceisiadau i'r ysgol/ysgolion fyddai orau gennych (ni fydd rhestru'r un ysgol fwy nag unwaith yn gwella eich siawns).

Beth sy’n digwydd wedi imi wneud cais?

Pwy sy’n penderfynu?

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn ysgol  gymunedol, bydd eich cais yn cael ei ystyried gennym ni (Cyngor Wrecsam, fel yr awdurdod derbyn lleol).

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn ysgol Gatholig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig bydd eich cais yn cael ei ystyried gan gorff llywodraethu'r ysgol honno.

Os yw’r ysgol yr ydych wedi gwneud cais ar ei chyfer y tu allan i Sir Wrecsam, bydd eich cais yn cael ei ystyried gan awdurdod derbyn perthnasol yr ysgol.

Pryd a sut fydda i’n cael gwybod am le fy mhlentyn mewn ysgol uwchradd?

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn ysgol gymunedol byddwn yn rhoi gwybod i chi erbyn 1 Mawrth 2024 os yw eich plentyn wedi cael cynnig lle yn yr ysgol uwchradd yr ydych yn ei ffafrio.

Os ydych wedi dweud wrthym eich bod eisiau clywed drwy e-bost byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost, fel arall byddwn yn anfon llythyr atoch.

Os ydych wedi gwneud cais am le mewn Ysgol Gatholig neu ysgol sefydledig, byddwch yn cael llythyr gan gorff llywodraethu'r ysgol erbyn 1 Mawrth 2024.

Cyngor a dogfennau

Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth am y broses dderbyn gallwch ddarllen ein canllaw ar gyfer rheini.

Cludiant Ysgolion

Unwaith y byddwch wedi cael gwybod am le eich plentyn mewn ysgol, efallai y byddwch eisiau gwneud cais am gludiant i'r ysgol

Canllawiau pellach

Cwestiynau Cyffredin am wneud Cais

Pam bod rhaid i mi gwblhau ffurflen mynegi dewis?

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol roi cyfle i chi nodi ffafriaeth o ran yr ysgol yr ydych yn dymuno i’ch plentyn fynd iddi, a rhoi rheswm dros eich dewis.  Mae’n rhaid i’r Awdurdod Derbyn perthnasol gynnig lle yn ôl dewisiadau, hyd at nifer derbyn cyhoeddedig pob ysgol (cyhoeddwyd y niferoedd yn y Canllaw i Rieni ar Wasanaethau Addysg yn Wrecsam).  Sylwer, er y bydd yr Awdurdod Lleol yn ymdrechu i sicrhau bod eich plentyn yn mynd i’r ysgol yr ydych yn ei ffafrio, nid oes hawl awtomatig i’ch plentyn gael ei addysgu yn yr ysgol honno. Mae’n rhaid i rieni nodi sawl dewis gan eu gosod yn y drefn a ffefrir.

Beth sy’n digwydd os nad wyf yn cwblhau ffurflen mynegi dewis?

Os nad ydych yn cwblhau cais erbyn y dyddiad a nodir, mae’n bosib na fydd yr awdurdod perthnasol yn gallu cynnig lle i’ch plentyn yn yr ysgol yr ydych yn ei ffafrio o fewn ardal Wrecsam (mae hyn yn cynnwys ysgolion a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru ac ysgolion sefydledig) ar gyfer mis Medi 2024. 

Os wyf yn gofyn am ysgol wahanol i’r ysgol uwchradd addas agosaf, a fydd fy mhlentyn yn derbyn cludiant am ddim?

Gweler y Polisi Cludiant a gyhoeddwyd yn y Canllaw i Rieni ar Wasanaethau Addysg yn Wrecsam. Os ydych yn nodi ffafriaeth am ysgol nad yw’n ysgol addas agosaf, yna eich cyfrifoldeb chi fydd gwneud trefniadau o ran cludiant a thalu i’ch plentyn fynd i’r ysgol honno.

Mae gennyf blentyn hŷn sydd eisoes yn mynychu’r ysgol yr wyf yn ei ffafrio -  a oes rhaid i mi wneud cais?

Oes, mae’n rhaid i chi wneud cais.

Os nad yw fy mhlentyn yn cael lle yn yr ysgol yr wyf yn ei ffafrio, ac nid honno yw’r ysgol uwchradd agosaf, a fydd lle wedyn i fy mhlentyn yn yr ysgol agosaf?

Os ydych yn nodi ysgol ar wahân i’r ysgol uwchradd agosaf fel eich dewis cyntaf a bod eich cais yn aflwyddiannus, bydd eich dewisiadau eraill yn cael eu hystyried yn unol â meini prawf yr awdurdod derbyn ar gyfer gormod o geisiadau. Mae’r wybodaeth yn y Canllaw i Rieni ar Wasanaethau Addysg yn Wrecsam yn dangos nifer y lleoedd sydd ar gael ym mhob ysgol a’r nifer disgwyliedig ar gyfer mis Medi 2023. Canllaw yn unig yw hwn a gall y sefyllfa newid erbyn 2024.

Os yw nifer y rhieni sydd wedi dewis yr ysgol yr wyf yn ei ffafrio yn uwch na nifer y lleoedd sydd ar gael, sut fydd y lleoedd hyn yn cael eu dyrannu?

Mae dewisiadau ar gyfer lleoedd mewn ysgolion cymunedol o fewn yr Awdurdod Lleol yn cael eu hystyried ar sail meini prawf yr awdurdod ar gyfer gormod o geisiadau, sydd wedi’i gyhoeddi yn y Canllaw i Rieni ar Wasanaethau Addysg yn Wrecsam. Mae’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi ar eich cais yn bwysig.

Bydd yr holl geisiadau a dderbynnir erbyn dyddiad cau’r Awdurdod Lleol, Tachwedd 6, 2023, yn cael eu hystyried ar y cyd a’u hasesu yn erbyn meini prawf yr Awdurdod.

Bydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried gan ddefnyddio'r un meini prawf a gyhoeddwyd, ond pe bai gormod o geisiadau i ryw ysgol, bydd unrhyw geisiadau hwyr yn cael eu hystyried ar ôl y rhai a gyrhaeddodd erbyn dyddiad cau’r ALl.

Mae hyn yn golygu na fyddech chi, o bosib’, yn cael lle yn yr ysgol o'ch dewis os derbynnir eich cais ar ôl y dyddiad cau. Os oes gan y plentyn angen meddygol penodol (er enghraifft anabledd a allai olygu bod teithio i ysgol bellach yn fwy anodd), rhaid cyflwyno tystiolaeth ategol cyn diwedd y cyfnod dyrannu lleoedd, gan nodi’r rhesymau pam mai’r ysgol dan sylw yw’r un fwyaf addas a’r anawsterau a fyddai pe bai’n rhaid i’r plentyn fynd i ysgol arall, er enghraifft, llythyr gan weithiwr iechyd cofrestredig fel meddyg neu weithiwr cymdeithasol. Bydd y dystiolaeth yn cael ei hasesu gan ymgynghori gydag Uwch-reolwyr perthnasol.

Bydd dewisiadau ar gyfer lleoedd mewn ysgolion a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru ac ysgolion sefydledig yn cael eu hystyried yn erbyn meini prawf derbyn yr ysgolion.  Mae’r polisïau derbyn wedi’u cyhoeddi yn y Canllaw i Rieni ar Wasanaethau Addysg yn Wrecsam.

Beth allaf ei wneud os nad yw fy newisiadau yn cael eu bodloni?

Os nad oes modd bodloni eich dewisiadau, fe’ch gwahoddir i fynegi rhagor o ddewisiadau.  Os yw hyn yn digwydd, bydd gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â bodloni eich dewis cyntaf (neu arall) ger bron panel apelio annibynnol.  Ni fydd cyflwyno apêl yn effeithio ar unrhyw le mewn ysgol arall sydd eisoes wedi’i ddyrannu i’ch plentyn.  Mae gwybodaeth am apeliadau derbyn ar gael yn y Canllaw i Rieni ar Wasanaethau Addysg yn Wrecsam.

A oes modd i mi ddefnyddio cyfeiriad gwahanol, ar wahân i gyfeiriad y cartref, wrth gwblhau cais fy mhlentyn?

Nac oes. Bydd yr Awdurdod Lleol yn gwirio'r cyfeiriad ar eich cais yn erbyn y cofnodion a gedwir ar gyfer ysgol bresennol eich plentyn, ac efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth a thystiolaeth gennych chi os ydynt yn wahanol.

At ddibenion dyrannu lleoedd, bydd unrhyw gynnig am le mewn ysgol yn seiliedig ar ble fydd eich plentyn yn byw ar ddiwedd y cyfnod dyrannu ac fe fydd yn cael ei gynnig ar yr amod bod y plentyn yn byw yn y cyfeiriad hwnnw, oni bai ein bod wedi cael gwybod ac wedi derbyn eu bod wedi symud yn y cyfamser. Os rhennir gwarchodaeth y plentyn yn gyfartal, dylai’r rhieni benderfynu pa gyfeiriad i’w ddefnyddio ond efallai y byddwn yn gofyn i weld Gorchymyn Llys neu dystiolaeth arall i gadarnhau bod y trefniant yn bodoli.

Cynghorir rhieni/gofalwyr y gellir tynnu cynnig o le mewn ysgol yn ôl yn gyfreithiol os canfyddir bod yr wybodaeth a nodir ar y ffurflen gais yn dwyllodrus neu’n gamarweiniol. Gallai’r goblygiadau gynnwys nad oes lle ar gael ar gyfer y plentyn yn eu hysgol agosaf nesaf.

Ni all yr Awdurdod Lleol dderbyn dau gais ar gyfer un plenty. Felly, mae’n rhaid i rieni ddod i gytundeb ar y cyd neu gael Gorchymyn Llys priodol a chyflwyno un cais.

Beth ddylwn i ei wneud os wyf yn symud tŷ ar ôl cyflwyno fy ffurflen gais?

Rhowch wybod i’n tîm derbyniadau os yw cyfeiriad eich plentyn yn newid yn ystod y cyfnod dyrannu, sef rhwng Tachwedd 7, 2023 a Ionawr 8, 2024.

Nid wyf yn gwbl sicr o’r trefniadau ac mae gennyf ymholiadau pellach – gyda phwy allaf gysylltu am ragor o gyngor?

Gallwch gysylltu â’n tîm derbyniadau drwy anfon e-bost i Admissions@wrexham.gov.uk, neu 01978 298991.