Efallai y byddwn yn gohirio eich taliadau i leihau risg o wneud gordaliadau i chi, ac wedyn eich bod yn gorfod ei dalu’n ôl wedyn.

Bydd eich taliadau tŷ a gostyngiad Treth y Cyngor yn cael eu gohirio:

  • Os ydym yn credu nad ydych yn cael y swm cywir. Byddwn yn gohirio eich taliadau tan fydd yr ymholiad wedi’i ddatrys.
  • Ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym yn credu nad ydych yn cael tâl digonol. Os nad ydych yn darparu digon o dystiolaeth a gwybodaeth i gefnogi eich hawliad.
  • Os ydym yn aros am benderfyniad apêl ynghylch eich hawliad.

Beth sydd yn digwydd pan fyddwch yn gohirio fy hawliad?

Byddwn yn ysgrifennu atoch i egluro’r rhesymau, ac i ddweud wrthych os oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i helpu i adennill eich taliadau.

Bydd gennych un mis calendr o ddyddiad y llythyr hysbysu i ateb.

A allaf apelio yn erbyn y penderfyniad i ohirio fy hawliad?

Os na allwch apelio os ydym yn gohirio eich budd-daliadau, neu'n eu hadfer ar yr un gyfradd ar sail yr un cyfrifiadau.

Fodd bynnag, os ydym yn eu hadfer ar gyfradd wahanol, gallwch apelio’r penderfyniad newydd.

Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn darparu’r wybodaeth a thystiolaeth yr ydych ei angen?

Ar ôl i ni gael yr wybodaeth a thystiolaeth i wneud penderfyniad newydd neu i gywiro un cynharach, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych beth yw eich swm newydd.

Hefyd, byddwn yn ysgrifennu atoch os ydym wedi dod â’r gohiriad i ben a bod dyfarniad eich budd-dal yn aros yr un fath.

Dylai eich taliadau budd-dal tai ddechrau eto cyn pen 14 diwrnod o ddyddiad yr ydym yn gwneud y penderfyniad.

Beth sy’n digwydd os ydym yn methu ag ymateb i’ch ceisiadau?

Os nad ydym wedi clywed gennych ar ôl un mis calendr, byddwn yn stopio eich taliadau budd-dal.

Os ydych yn darparu gwybodaeth neu'n cysylltu â ni o fewn y mis, byddwn fel arfer yn gallu cynnig mwy o amser i chi ddarparu tystiolaeth a gwybodaeth yr ydym ei angen.

Pam bod fy mudd-daliadau wedi cael eu terfynu?

Efallai y bydd eich budd-dal tai a gostyngiad Treth y Cyngor yn cael ei derfynu oherwydd:

  1. Rydych wedi symud allan o Fwrdeistref Sirol Wrecsam.
  2. Mae’r unigolyn a wnaeth yr hawliad wedi marw.
  3. Mae eich cyfalaf yn fwy na’r cyfyngiad o £16,000.
  4. Mae eich incwm yn fwy na chyfyngiad yr hawl.
  5. Mae’r didyniadau annibynnydd sydd yn berthnasol i’ch hawliad yn golygu nad ydych yn gymwys bellach.
  6. Rydych yn gymwys am lai na 50c yr wythnos o Fudd-dal Tai.
  7. Nid ydych bellach yn gymwys i dalu rhent na Threth y Cyngor, neu’r ddau.
  8. Rydych yn absennol dros dro o’r cartref yn hirach na’r amser y gallwn dalu budd-daliadau amdano, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau.
  9. Mae eich cyfnod talu estynedig wedi dod i ben ac nid ydych yn gymwys am unrhyw fudd-daliadau parhaus gan eich bod yn gweithio yn awr.
  10. Rydych wedi methu ag ymateb i’r ceisiadau yn gofyn am dystiolaeth a gwybodaeth i brofi eich hawliad budd-dal parhaus.
  11. Mae eich amgylchiadau yn golygu ar gyfer cyfnod parhaus o 13 wythnos, nid ydych yn bodloni amodau’r hawliad.
  12. Rydych wedi cael newid mewn amgylchiadau sydd yn golygu bod arnoch angen hawlio Credyd Cynhwysol yn hytrach na Budd-Dal Tai.