Ydych chi’n ystyried gweithio yn y sector gofal?

Mae Gofalwn Cymru yn anelu i annog mwy o bobl gyda’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sydd heb ystyried swydd ofal o’r blaen.

Gallai gyrfa mewn gofal fod yn berffaith i chi os ydych:

  • yn rywun sy’n hoff o bobl ac sydd â diddordeb mewn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau bob dydd pobl 
  • os oes gennych agwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i ofalu am eraill 
  • eisiau herio eich hun gyda swydd sy’n wahanol bob dydd

Os yw hyn yn swnio fel chi yna gall nawr fod yn amser cywir i chi gychwyn gyrfa newydd mewn gofal.

Pa un ai ydych eisiau gweithio gyda phlant neu oedolion, gallwch gael unrhyw hyfforddiant a chymwysterau sydd eu hangen yn y swydd. Mae cyfleoedd hefyd i weithio’n hyblyg felly gallwch ofalu am eraill o amgylch eich bywyd eich hun.

Mae’r wefan Gofalwn Cymru yn dangos yr amrywiaeth eang o swyddi sydd ar gael ac yn egluro beth a olygant, yn ogystal â darparu storïau gan bobl sydd eisoes yn gweithio mewn gofal a rhestr o swyddi. 

Os ydych yn edrych am swydd gallwch hefyd edrych ar borth swyddi'r cyngor am unrhyw swyddi gwag gofal cymdeithasol.  

Dolenni perthnasol

Darparwyr Byw â Chymorth

Maent yn darparu gofal 24 awr y dydd i unigolion sydd ag anableddau dysgu a/neu anableddau eraill, sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain, ac yn eu cefnogi i fyw o ddydd i ddydd ac i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.

Cartrefi Gofal Preswyl

Gweithwyr Cymdeithasol

I fod yn weithiwr cymdeithasol yng Nghymru, rhaid i chi gael cymhwyster proffesiynol penodol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru; y rheoleiddiwr Gofal Cymdeithasol i Gymru.

Therapyddion Galwedigaethol

I fod yn therapydd galwedigaethol yn y DU rhaid i chi gael cymhwyster a gymeradwywyd a chofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).

Mae gwybodaeth am therapi galwedigaethol ar wefan Coleg Brenhinol Therapyddion Galwedigaethol (dolen gyswllt allanol).