Fe allech fod yn gymwys ar gyfer tai gwarchod os ydych chi dros 60 mlwydd oed.  Os ydych chi dros 55 oed a fod gennych "dystiolaeth o anghenion cefnogaeth” efallai y gallwch gyflwyno cais hefyd. 

Os oes gennych chi anghenion gofal iechyd neu ofal cymdeithasol sy'n golygu eich bod angen cefnogaeth bydd angen i chi lenwi ffurflen asesiad meddygol ac anghenion arbennig, a chyflwyno tystiolaeth ategol. 

Gallai tai gwarchod fod yn addas ar eich cyfer os ydych chi... 

  • eisiau cadw eich annibyniaeth, ond yn dymuno cael tawelwch meddwl bod gwasanaeth cefnogi proffesiynol ar gael pan fo’r angen 
  • Yn mwynhau cymysgu â phobl eraill pan ddymunwch 
  • Yn byw mewn llety sy’n rhy fawr i’ch anghenion ar hyn o bryd 

Beth yw tai gwarchod?

Mae tai gwarchod yn fath o dai cefnogaeth, wedi'u dylunio'n arbennig gydag anghenion pobl hŷn mewn golwg.  

Nid yw'r un fath â chartref preswyl neu nyrsio, ac mae gan bob tenant fflat, fflat un ystafell neu fyngalo eu hunain (sydd heb ddodrefn). 

Beth sy’n cael ei ddarparu mewn tai gwarchod?

Mae rhai amrywiadau rhwng cynlluniau tai gwarchod, fodd bynnag fel arfer mae ganddynt...

  • Fflatiau hunangynhwysol, fflatiau un ystafell neu fyngalo 
  • Gwres canolog a dŵr poeth  
  • System larwm mwg 
  • Warden 
  • Gwasanaeth larwm teleofal 24 awr – yn darparu gwasanaeth 24 awr rhag ofn y bydd argyfwng 
  • Ystafell i westeion heb unrhyw gost ychwanegol (gellir gwneud trefniadau gyda warden os oes gan denant berthynas neu gyfaill agos sy’n dymuno aros am noson neu fwy) 
  • Lolfa / lolfeydd cymunedol ar gyfer cymdeithasu ac adloniant  
  • Ystafelloedd golchi dillad gyda pheiriannau golchi a sychwyr dillad (mae gan gynlluniau rota er mwyn i'r tenantiaid allu defnyddio'r peiriannau) 
  • Lifftiau (mae gan y mwyafrif o gynlluniau lifft ar gyfer y rhai sydd ag anhawster yn defnyddio grisiau) 
  • Camerâu diogelwch TCC (mewn rhai ardaloedd) 
  • WiFi

Hefyd mae rhai cynlluniau yn darparu: trwyddedau teledu (am ddisgownt), gerddi cymunedol, storfeydd sgwter, rampiau, drysau lletach ac ymweliadau gan lyfrgell deithiol. 
 

Wardeniaid

Mae wardeniaid yn gofalu am les cyffredinol tenantiaid y cynllun drwy: 

  • Ddelio ag argyfyngau 
  • Annog gweithgareddau cymdeithasol 
  • Cysylltu â theulu / perthnasau os bydd salwch 
  • Glanhau ardaloedd cymunedol 
  • Rhoi gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau sydd ar gael 
  • Ymweld â thenantiaid i wirio eu hiechyd a’u lles 

Gall wardeniaid gysylltu â pherthnasau agos neu feddyg ar eich rhan os oes angen en enghraifft os fyddwch chi'n sâl / bod problem feddygol. Bydd angen darparu gwybodaeth benodol i wardeniaid er mwyn iddynt allu gwneud hyn (bydd hyn yn cynnwys enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn teulu agos a meddygon, ynghyd â manylion cyflyrau meddygol).  

Mae tai gwarchod yn cael eu darparu ar gyfer pobl sy’n gallu gofalu am eu hunain neu sydd â chefnogaeth teulu / gwasanaethau eraill i’w cynorthwyo i ymdopi yn eu cartref eu hunain. Oherwydd hyn, nid yw wardeniaid yn darparu cymorth gyda thasgau fel siopa, coginio, glanhau, gofalu am arian, neu ddosbarthu cyffuriau neu feddyginiaethau. 

System larwm Teleofal

Mae systemau larwm Teleofal yn darparu cyswllt llafar dwyffordd sy’n eich galluogi i siarad yn uniongyrchol â’r warden. Mae gan bob eiddo tŷ gwarchod gortyn tynnu ac mae pob tenant yn derbyn cortyn gwddf neu strap ar gyfer yr arddwrn, a fydd yn cael ei raglennu i'ch cyfeiriad - a gellir defnyddio'r ddau i geisio cymorth mewn argyfwng. 

Gellir darparu offer ychwanegol en enghraifft monitor anweithgarwch, larymau crwydro, i ddiwallu anghenion penodol iawn. Mae angen asesiad i nodi’r anghenion ychwanegol hyn. 

Mae’r warden a’r system larwm yn darparu gwasanaeth 24 awr rhag ofn y bydd argyfwng. Os nad yw’r warden ar ddyletswydd, yna bydd y galwadau yn cael eu hateb gan ein canolfan ymateb Delta a fydd yn trefnu cymorth (gallant gysylltu â pherthnasau neu'r gwasanaethau brys fel bo'r angen). 

Mae wardeniaid ar ddyletswydd yn ystod oriau craidd yn unig, cyn trosglwyddo i’r system larwm fin nos. Gan nad ydynt ar ddyletswydd 24 awr y dydd gofynnir i chi barchu preifatrwydd y warden yn ystod oriau pan nad ydynt ar ddyletswydd. 

Cynlluniau cefnogaeth warden

Pan fyddwch yn symud i gynllun tai gwarchod, bydd eich warden yn ymweld â chi i drafod eich cynllun cefnogaeth unigol. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i ddeall y gefnogaeth yr ydych yn credu eich bod ei hangen, a phenderfynu faint o ymweliadau warden yr ydych eu hangen bob wythnos (mae'n hanfodol cael o leiaf un ymweliad). Gallwch gael cyfaill neu berthynas yn bresennol i drafod y cynllun cefnogaeth os dymunwch. 

Yna adolygir eich cynllun cefnogaeth bob chwe mis. Os oes newid i'ch anghenion unigol bydd y cynllun yn cael ei adolygu ar unwaith.   
 

Gwybodaeth ychwanegol am dai gwarchod

Costau Tai Gwarchod

Mae’r rhent yn amrywio o un cynllun i un arall, yn dibynnu ar fath a maint y llety. Mae’r rhent a godir yn gofalu am gostau llety arferol a'r gwasanaeth warden. Mewn rhai cynlluniau mae cost gwres yn rhan o'r rhent wythnosol. Codir tâl ar wahân ar gyfer y pecyn teleofal a gwasanaeth warden. Mae tâl gwasanaeth yn berthnasol ym mhob cynllun. 

Fe allech fod yn gymwys ar gyfer budd-dal tai neu ddisgownt i helpu gyda’r costau, gellir derbyn cyngor ar hyn drwy gysylltu ag unrhyw swyddfa ystâd leol. 

Trwydded Deledu

Mewn rhai cynlluniau, mae trefniadau arbennig er mwyn i chi wneud cais am drwydded deledu (gyda disgownt) sy’n £7.50 y flwyddyn ar hyn o bryd. Gallwch ddarganfod pa gynlluniau sy'n darparu trwyddedau am bris is i breswylwyr cymwys drwy gysylltu â'r swyddfa dai leol ar gyfer ardal y cynllun. 

Ar hyn o bryd mae trwydded deledu am ddim os ydych chi dros 75 oed. 

Anifeiliaid anwes

Os nad oes gardd yn y llety unigol, yn anffodus ni ellir rhoi caniatâd i gadw cath na chi (ond caniateir cŵn tywys a chŵn clywed). 

Mewn rhai cynlluniau caniateir adar bach sy'n byw mewn cawell fel bydjis.  

Os ydych chi’n sâl neu’n mynd ar wyliau, dylech wneud trefniadau bod eich anifail anwes yn derbyn gofal gan deulu neu ffrindiau (gan na all y warden eich cynorthwyo gyda hyn).  

Sut allaf i wneud cais?

Mae angen i chi lenwi ffurflen gais tai sydd ar gael o unrhyw un o’n swyddfeydd tai.  

Gellir llenwi ffurflen asesiad meddygol ac anghenion arbennig hefyd os oes gennych chi gyflwr meddygol. 

Os hoffech gael golwg ar un o'r cynlluniau, gall staff mewn unrhyw un o’r swyddfeydd tai drefnu ymweliad ar eich cyfer.  

Ar ôl gwneud cais byddwch yn cael eich ychwanegu at ein rhestr aros agored.  

Mwy o wybodaeth

Rhaglen ailfodelu ac adnewyddu tai gwarchod

Mae ein Hadran Dai a’r Economi wedi ymrwymo i ailfodelu ac adnewyddu ein cynlluniau tai gwarchod.   

Ym Mawrth 2020, cyhoeddwyd y byddai £16.9 miliwn yn cael ei wario ar ailfodelu ac adnewyddu ein tai gwarchod dros y bum mlynedd nesaf. Rydym hefyd wedi cyhoeddi cynllun gwariant mwy hir dymor i wella ein stoc tai gwarchod, o fewn Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 30 mlynedd.

Y ddau gynllun cyntaf a ailfodelwyd ac adnewyddwyd oedd Llys y Mynydd, Rhos a Thir y Capel, Llai ac mae’r adborth gan y deiliaid contract sy’n byw yn yr unedau hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn.  Mae gwaith bellach wedi dechrau ar y ddau gynllun nesaf, sef Maes y Capel, Coedpoeth a Llys Wisteria, Wrecsam. Mae’r ddau gynllun ar gau ar hyn o bryd, ond mae ceisiadau yn parhau i gael eu cymryd.  

Bydd y gwaith i’r cynlluniau’n cynnwys:   

  • Cynyddu safonau gofod y rhandai, trwy wneud tri rhandy llai yn ddau, neu ychwanegu baeau ‘standing seam’ i rai rhandai i’w gwneud yn fwy
  • Aildrefnu gosodiad mewnol y rhandai i sicrhau eu bod yn hygyrch 
  • Creu cegin ac ardal fyw agored yn y rhandai, gan gynnwys lle ar gyfer peiriant golchi ym mhob cegin 
  • Bydd gan yr ystafelloedd ymolchi yn y rhandai gawodydd mynediad lefel
  • Cynyddu maint y ffenestri a gostwng silffoedd ffenestri, gan ddarparu mwy o olau naturiol, a chreu mwy o le storio 
  • Uwchraddio ffabrig yr adeilad trwy gynyddu inswleiddiad a gosod pympiau gwres yr awyr, gosod a chysylltu offer ffotofoltäig i ardaloedd cymunedol
  • Ailaddurno lolfeydd cymunedol, gan gynnwys dodrefn newydd 
  • Darparu mannau cadw sgwteri gyda lle i wefru 
  • Creu llefydd parcio ychwanegol o amgylch y cynlluniau 

Mae’r gwelliannau a wneir i’r ceginau yn ymateb i awgrymiadau gan denantiaid. Bydd y gwelliannau hyn yn golygu y gellir symud yr ystafell golchi dillad a defnyddio’r gwagle o fewn y gwaith ailwampio.

Pryd fydd y gwelliannau wedi eu gorffen?

Disgwylir y bydd gwaith y ddau gynllun nesaf yn cael ei gwblhau erbyn y gwanwyn 2025.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r gwaith e-bostiwch OlderPersonsHousing@wrexham.gov.uk.

Newyddlenni