Rydym ni’n darparu cyngor ac arweiniad i famau, tadau a gofalwyr plant a phobl ifanc o feichiogrwydd hyd at benblwydd y plentyn yn 20 oed. Rydym ni hefyd yn cynghori gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda theuluoedd. 

Cyngor i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol

Gallwch siarad gyda ni am bynciau yn cynnwys:

  • Gofal plant a chostau gofal plant
  • Cynnig Gofal Plant i Gymru
  • Gweithgareddau a digwyddiadau ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol
  • Ffynonellau o gefnogaeth i deuluoedd
  • Cefnogaeth i Rieni
  • Dyled a budd-daliadau
  • Datblygiad plant, ymddygiad, cwsg ac ati 
  • Addysg
  • Iechyd a Lles
  • Cymorth perthnasoedd
  • Gwasanaethau i blant anabl a phlant sydd ag anghenion ychwanegol

Cefnogaeth i rieni

Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth i helpu:

  • rhieni i dderbyn gwasanaethau y gallai fod eu hangen arnynt
  • gwella hyder rhieni
  • rhieni plant anabl a phlant gydag anghenion penodol i dderbyn gwasanaethau

Trwy’r Panel Seibiant Anabledd a Gofal Plant, rydym yn cefnogi teuluoedd sydd â phlant ag anableddau neu anghenion ychwanegol i:

  • wella lles a gwytnwch y teulu
  • galluogi rhieni i weithio

Trwy’r panel rydym hefyd yn cefnogi teuluoedd sydd â rhiant anabl neu angen ychwanegol; i ddefnyddio gofal plant a gwella lles/gwytnwch y teulu. 

Cysylltu â GGiDW

E-bost: fis@wrexham.gov.uk
Rhif ffôn: 01978 292094