Mae gan lyfrgelloedd Wrecsam bob math o wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc.

Gallwch chi ymuno â’r llyfrgell am ddim. 

Ymunwch ar-lein neu ewch i’ch llyfrgell leol.  Bydd angen i chi ddod â rhiant neu warcheidwad gyda chi a bydd angen iddo ef neu hi ddangos un peth i brofi ei enw a’i gyfeiriad.  Gallwch chi ymuno heb eich rhiant neu warcheidwad hefyd ond bydd angen i chi ddangos un peth i brofi ei enw a’i gyfeiriad (cofiwch ofyn am ei ganiatâd i wneud hyn).

Beth allaf i ei fenthyca ac am ba hyd?

Gallwch fenthyca...

  • Hyd at 20 o lyfrau am dair wythnos

Os nad oes rhywun arall yn gwneud cais am yr eitem, yna gallwch ei chadw am hirach trwy ei hadnewyddu. Gallwch adnewyddu y mwyafrif o eitemau (hyd at uchafswm o 5 o weithiau) ar-lein, dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb.

Dim ond am dri diwrnod y mae modd adnewyddu eitemau sydd wedi eu rhoi ar gadw gan rywun arall.

Gallwch fenthyca’r canlynol mewn Saesneg a Chymraeg...

  • Llyfrau bwrdd
  • Llyfrau i fabanod
  • Llyfrau i ddarllenwyr newydd
  • Llyfrau lluniau
  • Llyfrau stori
  • Llyfrau gwybodaeth
  • Llyfrau i bobl ifanc
  • Llyfrau llafar
  • E-lyfrau llafar
  • E-lyfrau
  • Llyfrau i rai yn eu harddegau
     

Beth os na allaf ddod o hyd i’r llyfr sydd ei eisiau arnaf?

Gallwch holi aelod o staff os oes arnoch angen unrhyw gymorth wrth ddod o hyd i lyfrau.

Os nad yw’r llyfr y mae arnoch ei eisiau ar gael o Lyfrgelloedd Wrecsam, mae’n bosib y bydd modd i ni gael gafael arno o lyfrgelloedd eraill yng Nghymru am ddim.

Os nad yw ar gael mewn llyfrgelloedd Cymreig eraill, mae’n bosib y bydd angen i ni ei archebu o lyfrgell arall yn y DU. Codir ffi fechan am hyn.
 

Fydda i’n gorfod talu os bydd fy llyfrau’n hwyr?

Na fyddwch, does dim dirwyon am ddychwelyd llyfrau’n hwyr ar gardiau llyfrgell plant.
 

Beth os byddaf yn difrodi eitem?

Does dim tâl am ddychwelyd eitemau wedi’u difrodi os ydyn nhw wedi cael eu benthyca ar gerdyn llyfrgell plentyn.

Oes help ar gael i wneud gwaith cartref?

Oes, mae’r rhain ar gael yn eich llyfrgell:

  • Llyfrau gwybodaeth
  • Cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd
  • Argraffu a llungopïo
  • Staff wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth mewn llyfrau neu ar-lein

Hefyd mae llawer o adnoddau a gwasanaethau defnyddiol i’ch helpu i wneud eich gwaith cartref.

Mae’r gwasanaethau hyn ar gael am ddim i aelodau llyfrgelloedd Wrecsam:
 

Ga’ i ddefnyddio’r cyfrifiaduron yn y llyfrgell?

Cewch, mae cyfrifiaduron â chysylltiad am ddim â’r Rhyngrwyd ym mhob llyfrgell. Fodd bynnag, bydd angen i’ch rhiant neu warcheidwad lofnodi ffurflen ganiatâd i chi eu defnyddio.

Beth arall sydd ar gael?

Rydyn ni’n cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ein llyfrgelloedd i blant drwy gydol y flwyddyn. Dyma rai o’r pethau difyr rydyn ni’n eu trefnu i chi:

  • Amser stori a rhigwm
  • Grwpiau darllen
  • Grwpiau ysgrifennu
  • Sesiynau celf a chrefft
  • Sgwadiau sgwennu (dolen allanol)
  • Sialens Ddarllen yr Haf
  • Diwrnod y Llyfr (dolen allanol)
  • Dechrau Da
  • Ymweliadau gan awduron
  • Lego i'r teulu

I gael rhagor o fanylion, ewch i’ch llyfrgell leol.

Rhai yn eu harddegau ac oedolion Ifanc

Mae lle penodol i bobl yn eu harddegau yn llyfrgell Wrecsam – mae stoc dda o lyfrau ffuglen, ffeithiol a llafar yn ogystal â nofelau comig a graffig.

Mae’r teitlau diweddaraf gennym yn cynnwys hunangofiannau poblogaidd gan bobl enwog, llyfrau sy’n gysylltiedig â rhaglenni teledu poblogaidd a dewis da o llyfrau llafar sy’n addas i rai yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Rydyn ni hefyd yn falch o gynnig gwasanaeth E-Gronau ar ran Llyfrgelloedd Cymru fel ei bod yn hawdd i chi gael gafael ar eich hoff gyhoeddiadau i’ch gliniadur, ffôn neu lechen.

Gallwch ymaelodi â’r llyfrgell am ddim ac wedyn gallwch fenthyca eitemau’n ddi-dâl yn ogystal â defnyddio ein cyfrifiaduron am ddim. Mae gennym gyfleusterau argraffu, sganio a llungopïo yn ogystal â Wi-Fi am ddim. Mae cyfleusterau astudio a chyfeirio ar gael hefyd, ynghyd â byrddau sy’n addas ar gyfer gwaith grŵp a gwaith unigol.

Dewch i weld beth sydd ar gael – mae’r staff yn gyfeillgar ac yn barod iawn i helpu ac os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i eitem benodol, rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth ceisiadau.

Gwasanaethau arbennig

Dechrau Da

Mae Dechrau Da yn rhaglen genedlaethol sy’n cael ei chydlynu gan Booktrust. Mae’n darparu pecynnau llyfrau am ddim i fabanod 7 i 9 mis oed, ac i bob plentyn 18 i 24 mis oed, sy’n cael eu rhoi gan Ymwelwyr Iechyd mewn clinigau babanod. Mae’r pecyn yn cynnwys canllawiau i rieni ac yn hyrwyddo cariad at lyfrau drwy gydol oes. Mae’r cynlluniau’n cael eu cydlynu’n lleol gan y Gwasanaeth Llyfrgelloedd.

Mae croeso i famau fwydo ar y fron yn ein holl lyfrgelloedd.

Amser stori a rhigwm

Mae’r sesiynau hwyliog hyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn nifer o lyfrgelloedd Wrecsam.

Bydd croeso cynnes yn y llyfrgelloedd i rieni, gofalwyr a phlant dan bump oed i glywed storïau, caneuon a rhigymau.

Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i gael manylion.
 

Ymweliadau gan ysgolion

Bydd croeso mawr i ymweliadau gan ddosbarthiadau ysgol i unrhyw un o lyfrgelloedd Wrecsam a gellir trefnu’r rhain drwy’r llyfrgell leol. Os ydych yn athro neu’n athrawes, cysylltwch â’r llyfrgell agosaf. 

Hygyrchedd

Mae croeso i bob plentyn. Mae’r rhan fwyaf o’r llyfrgelloedd yn darparu mynediad i bobl anabl, llyfrau llafar, llyfrau print bras a llyfrau o ddiddordeb i rieni a gofalwyr plant sydd ag anghenion arbennig. I gael rhagor o fanylion, gofynnwch i aelod o’r staff.

Mae gennym gasgliad o lyfrau Braille a phrint bras o’r enw ‘Access2Books’.