Mae’r Dreth Gyngor yn dreth leol a godir ar bob eiddo domestig (oni bai bod eithriadau’n bodoli) ac mae iddi dair elfen:

  • Tâl Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Tâl Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru
  • Tâl eich cyngor cymuned

Rydym yn casglu’r holl daliadau hyn, ac yn talu’r symiau a gasglwyd ar ran awdurdod yr heddlu a'r cynghorau cymuned unigol, yn ogystal â chadw’r swm sy’n ddyledus i ni.

Mae lefelau Treth y Cyngor yn cael eu gosod yn flynyddol yn seiliedig ar fand prisio eich eiddo. Mae’r dreth sy’n cael ei chasglu yn cael ei defnyddio i helpu i dalu am wasanaethau pwysig fel addysg a gofal cymdeithasol.

Mae’r cyfanswm sy’n ddyledus yn cwmpasu dwy ran, 50% mewn perthynas â’r eiddo a 50% mewn perthynas â’r meddiannydd.

Mae’r rhan eiddo yn daladwy o dan holl amgylchiadau, ond gall yr elfen bersonol gael ei leihau mewn amgylchiadau penodol.