Efallai gallwn eich helpu os ydych yn ddigartref, neu dan fygythiad o ddigartrefedd.

Rydych dan fygythiad o ddigartrefedd os yw’n debygol y byddwch yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.

Gallwch fod yn ddigartref os...

  • Nad oes gennych lety ar gael i feddiannu yn y Deyrnas Unedig neu rywle arall
  • Oes gennych lety ond methu sicrhau mynediad ato
  • Oes gennych lety sydd yn strwythur symudol, megis carafán neu gwch preswyl sydd wedi'i ddylunio i allu byw ynddo ond unlle i'w leoli

Rhoddir yr wybodaeth hyn gan gyfeirio at ran dau Deddf Tai (Cymru) 2014.

Ein dyletswydd i atal a chynorthwyo digartrefedd 

Mae gennym gyfrifoldebau penodol am bobl sydd yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd.

Mae gennym...

  • Ddyletswydd i helpu unrhyw un sydd dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn y 56 diwrnod nesaf.
  • Ddyletswydd i roi cymorth i unrhyw unigolyn sy'n ddigartref i’w helpu i gael cartref diogel.
  • Pŵer yn ôl disgresiwn i ganfod os ydych yn fwriadol ddigartref.
  • Pŵer i ryddhau ein dyletswyddau digartrefedd drwy ddod o hyd i lety yn y sector rhentu preifat.

Os ydych yn ddigartref, rydych mewn risg o golli eich cartref, mae gofyn i ni yn ôl y gyfraith wneud nifer o ymholiadau ynghylch eich sefyllfa. Os ydych yn gymwys, efallai gallwn eich atal rhag dod yn ddigartref, neu eich helpu os ydych yn ddigartref yn barod.

Beth allaf ei wneud os ydw i’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref? 

Dylech gysylltu â’r Tîm Datrysiadau Tai drwy ffonio 01978 292947 (mae’r rhif hwn ar gael 24 awr y dydd)

Os ydych o dan 18 oed gallwch ein ffonio unrhyw adeg ar 01978 292039.

Gallwn ddarparu cyngor i unrhyw un, ond os ydych yn gymwys am ragor o gymorth, bydd angen i Swyddog Dewisiadau Tai gadarnhau eich bod yn ddigartref (neu mewn perygl) a phenderfynu pa fath o gymorth y gallwn ei roi i chi.

Cymhwysedd 

Gall bawb gael mynediad am gyngor gennym ni, ond nid oes gennym y dyletswydd i helpu dod o hyd i lety i bawb sydd yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref.

Mae categorïau penodol o bobl sydd ddim yn gymwys am ein help, er enghraifft os:

  • Nad ydych wedi byw yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw am y pum mlynedd diwethaf, a nid ydych yn cael eich ystyried yn breswylydd sefydlog yma
  • Ydych yn wladolyn Ewropeaidd sydd yn torri ‘Cyfarwyddeb Preswylio’
  • Wedi hawlio lloches ers cyrraedd y wlad hon o dramor, a bod eich cais dal yn cael ei hystyried gan y Swyddfa Gartref
  • Yn mewnfudwr anghyfreithiol
  • Wedi aros i fyw yn y DU yn rhy hir
  • Gyda chaniatâd cyfyngedig i aros yn y wlad hon (er enghraifft myfyriwr neu ymwelydd) a ni chewch hawlio cymorth gydag arian na llety o gronfeydd cyhoeddus

Os canfyddir nad ydych yn gymwys cewch lythyr yn egluro’r rhesymau dros y penderfyniad.  Byddwn yn rhoi cyngor ynghylch cymorth a all fod ar gael i chi gan sefydliadau eraill, neu ffyrdd eraill i ddod o hyd i lety addas.