Mae Houseproud yn gynllun yr ydym ni (Cyngor Wrecsam) yn ei gynnal i wneud yn siŵr bod unrhyw welliannau i’r cartref, gwaith atgyweirio ac addasiadau i eiddo yn cael eu cyflawni yn ddiogel ac yn broffesiynol – gan dawelu eich meddwl. 

Mae’r cynllun wedi’i lunio i helpu perchnogion tai a fydd yn talu gyda’u harian eu hunain, neu drwy fenthyciad i wneud gwelliannau i’r cartref (mae ffi fach wrth ddefnyddio'r cynllun hwn).

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Bydd swyddog Houseproud yn eich helpu i’ch arwain drwy’n broses, yn gyntaf drwy ymweld â’ch cartref i drafod pa welliannau, atgyweiriadau neu addasiadau yr hoffech ac i weld a ydych yn gymwys am gymorth drwy Houseproud, neu unrhyw gynllun arall. 

Os ydych yn gymwys, gall y swyddog Houseproud siarad â chi am y math o waith sydd ei angen a faint mae’n debygol o gostio. Hefyd gallent eich helpu i ddewis adeiladwyr cyfrifol wedi’u cymeradwyo gennym ni, ac ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau bydd archwiliad i wneud siŵr ei fod i’r safon orau.

Ar ôl cytuno sut y byddwch yn talu am y gwaith, bydd y swyddog Houseproud yn llunio’r fanyleb a chyflwyno dogfennaeth tendr sydd yn cynnwys disgrifiad o’r gwaith gofynnol, fel y gall yr adeiladwyr sydd wedi’u cymeradwyo gennym ni yn gynnig pris am y gwaith sydd wedi’i gynllunio.

Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo byddwn yn cyfarwyddo’r adeiladwr y caiff ddechrau ar y gwaith. Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau, bydd y Swyddog Houseproud yn trefnu archwiliad terfynol i sicrhau bod y gwaith wedi ei wneud i’r ansawdd disgwyliedig. Bydd yr adeiladwr yn rhoi anfoneb i chi i chi eu talu'n uniongyrchol.

Talu’r Ffioedd

Os ydych yn dewis i'r gwaith arfaethedig barhau yna bydd arnoch angen llenwi a llofnodi 'Ffurflen Ganiatâd Cynllun Houseproud' cyn y rhoddir awdurdod i'r contractwr ddechrau'r gwaith. 

Mae cost gwaith gweinyddu ar gyfer gwaith hwyluso 2.5% (gan gynnwys TAW) o swm y contract neu, lle mae swm y contract yn £2,000 neu lai bydd lleiafswm tâl o £50 (gan gynnwys TAW) yn berthnasol. Bydd ffi ond yn berthnasol os ydych yn dewis parhau â’r gwaith ac ar ôl llofnodi’r ffurflen Caniatâd Cynllun Houseproud. 

Os yw’r gwaith o raddfa fwy a bydd angen ceisiadau Rheoli a Chynllunio Adeiladu, bydd cost dechnegol yn 8% (gan gynnwys TAW) o'r swm contract (efallai bydd 2.5% o'r gost hon yn daladwy ar gyfer paratoi dyluniadau gan y pensaer a bydd y 5.5% sy'n daladwy os bydd y gwaith corfforol yn parhau).

Ar gyfer gwaith o raddfa fwy, byddwch yn gyfrifol am yr holl gostau cysylltiedig, gan gynnwys: 

  • Rheoli Adeiladu 
  • Cynllunio 
  • Peirianwyr Strwythurol
  • Adroddiadau Arbenigol 

Bydd ein hadran cyllid yn anfon anfoneb atoch yn uniongyrchol ar gyfer y ffioedd hyn sydd i’w talu.

Os ydych yn dymuno parhau â’r gwaith cynlluniedig, yna bydd gofyn i chi lenwi ‘ffurflen derbyn tendro’. Ar ôl cwblhau'r gwaith a gytunwyd, bydd y contractwr yn eich hanfonebu’n uniongyrchol am daliad. Bydd eich taliad yn unol â gwaith yn cael eu cwblhau i’ch bodlonrwydd a’i ardystio gan reolwr prosiect y cyngor.

Gwarant

Ni fyddwn (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn rhoi gwarant ar gyfer gwaith a weinyddir drwy’r cynllun Houseproud. Os ydych eisiau’r sicrwydd hwn, gellir trefnu hynny am gost ychwanegol yn uniongyrchol gyda'r adeiladwr.

Bydd yr holl waith yn cael ei gyhoeddi i gael ei dendro (cynnig swyddogol gyflawni'r gwaith) i gontractwyr sy'n aelodau o gyrff statudol perthnasol yn y diwydiant adeiladu, a chanddynt enw da am wneud gwaith i safon uchel ac am ofal cwsmer da. Mae’r holl gontractwyr yn cael eu monitro'n barhaus i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r holl amodau ar bob cynllun a gwblhawyd.

Sut allaf i wneud cais?

Rydych yn cysylltu â ni i drefnu apwyntiad gyda swyddog Houseproud drwy anfon e-bost at housing@wrexham.gov.uk.