Os ydych yn gyfreithiwr trydydd parti yn ymholi am ein manylion polisi yswiriant a rhif adnabod y Porth:

  • Ar gyfer ceisiadau Atebolrwydd Cyflogwyr ac Atebolrwydd Cyhoeddus ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, ein hyswirwyr yw Zurich Municipal, rhif y polisi yw QLA O4U 022 0023 a rhif adnabod porth y digolledwyr yw C00108.
  • Am geisiadau Atebolrwydd Cyflogwyr ac Atebolrwydd Cyhoeddus wedi digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015, ein hyswirwyr yw QBE Insurance (Europe) Ltd., rhif polisi Y103901QBE0116A 022 0013 a rhif adnabod y porth cydadferydd D00019”
  • Am geisiadau Atebolrwydd Cyflogwyr ac Atebolrwydd Cyhoeddus wedi digwydd cyn 1 Ebrill 2015, ein hyswirwyr yw Zurich Municipal, rhif polisi QLA O4U 022 0013 a rhif adnabod y porth cydadferydd C00108.

Ffurflen cofnodi digwyddiad: nodiadau cyfarwyddyd 

Mae’n bwysig eich bod chi’n darllen y nodiadau cyfarwyddyd hyn yn ofalus cyn llenwi’r ffurflen hon.

Sylwch, pan fo ‘ein’ a ‘ni’ yn cael eu defnyddio yn y testun canlynol, mae hyn yn cyfeirio at Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

1. Pryd y gall hawliad yswiriant gael ei wneud yn ein herbyn ni?

Er mwyn hawlio iawndal yn llwyddiannus gennym ni, bydd arnoch angen profi ein bod ar fai yn gyfreithiol. Nid oes hawl awtomatig am iawndal, ac er bod digwyddiad wedi digwydd nid yw o reidrwydd yn golygu y gellir ein beio.

2. Diogelwch yswiriant arall

Os oes gennych yswiriant cynnwys cartref, adeiladau neu fodur a fyddai’n diogelu’ch colled/difrod, argymhellwn eich bod yn gwneud hawliad ar y polisi priodol yn y lle cyntaf. Y rheswm am hyn yw oherwydd bydd y taliad yn debygol iawn o fod ar sail “newydd am hen” ac ni fydd angen i chi brofi fod unrhyw un ar fai am y golled, felly mae’n debygol yr ymdrinnir â’ch hawliad yn gynt. Mae’n bosib y bydd eich yswirwyr wedyn yn ceisio adennill eu costau gennym ni os ydyn nhw’n teimlo ein bod wedi bod ar fai.

Os bydd eich yswirwyr yn llwyddo i adennill eu costau, bydd eich premiymau’n annhebygol o gael eu heffeithio.

3. Pa wybodaeth mae’n rhaid i chi ei darparu wrth i chi gyflwyno’r ffurflen hon?

Rhaid darparu’r wybodaeth ganlynol:

a. Crynodeb glir o’r ffeithiau’n ymwneud â’r digwyddiad gan gynnwys amser a dyddiad y digwyddiad.

b. Syniad o natur a graddau’ch anaf(iadau) ac/neu fanylion unrhyw ddifrod i’r eiddo.

c. Manylion unrhyw golled ariannol.

d. Digon o wybodaeth arall i alluogi ymchwiliadau ffurfiol i ddechrau e.e. cynllun o leoliad y digwyddiad ac/neu ffotograff(au) sy’n dangos y lleoliad yn glir.

e. Heb y wybodaeth hon, ni ellir prosesu’r Ffurflen Cofnodi Digwyddiad.

4. Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen hon?

a. Byddwn yn ymchwilio i’r honiadau ac yn paratoi adroddiad. 

b. Bydd yr adroddiad a’r ffurflen hon yn cael eu hanfon at y cwmnïau sy’n trafod ein hawliadau. Byddant yn ymchwilio’n drwyadl i’r mater a hwyrach y byddant yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth. Rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth hon.

c. Ni fyddwn yn trafod y mater yn uniongyrchol gyda chi. Rhaid cyflwyno unrhyw ohebiaeth drwy’r cwmnïau sy’n delio gyda’ch hawliad.

d. Os oes gennych unrhyw gwyn o ran y ffordd y trafodwyd eich hawliad, dylech gysylltu â’r cwmni sy’n trafod eich hawliad.

5. Prosesu gan weithwyr trin hawliadau

a. Bydd y trafodwyr hawliadau’n cydnabod eu diddordeb yn y mater ac os ydy’ch hawliad yn cynnwys anaf personol, byddant yn edrych i gadarnhau eu sefyllfa ymhen 40 niwrnod gwaith yn unol â’r protocol cyn-gweithredu ar gyfer hawliadau gwerth isel rhwng £2,000 - £25,000. Os nad yw’ch hawliad yn cynnwys anaf  personol, byddant yn edrych i ddelio ag ef ymhen 90 diwrnod gwaith.

b. Os ydy’r hawliad ar gyfer difrod i’ch eiddo, bydd angen i’r trafodwyr hawliadau ofyn am dderbynebau gwreiddiol ac/neu amcangyfrifon disodli a chadarnhau oedran yr eitemau. Byddwch yn ymwybodol na fydd unrhyw gynnig taliad ar sail newydd am hen ac felly, bydd yn cael ei addasu am ôl traul.

c. Yn ogystal â’r wybodaeth a amlinellir uchod, gallai’r trafodwyr hawliadau hefyd ofyn i chi ddarparu’ch enw llawn, dyddiad geni a’ch rhif Yswiriant Gwladol, os nad ydynt eisoes wedi’u cyflenwi.

d. Os ydy’ch hawliad am anaf, bydd angen casglu tystiolaeth feddygol. Bydd y trafodwyr hawliadau’n anfon ffurflen ymlaen i’w llenwi i’w galluogi i fynd at eich meddyg teulu/ysbyty i gael adroddiad. Byddwch yn ymwybodol y gall swm yr amser y mae’n cymryd i gael yr adroddiad amrywio’n fawr ac mae’n rhywbeth nad oes ganddynt unrhyw reolaeth drosto, ar wahân i anfon nodiadau atgoffa cyson. Wrth gwrs, gallwch fynd i holi’r meddyg teulu/ysbyty eich hun yn yr achos hwn.

e. Os nad yw adroddiad y meddyg teulu/ysbyty’n ddigonol i asesu gwerth eich anafiadau’n gywir, hwyrach y bydd rhaid i’r trafodwyr hawliadau benodi ymgynghorydd a fydd yn gofyn am eich archwilio er mwyn paratoi adroddiad cynhwysfawr. Gall y broses hon fod yn hir a chymryd nifer o fisoedd.

6. Y canlyniad terfynol

a. Unwaith y bydd y dystiolaeth wedi’i chasglu a’i hasesu bydd y gweithwyr trin hawliadau yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar ein hatebolrwydd cyfreithiol.

b. Os cesglir nad oes atebolrwydd ac nad yw’r trafodwyr hawliadau’n talu’ch hawliad, byddwch yn cael llythyr yn rhoi manylion y rheswm am hyn. Os dymunwch drafod hyn ymhellach, bydd angen i chi gysylltu â’r trafodwyr hawliadau.

c. Os derbynnir atebolrwydd, bydd y trafodwyr hawliadau’n gwneud cynnig ar bapur am iawndal sydd, yn eu barn nhw, yn adlewyrchu’n gywir lefel briodol o iawndal dan yr amgylchiadau.

7. Twyll

Mae gennym agwedd o ddim goddefgarwch tuag at dwyll ac mae gennym Strategaeth Gwrth-Dwyll.

Gallai unrhyw hawliad y canfyddir ei fod wedi’i gopïo’n dwyllodrus neu ei orliwio, boed yn ystod cyfnod prosesu’r hawliad neu yn dilyn hynny, gael ei drosglwyddo i’r Heddlu ac/neu Wasanaeth Erlyn y Goron ac fe allai fod yn destun erlyniad troseddol.

Sylwch:

  1. Mae gennych hawl i ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol ar unrhyw gam yn ystod prosesu’r ffurflen hon.
  2. Cyflwynir a derbynnir y ffurflen hon gennym ni heb leihau effaith unrhyw atebolrwydd ar ein rhan. 
  3. Peidiwch â defnyddio’r ffurflen hon at unrhyw ddiben arall heblaw am roi gwybod i ni am y digwyddiad hwn.

Dychwelwch y Ffurflen Cofnodi Digwyddiad wedi’i llenwi at insurance@wrexham.gov.uk. Fel arall, gallwch bostio’r ffurflen wedi’i chwblhau i:

Y Gwasanaethau Yswiriant
Yr Adran Gyllid
Lambpit Street
Wrecsam, LL11 1AY