Os ydych yn landlord Tŷ Amlfeddiannaeth bydd angen i chi drwyddedu eich eiddo gyda ni (yn ogystal  â dilyn gofynion Rhentu Doeth Cymru ar gyfer cofrestru / trwyddedu).

Bydd gennych hefyd gyfrifoldebau cyfreithiol ychwanegol o safbwynt sut rydych yn rheoli’r eiddo ar gyfer y tenantiaid.

Beth yw Tŷ Amlfeddiannaeth?

O dan Ddeddf Tai 2004, Tŷ Amlfeddiannaeth yw:

  • tŷ neu fflat cyfan sydd ar osod i dri neu ragor o denantiaid sy’n ffurfio dwy neu ragor o aelwydydd ac sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled
  • tŷ sydd wedi cael ei drosi yn fflatiau un ystafell neu lety hunangynhwysol arall ac sy’n cael ei osod i dri neu ragor o denantiaid, sy’n ffurfio dwy neu ragor o aelwydydd ac sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled
  • tŷ sydd wedi cael ei drosi sy’n cynnwys un neu ragor o fflatiau heb fod yn gwbl hunangynhwysol ac sydd wedi’i feddiannu gan dri neu ragor o denantiaid sy’n ffurfio dwy neu ragor o aelwydydd
  • adeilad sydd wedi’i drosi yn llwyr yn fflatiau hunangynhwysol lle mae mwy na thraean o’r fflatiau’n cael eu gosod ac nid oedd y gwaith trosi yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 1991 

Beth yw ystyr ‘aelwyd’ yn nhermau Tai Amlfeddiannaeth? 

Gall ‘aelwyd’ fod yn unigolyn, neu aelodau o’r un teulu yn byw gyda’i gilydd. Mae aelodau o’r teulu yn cynnwys pobl sydd wedi priodi neu sy’n byw gyda’i gilydd fel pâr priod (gan gynnwys y rheini sydd mewn perthynas o’r un rhyw) yn ogystal â pherthnasau agos a phlant maeth sy’n byw gyda rhieni maeth.

Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth

Os nad yw Tŷ Amlfeddiannaeth wedi’i drwyddedu pan ddylai gael trwydded, mae’r unigolyn â rheolaeth neu’r unigolyn sy’n rheoli’r Tŷ Amlfeddiannaeth yn troseddu a gall gael dirwy heb uchafswm (£20,000 yn flaenorol). Landlord (neu reolwr) yr eiddo sy’n gyfrifol am wneud cais am drwydded Tŷ Amlfeddiannaeth. 

Trwyddedu gorfodol

Mae Deddf Tai 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i drwyddedu rhai mathau o Dai Amlfeddiannaeth.

Yn gyffredinol bydd angen trwydded orfodol ar Dŷ Amlfeddiannaeth os yw’n cwrdd â’r holl meini prawf canlynol:

  • Mae o leiaf pump neu ragor o bobl yn rhannu’r tŷ 
  • Mae’n dŷ tri llawr neu ragor (gan gynnwys isloriau, atigau ac unedau masnachol)

Trwyddedu ychwanegol

Yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar Fedi 21, 2021, cafodd cynllun pum mlynedd newydd Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ei gymeradwyo, i ddechrau ar Ionawr 21, 2022.  

Mae copi o’r dynodiad ar ModernGov (mae’r adroddiad i’r Bwrdd Gweithredol a’u penderfyniad wedi ei restru o dan bwynt 7).

Fe allwch weld copi caled o’r dynodiad drwy apwyntiad yn ein swyddfeydd yn Stryt y Lampint. I wneud apwyntiad cysylltwch â’n tîm Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai drwy ebostio healthandhousing@wrexham.gov.uk.  

Darllenwch yr Hysbysiad Cyhoeddus isod ynglŷn â chyflwyno ‘Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2022’.

Gwneud cais am drwydded

Gallwch anfon e-bost at healthandhousing@wrexham.gov.uk i ofyn am gopïau o’r ffurflen gais gyfredol am drwydded HMO.

Trosolwg o’r broses o drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth

Trosolwg o’r broses o drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth
Crynodeb o'r drwydded

Os ydych yn rhentu eich eiddo fel tŷ amlfeddiannaeth, efallai bydd angen i chi gysylltu â ni i wneud cais am drwydded (fel eich awdurdod tai lleol). 

Fel yr awdurdod tai lleol rydym yn gweithredu cynlluniau trwyddedu gorfodol ac ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth.

Os yw eich eiddo yn cael ei ystyried yn Dŷ Amlfeddiannaeth mae’n rhaid i chi gysylltu â ni i wneud cais am drwydded  (codir ffi).

Meini prawf cymhwysedd

Mae’n rhaid i chi fod yn unigolyn cymwys a phriodol i gael trwydded.

Mae’n rhaid i’r rheolwr arfaethedig fod yn unigolyn cymwys a phriodol.

Meini prawf trwyddeduCrynodeb o'r meini prawf trwyddedu ar gyfer y drwydded hon (dolen gyswllt allanol) 
Y broses gwerthuso ceisiadau

Bydd trwyddedau yn cael eu caniatáu os yw’r canlynol yn gymwys:

  • mae’r tŷ yn addas, neu mae’n bosibl ei addasu, ar gyfer ei ddefnyddio fel tŷ amlfeddiannaeth
  • mae’r ymgeisydd yn unigolyn cymwys a phriodol ac ef/hi yw’r unigolyn mwyaf priodol i gael y drwydded
  • mae gan y rheolwr arfaethedig reolaeth dros y tŷ, ac mae’n unigolyn cymwys a phriodol i fod yn rheolwr
  • mae’r trefniadau rheoli yn foddhaol
A fydd cydsyniad tawelyn gymwys?Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i ni brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Dylech chi gysylltu â ni   os nad ydych wedi clywed a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.
Cyfnod targed ar gyfer cwblhau70 diwrnod calendr.
CyswlltEbost: healthandhousing@wrexham.gov.uk
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Gwasanaethau Tai, Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU
Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd    

Cysylltwch gyda ni yn y lle cyntaf. 

Gallwch apelio i dribiwnlys eiddo preswyl.
Rhaid cyflwyno unrhyw apêl cyn pen 28 diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf. 

Gallwch apelio i dribiwnlys eiddo preswyl am amodau sydd ynghlwm â thrwydded neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu ddirymu trwydded.

Rhaid cyflwyno apêl cyn pen 28 diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.

Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru (dolen gyswllt allanol)

Cwyn gan ddefnyddiwrOs bydd trwydded yn cael ei chaniatáu ac rydych yn dymuno apelio yn erbyn y penderfyniad i’w chaniatáu, gallwch apelio i dribiwnlys eiddo preswyl cyn pen 28 diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.
Cymdeithasau masnach

Safeagent (dolen gyswllt allanol)

Rhentu Doeth Cymru (dolen gyswllt allanol)

Ffioedd trwyddedu

Ffioedd trwyddedu
Math o drwyddedCost
Trwydded newydd (Trwydded Orfodol neu Drwydded Ychwanegol) - 5 mlynedd£898 (rhaid talu £493.90 wrth gyflwyno cais, a bydd y £404.10 sy’n weddill yn cael ei dalu ar ôl i benderfyniad gael ei wneud i ganiatáu’r drwydded, ond cyn rhoi’r drwydded).
Trwydded newydd (Trwydded Orfodol neu Drwydded Ychwanegol) - 1 blwyddyn£561 (rhaid talu £308.55 wrth gyflwyno cais, a bydd y £252.45 sy’n weddill yn cael ei dalu ar ôl i benderfyniad gael ei wneud i ganiatáu’r drwydded, ond cyn rhoi’r drwydded).
Adnewyddu Trwydded Orfodol - 5 mlynedd£898 (rhaid talu £493.90 wrth gyflwyno cais, a bydd y £404.10 sy’n weddill yn cael ei dalu ar ôl i benderfyniad gael ei wneud i ganiatáu’r drwydded, ond cyn rhoi’r drwydded).

 

Gallwch hefyd brynu copi o’r Gofrestr Tai Amlfeddiannaeth am £8. 

Amodau’r drwydded a rheoliadau rheoli

Gorlenwi

Tai Amlfeddiannaeth wedi’u trwyddedu 

Yn achos Tai Amlfeddiannaeth y mae’n rhaid eu trwyddedu, mae nifer y bobl a’r aelwydydd a ganiateir yn rhan o amodau’r drwydded, ac mae unrhyw gyfyngiadau ar y defnydd o ystafelloedd wedi’u cynnwys hefyd. 

Mae caniatáu i fwy o aelwydydd neu bobl fyw mewn Tŷ Amlfeddiannaeth na’r nifer a ganiateir o dan y drwydded yn drosedd a gall arwain at ddirwy heb uchafswm (£20,000 yn flaenorol).

Gweler ‘Safonau gofynnol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth wedi’u trwyddedu’ i gael gwybodaeth am y gofynion o ran maint ystafelloedd (yn dibynnu ar y math o Dŷ Amlfeddiannaeth a nifer y preswylwyr).

Tai Amlfeddiannaeth sydd wedi’u heithrio rhag gofynion trwyddedu

Yn achos Tai Amlfeddiannaeth sydd wedi’u heithrio rhag gofynion trwyddedu, gellir gosod cyfyngiadau ar nifer y bobl a’r aelwydydd, yn ogystal â’r defnydd o ystafelloedd, os bydd Hysbysiad Gorlenwi yn cael ei gyflwyno.

Mae amodau gorfodol yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded wneud y canlynol ...

  • cyflwyno tystysgrif diogelwch nwy yr archwiliad blynyddol i ni (fel yr awdurdod lleol) 
  • cadw offer trydanol a dodrefn (a ddarperir gan reolwr yr eiddo) mewn cyflwr diogel a chyflwyno datganiad gan y rheolwr yn tystio i’w diogelwch (gan gynnwys tystysgrifau diogelwch ar gyfer offer trydanol)
  • gosod larymau mwg a sicrhau eu bod yn gweithio a chyflwyno datganiad yn tystio i’w diogelwch, os byddwn yn gofyn am hyn
  • rhoi datganiad ysgrifenedig i’r preswylwyr yn nodi telerau eu meddiannaeth.

Dyma grynodeb o amodau gofynnol y drwydded – i gael rhagor o fanylion am y dyletswyddau mae’n rhaid i reolwr Tŷ Amlfeddiannaeth eu cyflawni, edrychwch ar dudalennau’r wefan legislation.gov.uk a nodir isod (o dan rheoliadau rheoli / ‘management regulations’).

Yn ogystal â’r amodau gorfodol, rydym ni (Cyngor Wrecsam) yn cynnwys amodau eraill rydym yn eu hystyried yn briodol ar gyfer rheoleiddio rheolaeth, defnydd a meddiannaeth Tai Amlfeddiannaeth a’u cyflwr a’u cynnwys.

Mae pob trwydded yn cynnwys amodau sy’n benodol i bob Tŷ Amlfeddiannaeth a allai fod angen gwaith ychwanegol /neu er mwyn cyfyngu ar y defnydd o ran o’r eiddo, yn ogystal â’r amodau safonol y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw bob amser (neu o fewn yr amserlen a nodir).

Mae pob achos o dorri amod trwydded yn drosedd a all arwain at ddirwy heb uchafswm (£20,000 yn flaenorol).

Rheoliadau Rheoli

  • Ar gyfer pob Tŷ Amlfeddiannaeth, ac eithrio blociau o fflatiau wedi’u haddasu, mae ‘Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006’ yn gymwys.
  • Ar gyfer blociau o fflatiau wedi’u haddasu, mae Adran 257 Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaeth Ychwanegol) (Cymru) 2007 yn gymwys.

Cysylltiadau Legislation.gov.uk

O ran y rheoliadau, mae dyletswyddau hefyd yn cael eu gosod ar y tenantiaid.

Mae pob achos o dorri rheoliad yn drosedd a all arwain at ddirwy heb uchafswm (£20,000 yn flaenorol).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyfraith Cymru neu gallwch gysylltu â’n tîm Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai drwy anfon e-bost at healthandhousing@wrexham.gov.uk.

Safonau Rhagnodedig ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth Trwyddedig

Gallwch anfon neges e-bost at healthandhousing@wrexham.gov.uk i wneud cais am gopïau o’r safonau rhagnodedig canlynol:

  • Categori A1 – Fflatiau un ystafell
  • Categori A2 – Tai amlfeddiannaeth o fath fflatiau un ystafell (rhannu cyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi)
  • Categori B – Tai a rennir
  • Categori F – Fflatiau Adran 257

Mae’r safonau rhagnodedig yn ychwanegol at y gofynion dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS).

Caniatâd cynllunio

Mae’n rhaid cael caniatâd cynllunio os ydych am adeiladu eiddo, ychwanegu estyniad neu newid defnydd adeilad a’i droi yn Dŷ Amlfeddiannaeth. 

Mae’r nodiadau arweiniol canlynol yn nodi sut byddwn ni’n asesu cynigion ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth, o ran sut rydym yn bwriadu rheoli crynodiadau o Dai Amlfeddiannaeth yn Wrecsam yn ogystal â safonau eraill y disgwylir i ddatblygiadau Tai Amlfeddiannaeth arfaethedig eu cyrraedd. Mae’r nodiadau arweiniol yn cynnwys manylion am bolisïau’r Cynllun Datblygu Unedol (CDU) a bydd yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. 

Eiddo wedi’u heithrio

Mae rhai mathau o adeiladau wedi’u heithrio rhag trwyddedu, mae’r rhain yn cynnwys:

  • eiddo sy’n cael eu rheoli gan gyrff cyhoeddus neu sy’n eiddo iddynt (fel yr heddlu neu’r GIG), awdurdod lleol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig
  • adeiladau sydd wedi’u meddiannu’n llwyr gan rydd-ddeiliaid neu les-ddeiliaid tymor hir.

Dogfennau

Y ffordd fwyaf cyflym o ymgeisio ydi drwy’r cais trwyddedu ar gov.uk (dolen gyswllt allanol).

s ydych chi’n cael problemau yn lawrlwytho/cael gafael ar y ffurflen ar gov.uk, gallwch anfon e-bost i healthandhousing@wrexham.gov.uk i ofyn am gopi o’r ffurflen.

Gallwch wneud cais am gopi o’n polisi trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth drwy anfon e-bost at  healthandhousing@wrexham.gov.uk.

Tai Amlfeddiannaeth yn Wrecsam

Rydym yn darparu rhestr o eiddo sydd wedi’u trwyddedu ar hyn o bryd fel Tai Amlfeddiannaeth yn Wrecsam, gan gynnwys cyfeiriadau a dyddiad terfyn bob trwydded. Os oes unrhyw eiddo sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd gyda hysbysiad eithriad, byddwn yn darparu ‘cofrestriad o hysbysiadau eithriad dros dro’ isod.

Rhoi gwybod am Dŷ Amlfeddiannaeth heb ei drwyddedu 

Dechreuwch rŵan