Yr unigolion sy’n gweithio i ni neu gyda ni (Cyngor Wrecsam) yn aml yw’r cyntaf i sylweddoli bod rhywbeth, o bosibl, yn bod oddi mewn i’r cyngor. Fodd bynnag, gallant deimlo nad ydynt yn gallu mynegi eu pryderon am eu bod yn teimlo y byddai tynnu sylw’n anffyddlon i’w cydweithwyr, rheolwyr neu i’r cyngor. Gallant hefyd ofni tarfu arnynt neu gael eu herlid. Gallant bryderu ynghylch codi materion o’r fath neu gallant fod eisiau cadw’r pryderon iddynt eu hunain, efallai’n teimlo nad yw’n ddim o’u busnes neu nad yw ond yn amheuaeth. Gallant benderfynu dweud rhywbeth ond gweld eu bod wedi siarad â’r un anghywir neu wedi codi’r mater yn y ffordd anghywir a heb fod yn sicr beth i’w wneud nesaf.

Mae gan y cyngor Bolisi Canu Cloch sy’n cynghori staff ac eraill sut i fynegi pryderon ynghylch gweithgareddau yn y gweithle.

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bawb o’r canlynol:

  • cyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • cyflogeion contractwyr sy’n gweithio i’r gyngor yn eiddo ac adeiladau’r cyngor (er enghraifft, staff asiantaeth, adeiladwyr, gyrwyr)
  • y rhai’n darparu gwasanaethau dan gontract neu gytundeb arall gyda’r cyngor yn eu heiddo ac adeiladau eu hunain (er enghraifft cartrefi gofal)
  • gweithiwyr gwirfoddol yn gweithio gyda’r cyngor
  • ymgynghorwyr a gyflogwyd gan y cyngor

Os ydych yn gweithio i neu gyda’r cyngor ac yn pryderu bod rhywbeth anghywir neu beryglus yn digwydd yn y gwaith, peidiwch â’i gadw i chi eich hun. Os na fyddwch yn dweud wrthym am bryderon sydd gennych ynghylch gweithgaredd troseddol, peryglon i ddiogelwch, neu ymddygiad amhriodol tuag at gleientiaid, y tebyg yw na chawn wybod nes bydd yn rhy hwyr.

Sut i fynegi pryder

Mae’r polisi’n dweud wrthych sut i fynegi pryder.

  1. Dylech fynegi eich pryder wrth bwy bynnag y teimlwch fwyaf cysurus yn codi mater â hwy. Gobeithiwn y byddwch yn gallu dweud wrth eich rheolwr atebol (neu, os nad ydych yng nghyflogaeth y cyngor, y rheolwr perthnasol yn y cyngor).
  2. Os ydych yn anesmwyth ynghylch hyn, am ba reswm bynnag, neu’n teimlo ei bod yn fwy priodol mynegi pryderon wrth rywun uwch neu oddi allan i’ch adran, (neu, os nad ydych yng nghyflogaeth y cyngor, yr adran berthnasol), gallwch gysylltu ag un o’r cysylltiadau mewnol sy’n cael eu rhestru yn y polisi.
  3. Os oes gennych bryderon difrifol y teimlwch na allwch eu mynegi o fewn y cyngor, am ba reswm bynnag, dylech godi’r mater gydag un o’r cysylltiadau allanol sy’n cael eu rhestru yn y polisi.
  4. Os yw eich pryder yn ymwneud â niwed neu bosibilrwydd niwed i naill ai blant neu oedolion diamddiffyn, yna dylid hysbysu’r pryderon hyn ar unwaith i’r Cydgysylltydd Amddiffyn Plant neu'r Cydgysylltydd Amddiffyn Oedolion Diamddiffyn neu’r Tîm Dyletswydd Argyfwng allan o oriau.
  5. Os ydych eisiau cyngor cyfrinachol yn gyntaf, gallwch ffonio’r elusen annibynnol, Protect, ar 020 3117 2520. 

Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar gael ym Mholisi Rhannu Pryderon y Cyngor, gan y Swyddog Monitro drwy ffonio 01978 292202, neu’r Dirprwy Swyddog Monitro drwy ffonio 01978 292221. 

Mae’r gyfraith yn gwarchod gweithwyr sy’n mynegi pryderon yn ddiffuant. Felly, peidiwch â phryderu ynghylch bod dan anfantais o ganlyniad.

Ni fydd y cyngor yn goddef erledigaeth nac aflonyddu ar neb sy’n mynegi pryder ynghylch drygioni gwirioneddol neu sy’n cael ei amau. Ar ôl i chi fynegi pryderon, byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi a, ble bynnag y bo modd, yn gadael i chi wybod y canlyniad terfynol.

Mae’r Polisi Canu Cloch yn rhoi ffordd ddiogel a chydgyfrinachol i chi fynegi pryderon gwirioneddol. Defnyddiwch ef – peidiwch â gadael i ddrygioni fynd heb ei herio os oes rhywbeth y gallwch wneud yn ei gylch.

Dogfennau