Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn nodi ardal lle mae gweithgareddau’n cael eu cynnal sy’n niweidiol i ansawdd bywyd y gymuned leol, neu’n debygol o fod yn niweidiol iddo.

Er mwyn delio â niwsans penodol, mae’r Gorchmynion yn gosod amodau neu gyfyngiadau sy’n berthnasol i bawb sy’n defnyddio’r ardal honno.

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Dinas Wrecsam 2023

Daeth y gorchymyn i rym ar 8 Mawrth, 2023 a bydd yn dod i ben ar 7 Mawrth, 2026.

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Arfaethedig Gosod Giatiau ar Lwybrau Queensway 2021

Daeth y gorchymyn i rym ar 11 Mawrth, 2021 a bydd yn dod i ben ar 10 Mawrth, 2024.