Rhaglennydd/amserydd gwres canolog

Mae hyn yn eich galluogi i bennu amseroedd i’ch gwres droi ymlaen ac i ffwrdd yn awtomatig i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw. Mae dau fath o raglennydd yn gyffredinol, cloc llaw gyda thabiau i nodi’r amseroedd gwresogi ac un electronig.

Gwnewch yn siŵr bod yr amserydd yn cael ei osod i’r amser cywir yn y dydd. Os oes gennych foeler cyfunol (combi) yna byddwch ond yn gosod y cyfnodau gwresogi ar gyfer y rheiddiaduron, oherwydd mae’r dŵr poeth yn cael ei gynhesu ar unwaith pan fydd y tapiau dŵr poeth yn cael eu hagor.

Gosod yr amserydd

Ar ba amseroedd y dylwn osod fy amserydd i ddod ymlaen a throi i ffwrdd? 

Mae’n well i chi osod i’ch gwres droi ymlaen tua hanner awr cyn y byddwch eisiau i’ch cartref fod yn gynnes (fel arfer pan fyddwch yn deffro) a throi i ffwrdd tua hanner awr cyn i chi ddod allan neu fynd i’ch gwely. Yn ddelfrydol, dylech redeg y system mewn dau gyfnod, ac am ddim mwy na chyfanswm o nawr awr y diwrnod.

Beth y mae’r ddau fath o amserydd yn ei reoli? 

Mae’r darluniau isod yn dangos sut y gallai rhaglenwyr/amserwyr llaw edrych.

Image
""

Rhaglennydd/amserydd llaw ar gyfer boeler combi – yn amseru gwresogi rheiddiaduron yn unig.

Image
""

Rhaglennydd/amserydd llaw ar gyfer boeler nad yw’n un combi – yn amseru gwresogi rheiddiaduron a dŵr poeth.

Image
""

Rhaglennydd/amserydd digidol ar gyfer boeleri nad ydynt yn gyfunol – yn amseru gwresogi rheiddiaduron a dŵr poeth.

Gosod y thermostatau

Sut mae thermostatau ystafell yn gweithio?

Mae’n rheoli tymheredd eich cartref cyfan, yn seiliedig ar dymheredd yr aer sy’n cylchredeg o amgylch y cartref.  Pan fydd yr aer amgylchynol yn ddigon cynnes, mae’r thermostat yn anfon signal i’r pwmp gwres canolog a’r boeler i stopio cynhesu eich rheiddiaduron.  Maent fel arfer yn yr ystafell fyw, cyntedd neu’r ystafell fwyta.

Ar ba dymheredd y dylwn osod fy thermostat ystafell?

Fel arfer argymhellir tymheredd o rhwng 18°- 21°C (66°- 70°F). Os ydych yn hŷn, neu’n sâl, efallai y byddwch eisiau ei osod ychydig yn uwch 21°- 23°C (70°- 73°F).

Thermostat y boeler

Dyma reolydd sydd ar y boeler ei hun.

Mae’n rheoli tymheredd y dŵr poeth sy’n llifo o amgylch y pibellau i’r rheiddiaduron.

Sut y dylwn osod thermostat fy moeler?

Gallai thermostat y boeler fod wedi’i raddio’n wahanol i foeleri eraill. Bydd y boeler yn gweithredu’n fwyaf effeithlon ar y gosodiad uchaf. Dylid ei osod ar uchel/5 yn y gaeaf ac isel/1 yn yr haf.

Falfiau rheiddiaduron thermostatig (TRVs)

Pan fydd yr aer o amgylch eich thermostat ystafell yn oeri bydd y thermostat yn anfon signal arall i’r pwmp gwres canolog a’r boeler i ddechrau cynhesu’r dŵr eto i’w bwmpio o amgylch eich pibelli i’ch rheiddiaduron. Bydd eich rheiddiaduron yn dechrau cynhesu eto.  Bydd eich rheiddiaduron yn teimlo’n oerach a chynhesach drwy gydol y dydd, er mwyn cadw’r tymheredd yn gyson.

Gwnewch yn siŵr bod y falfiau thermostatig ar y rheiddiaduron a’r cloc amser wedi’u gosod ar y tymheredd a’r amser a ddymunir. Mae’n well gosod eich TRV ar osodiad canolig a gweld a yw’r ystafell yn ddigon cynnes. Os yw’r ystafell yn rhy gynnes, trowch y TRV i lawr 1, os bydd yr ystafell yn rhy oer, trowch y TRV i fyny 1. Mae gosodiad canolig gyfwerth â thua 20°C (68°F). Peidiwch â throi’r TRV ymlaen yn llwyr neu i ffwrdd yn llwyr er mwyn gwneud yr ystafell yr ydych ynddi yn gynhesach neu’n oerach – bydd hyn yn gwastraffu tanwydd.  Trowch y falfiau thermostatig ychydig a gadael iddynt wneud y gwaith.

Y pwmp trydan

Mae hwn wedi’i leoli ger y cloc amser fel arfer ac mae’n rhaid ei droi ymlaen er mwyn i’r dŵr gael ei ddosbarthu i’r rheiddiaduron.

Tanc dŵr poeth

Sut y gallaf inswleiddio fy nhanc dŵr poeth?

Gallwch brynu siaced ar gyfer eich tanc dŵr poeth o’ch siop DIY leol. Dyma’r un o’r pethau mwyaf syml a rhad y gallwch eu gwneud i leihau eich biliau tanwydd ac arbed ynni. Mae rhai silindrau gydag ewyn inswleiddio wedi’i chwistrellu arnynt ac felly nid oes angen siaced arnynt. Mae hefyd yn fuddiol inswleiddio’r pibelli sy’n mynd i mewn ac allan o’r tanc, a gallwch gael tiwbiau ewyn i wneud hyn.

Beth sy’n rheoli tymheredd fy nŵr poeth?

Mae thermostat wedi’i osod ar danciau storio dŵr poeth fel arfer i reoli tymheredd y dŵr. Ar gyfer dŵr sy’n cael ei gynhesu gan dwymwr tanddwr trydan, mae’r thermostat y tu mewn i’r tanc. Os ydych yn cynhesu eich dŵr gyda boeler cyfunol (combi), mae’r rheolydd dŵr poeth ar y boeler.

Ar ba dymheredd y dylid gosod thermostat y tanciau?

Bydd y tymheredd a osodwch yn penderfynu ar dymheredd y dŵr poeth sy’n dod allan o’r tapiau dŵr poeth. Yn ddelfrydol, dylid ei osod ar 60°C ac yn sicr dim is na 55°C (oherwydd gallai hyn achosi clefyd y llengfilwyr).

Tenantiaid newydd

Os ydych wedi symud i dŷ cyngor yn ddiweddar, efallai na fydd y cyfarwyddiadau ar gyfer gweithredu’r system wresogi ar gael. Bydd un o’n contractwyr nwy yn esbonio’r rheolyddion i chi yn ystod y gwiriad diogelwch nwy, os bydd angen.

Os ydych yn cael anhawster i ddeall eich system ac nad oes gennych gymdogion â systemau tebyg i’w holi, gallwch gysylltu â’ch swyddfa tai leol. Gallant drefnu i rywun alw draw a’i esbonio i chi eto.