Rheoli adeiladu a chynllunio

Os ydych chi’n adnewyddu neu’n atgyweirio’ch eiddo neu’n trosi annedd sengl mae’n bosib y bydd arnoch angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu a/neu ganiatâd cynllunio.

Rheoli adeiladu

Os ydych chi’n gwneud unrhyw waith adeiladu, ac eithrio mân atgyweiriadau/gwelliannau, bydd arnoch angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu yn ôl pob tebyg. Mae’r rheoliadau adeiladu’n ofynion cyfreithiol sydd â’r nod o sicrhau bod adeiladau domestig a masnachol yn bodloni safonau gofynnol.

Fe gewch chi fwy o wybodaeth ar ein tudalen rheoli adeiladu.

Cynllunio

Mae’n debygol y bydd arnoch angen caniatâd cynllunio ar gyfer y mathau canlynol o waith:

  • Newid defnydd annedd (gan gynnwys trosi i fflatiau neu dŷ amlfeddiannaeth) 
  • Rhoi estyniad ar eiddo presennol neu godi adeilad newydd. 

Efallai y bydd arnoch angen cael caniatâd ar gyfer darnau bach eraill o waith mewn ardaloedd sy’n destun mwy o reolau (fel ardal gadwraeth, er enghraifft). Mae croeso ichi gysylltu â’n Hadran Gynllunio i gael cyngor cyn dechrau unrhyw waith ar eich eiddo.

Fforwm Landlordiaid

Mae’r Fforwm Landlordiaid yn rhoi cyfle i landlordiaid ac eraill sydd â buddiant yn y sector rhentu preifat i gwrdd a rhwydweithio gyda’i gilydd. Darperir gwybodaeth a chyflwyniadau gan siaradwyr sydd â gwybodaeth a phrofiad o’r sector rhentu preifat.

Cynhelir y fforwm ddwywaith y flwyddyn, fel arfer ym mis Chwefror a Gorffennaf.

Cyfarfod nesaf y Fforwm Landlordiaid

Dydd Mercher, 1 Mawrth 2023 am 5:30pm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Bydd y Siaradwyr yn cynnwys:

  • Sandra Towers – Cymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol
  • Nick Hodgetts – Glixtone, Arbenigwyr Lleithder a Llwydni
  • Bethan Jones – y wybodaeth ddiweddaraf am Rhentu Doeth Cymru
  • Diweddariad gan yr awdurdod lleol
  • Jo Seymour – Cymru Gynnes – y wybodaeth ddiweddaraf am ECO 4
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – dros dro ar hyn o bryd

Dylai pawb gwrdd ym mhrif dderbynfa Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Darperir lluniaeth.

Mae disgwyl i’r fforwm fod wedi gorffen erbyn 7:30pm.