Mae taliadau uniongyrchol yn ffordd o gael cymorth i ddiwallu eich anghenion cymdeithasol a phersonol. 

Yn hytrach na bod y gwasanaethau cymdeithasol yn darparu’r gefnogaeth hon, cewch arian i sefydlu gwasanaethau eich hunain. 

Trwy daliadau uniongyrchol, gallwch gael mwy o reolaeth o ran pwy fydd yn eich helpu a’r ffordd y byddant yn ei wneud. Gall hyn weddu eich ffordd o fyw yn well a rhoi gwell dewis a hyblygrwydd i chi.

Cysylltwch â ni am daliadau uniongyrchol

Os oes gennych ddiddordeb a’ch bod yn cael gwasanaethau cefnogi eisoes, gallwch gysylltu â’ch gweithiwr cymdeithasol.

Os nad ydych chi’n cael gwasanaeth, gallwch gysylltu â ni i wneud cais am asesiad o’ch anghenion.

Os hoffech ragor o wybodaeth am sut gallai taliadau uniongyrchol weithio i chi, gallwch gysylltu â ni trwy anfon e-bost at directpayments@wrexham.gov.uk, neu ffonio 01978 298676.