Oherwydd y galw ar y gwasanaeth, ni fydd gwasanaeth cynhyrchu tystysgrifau ar gael o dan unrhyw amgylchiadau nes yr hysbysir yn wahanol.

Gallwch archebu copi o dystysgrif geni, priodas neu farwolaeth gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. 

Ar-lein: GOV.UK: Archebwch dystysgrif geni, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil (dolen gyswllt allanol)

Dros y ffôn: 0300 123 1837

Costau tystysgrifau/taliad

Mae tystysgrifau geni, marwolaeth, priodas a phartneriaeth sifil yn costio £11 yr un.

Bydd tystysgrifau a archebir yn cael eu postio i’r cyfeiriad ar y ffurflen gais, 10 diwrnod gwaith ar ôl archebu.

Ffioedd gwasanaethau ychwanegol

GwasanaethFfi
Pob tystysgrif geni fer a gyhoeddir ar adeg cofrestru£11
Ystyriaeth gan gofrestrydd arolygol o ysgariad/ddiddymu partneriaeth sifil a gafwyd y tu allan i Ynysoedd Prydain£50
Ystyriaeth gan Gofrestrydd Cyffredinol o ysgariad/ddiddymu partneriaeth sifil a gafwyd y tu allan i Ynysoedd Prydain£75
Llythyr a ddarperir gan y Cofrestrydd Cyffredinol i gadarnhau, ar sail y wybodaeth a ddarperir, nad oes cofnod o briodas neu bartneriaeth sifil yng Nghymru a Lloegr wedi’i ganfod o fewn cyfnod chwilio 10 mlynedd (er enghraifft: os oes ei angen wrth briodi neu ffurfio partneriaeth sifil y tu allan i Gymru neu Loegr)£50 (am bob chwiliad 10 mlynedd)

Ffioedd am gywiriadau i gofrestriad dechreuol

GwasanaethFfi
Enw cyntaf wedi’i ychwanegu o fewn 12 mis o gofrestru genedigaeth£40
Ystyriaeth gan gofrestrydd / cofrestrydd arolygol o gais am gywiriad £75
Ystyriaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol o gais am gywiriad£90

Dulliau talu

Gallwch ffonio 01978 298997 i dalu gyda cherdyn debyd/credyd.

Nid ydym yn argymell i chi anfon unrhyw fanylion ariannol neu bersonol dros e-bost.

Dyfarniad ysgariad

Gallwch gael copi o’ch papurau ysgariad gan y llys lle proseswyd yr ysgariad.

Os cyflawnwyd eich ysgariad yn Wrecsam gallwch wneud cais am gopi o’r archddyfarniad absoliwt gan:

Llys Sirol Wrecsam
Llys yr Ynadon
Wrecsam
LL12 7BP
Rhif Ffôn: 01978 317400

Cofnodion Ysgariad Cenedlaethol
First Avenue
42-49 High Holborn
Llundain 
WC1V 6NP
Rhif Ffôn: 020 7947 6051

Os oes gennych unrhyw gwestiynau o ran gwneud cais am gopïau o'r tystysgrifau, gallwch gysylltu â'n swyddfa gofrestru drwy anfon e-bost at registration@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 01978 298997.