Cynigia’r Neuadd Goffa ystod o gyfleusterau ar gyfer digwyddiadau syʼn amrywio o gynadleddau a seminarau i ffeiriau, dawnsfeydd, disgos, cyngherddau a llawer mwy!

Wedi ei lleoliʼn ganolog â digon o le parcio a threfniadau arlwyo hyblyg, maeʼn  lle delfrydol iʼw hurio.

Cynadleddau a seminarau

Gall y Neuadd ddal grwpiau o 20 i 300 a gellir ei rhannu yn dri lle ar wahân. Gallwch hurio fflipsiartiau, uwchdaflunydd a chyfarpar arall.

Gallwn ddarparu lluniaeth a chinio ar eich cyfer hefyd.

Partïon priodas

Gydaʼi lle hyblyg, goleuadau disgo a man bwyta ar wahân, maeʼr Neuadd yn lle poblogaidd ar gyfer partïon gydaʼr nos a digwyddiadau trwyʼr dydd.

Digwyddiadau

Mae digwyddiadau wythnosol y Neuadd yn cynnwys dawnsfeydd te, karate, dawnsio llinell a jeifio! Mae croeso i bawb – cysylltwch âʼr Neuadd am fanylion oʼr gweithgareddau presennol.

Arlwyo

Gallwch archebu amrywiaeth o fwyd bys a bawd a lluniaeth, dod âʼch arlwywyr eich hun neu goginioʼr bwyd eich hun!

Cyfleusterau i bobl anabl

Maeʼr Neuadd ar un lefel gyda ramp ar gyfer mynediad mewn cadair olwyn, mae ganddi doiledau i bobl anabl, lifft llwyfan a dolen gyswllt.

Cysylltwch â ni

Y Neuadd Goffa
Bodhyfryd
Wrecsam
LL12 7AG

Ffôn: 01978 292683
Ebost: memorialhall@wrexham.gov.uk