Os oes gennych system gwres trydan bydd yn un sy’n defnyddio gwresogyddion storio trydan fel arfer, a elwir yn ‘Economy 7’.

Economy 7 yw’r tariff a ddefnyddir i gyflenwi trydan. Codir cyfraddau gwahanol am y trydan a ddefnyddiwch, yn ôl yr amser o’r dydd neu’r nos y caiff ei ddefnyddio. Bydd y rhan fwyaf o’r ynni sy’n cael ei gyflenwi ar gyfer gwresogi a dŵr poeth ar y gyfradd is (nos), pan fydd cost trydan yn rhatach. Codir y gyfradd uwch (dydd) ar gyfer y trydan sy’n weddill sydd ei angen at ddibenion nad ydynt yn gwresogi (coginio, smwddio, gwylio’r teledu ac yn y blaen). Mae hyn yn costio bron deirgwaith yn uwch na’r gyfradd is.

Cyflenwir dŵr poeth o silindr capasiti uchel. Mae’r silindr, sydd â thanc uwch ei ben, wedi’i inswleiddio ac mae dau wresogydd trochi wedi’u cysylltu iddo.

Mae dwy ffordd sylfaenol o ddefnyddio’r system dŵr poeth, bydd y dewis gorau i chi yn dibynnu ar eich ffordd o fyw a’ch defnydd o dŵr.

Pa osodiadau y dylwn eu defnyddio i sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf?

Os ydych yn defnyddio llawer o ddŵr poeth i goginio a golchi dillad, yna defnyddio’r gwresogydd storio nos yw’r dull rhataf fel arfer. Drwy ddefnyddio’r gwresogydd trochi ar waelod y silindr, bydd tanc llawn o ddŵr yn cael ei wresogi ar y gyfradd nos rataf. Yna gallwch ddefnyddio’r dŵr sydd wedi’i gynhesu a’i stori yn ôl yr angen yn ystod y dydd. Yna gall y gwresogydd trochi uchaf godi tymheredd y dŵr os byddwch ei angen yn ystod y prynhawn neu gyda’r nos.

Os na fyddwch yn defnyddio llawer iawn o ddŵr poeth, gallai fod yn rhatach defnyddio’r gwresogydd trochi uchaf yn ôl yr angen i gael dŵr poeth fel y byddwch ei angen. Gallech gael y rhan fwyaf o’ch dŵr poeth ar y gyfradd  rad - yn arbennig os byddwch yn aros i fyny yn hwyr neu’n codi’n gynnar. Bydd y swm o arian y byddwch yn ei arbed yn dibynnu ar amseriad eich defnydd o ddŵr er mwyn osgoi defnyddio’r gyfradd ddydd ddrutach.

Gwresogyddion storio nos

Mae gwresogyddion storio yn gwefru gan ddefnyddio trydan ar y gyfradd ratach. Mae elfennau gwresogi yn cynhesu màs am hyd at saith awr bob nos. Yna bydd y gwres sydd wedi’i storio yn cael ei ryddhau yn ystod y diwrnod canlynol, ac mae’r gwres hwnnw sy’n cael ei ryddhau yn cael ei reoli gan ddamper sy’n cael ei reoli gan thermostat. Bydd y swm o wres y bydd yr uned yn ei dderbyn yn cael ei bennu gan synhwyrydd o bell sy’n monitro tymheredd yr ystafell.

Gweithredu’r gwresogydd storio nos

  • Gwnewch yn siŵr bod y sbardun ffiwsiog ar y wal ger y gwresogydd wedi’i droi ymlaen
  • Gosodwch y rheolwr mewnbwn i’r gosodiad gofynnol, fel arfer rhwng 3 a 5 (efallai y bydd angen ychydig o arbrofi gyda hyn)
  • Gwnewch yn siŵr bod y rheolwr hwb wedi’i osod ar 1

Defnyddio’r rheolwr hwb

Mae’r rheolwr hwb wedi’i rifo o 1 i 5. Bydd y gwresogydd yn gweithio’n dda y rhan fwyaf o amser ar 1. Gallwch gynyddu allbwn y gwresogydd os bydd angen gwres ychwanegol arnoch yn ystod y prynhawn a gyda’r nos, drwy droi’r hwb i rifau 2-5. Cofiwch ei symud yn ôl i 1 cyn i chi fynd i’r gwely.